two women discuss options at work

Benthyciadau i helpu mudiadau gwirfoddol i ‘oroesi, ailgodi a thyfu’

Cyhoeddwyd : 31/10/22 | Categorïau: Cyllid |

Mae’r Gronfa Benthyciadau Adfer wedi ail-agor i geisiadau, a £7 miliwn ar gael ar unwaith i elusennau a mentrau cymdeithasol yn y DU.

Mae ‘Social Investment Business’ (SIB) wedi ail-lansio’r Gronfa Benthyciadau Adfer ac mae ar agor nawr am geisiadau. Mae’r gronfa yn rhoi benthyciadau i elusennau a mentrau cymdeithasol yn y DU sydd angen help i oroesi, adfer a thyfu. Cafodd ei sefydlu gan SIB i wneud cynllun gwarant presennol gan y Llywodraeth, y Cynllun Benthyciadau Adfer (Saesneg yn unig) yn fwy hygyrch i elusennau a mentrau cymdeithasol.

Ar adeg o ansicrwydd economaidd parhaus a chyda galw cynyddol am wasanaethau a ddarperir gan elusennau a mentrau cymdeithasol, efallai y bydd mudiadau cymwys angen cyllid hyblyg i:

  • addasu modelau cyflenwi
  • amrywio ffrydiau incwm
  • rheoli llif arian
  • tyfu’r gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu, neu i
  • brynu technoleg newydd.

Yn ystod ei gyfnod cyntaf yn gynharach y flwyddyn hon, cymeradwyodd y Gronfa Benthyciadau Adfer fwy na £5 miliwn i 18 o fudiadau. Mae hyn wedi cefnogi amrediad o fudiadau sy’n gweithio ar draws y meysydd hyfforddiant ac addysg, iechyd meddwl a llesiant a thai a chyfleusterau cymunedol.

ELFEN GRANT DDIM AR GAEL YNG NGHYMRU

Mae SIB yn parhau i weithio gyda ‘Access – The Foundation for Social Investment’, ‘The Ubele Initiative’ a ‘Create Equity’ i gynnig grantiau a chyllid cymorth ochr yn ochr â’r Gronfa Benthyciadau Adfer i gefnogi elusennau a mentrau cymdeithasol a arweinir gan bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.

Noder: Mae’r grantiau ar gael i fudiadau sy’n gweithredu yn Lloegr yn unig.

CYSYLLTWCH AG CGGC I DRAFOD SUT GALLECH ELWA

I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Benthyciadau Adfer a sut i ymgeisio, ewch i dudalen y Gronfa (Saesneg yn unig). Gall mudiadau yng Nghymru gysylltu â’n tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru drwy anfon e-bost at sic@wcva.cymru i siarad am sut gallai weithio i chi.

PARTNERIAID A BUDDSODDWYR

Mae SIB yn gweithio gyda phartneriaid buddsoddiad cymdeithasol profiadol i gyflwyno’r gronfa hon: Big Issue InvestCAF Venturesome,  Charity Bank, Key FundResonanceSocial Investment Scotland (gwefannau Saesneg yn unig) ac CGGC, a chyda’r partneriaid pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig The Ubele Initiative Create Equity (gwefannau Saesneg yn unig).

Mae’r Gronfa yn cael ei rhedeg gan SIB, gyda buddsoddiad cychwynnol gan SIB a’r Fusion21 Foundation (Saesneg yn unig) – rhiant elusennol a buddsoddwr cymdeithasol y darparwr caffael mentrau cymdeithasol a sector cyhoeddus,  Fusion21. Ym mis Ionawr 2022, cyhoeddwyd The Archbishop’s Council, Big Society Capital, MFS Investment Management, a’r Treebeard Trust (Gwefannau Saesneg yn unig) fel buddsoddwyr pellach yn y Gronfa Benthyciadau Adfer.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/09/24 | Categorïau: Cyllid |

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy