Sad woman with coffee cup looks away alone at home in the night

Benthyciadau Arbed Tenantiaeth ar gael nawr gan Undebau Credyd

Cyhoeddwyd : 07/10/20 | Categorïau: Cyllid |

Mae CGGC yn falch o fod yn rhedeg y cynllun newydd hwn gyda Llywodraeth Cymru ac Undebau Credyd Cymru.

Os yw Covid-19 wedi peri i chi fod mewn dyled gyda’ch rhent, mae’n bosibl y gallai’r Cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth eich helpu.

Diben y cynllun benthyg yw atal digartrefedd yng Nghymru. Os ydych chi’n denant sy’n rhentu o’r sector rhentu preifat, a’ch bod chi’n cael trafferth talu’ch rhent oherwydd Covid-19, gallech fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad llog isel gan Undeb Credyd – gyda hyd at bum mlynedd i’w dalu’n ôl.

Bydd y benthyciad yn cael ei dalu’n syth i’ch landlord neu asiant, gan gael gwared ar y bygythiad o gael eich troi allan.

CYMHWYSEDD Y CYNLLUN

Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais, rhaid i chi fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rydych chi’n denant yn y sector rhentu preifat yng Nghymru
  • Mae gennych chi ôl-ddyledion rhent o’r 1 Mawrth 2020 oherwydd pandemig y Coronafeirws
  • Nid ydych chi’n derbyn budd-dal tai na thaliadau ar gyfer costau tai drwy’r Credyd Cynhwysol
  • Nid oedd gennych chi ôl-ddyledion rhent sylweddol, e.e. ôl-ddyled rhent o wyth wythnos neu ragor, cyn 1 Mawrth 2020
  • Nid ydych wedi gwneud cais am fenthyciad, neu wedi derbyn Benthyciad Arbed Tenantiaeth, drwy ddarparwr benthyg arall ar gyfer yr ôl-ddyledion rhent dan sylw
  • Mae eich landlord a/neu asiant wedi’i gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru

Os nad ydych chi’n gymwys i gael Benthyciad Arbed Tenantiaeth, gallwch chi barhau i gael cymorth cyfrinachol am ddim drwy Linell Gymorth y Sector Rhentu Preifat yn Cyngor ar Bopeth Cymru ar 0300 330 2177, lle gallwch chi drafod pa opsiynau eraill a allai fod ar gael i chi.

AD-DALU

Codir 1% o gyfradd ganrannol flynyddol (APR) ar fenthyciadau am gyfnod benthyg o hyd at bum mlynedd (bydd cyfnod y benthyciad yn seiliedig ar fforddiadwyedd yr ymgeisydd).

I wneud cais a chael rhagor o wybodaeth, ewch i creditunionsofwales.co.uk/tsl.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 08/11/24 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu | Newyddion |

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 01/11/24 | Categorïau: Cyllid | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Ble i ganolbwyntio eich egni codi arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 28/10/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Gwnewch gais nawr am grant Gwirfoddoli Cymru!

Darllen mwy