Mae dau oedolyn, sy'n ymddangos fel un fenyw ac un dyn, yn sefyll ac yn sgwrsio, mae'r fenyw yn egluro rhywbeth ac yn gwenu

Baromedr Cymru – arolwg cyntaf ar agor nawr!

Cyhoeddwyd : 27/10/25 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r ‘Baromedr’ cyntaf sy’n canolbwyntio ar Gymru ar agor nawr, cymerwch ran i weld tystiolaeth i gefnogi eich ceisiadau am gyllid ac atgyfnerthu sgyrsiau â rhanddeiliaid a phenderfynwyr.

Cau ar 12 Tachwedd 2025

Baromedr Cymru yw’r ‘baromedr’ newydd i sector gwirfoddol Cymru a drefnwyd gan CGGC a Phrifysgol Nottingham Trent. Bydd y ffynhonnell ddata dreigl yn cyflwyno darlun cyfredol o’r hyn sy’n digwydd ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Yn gyfnewid am gwblhau arolwg byr bob chwarter, bydd cyfranogwyr yn derbyn data wedi’i bersonoli a allai newid penderfyniadau’n gyfan gwbl.

Mae’r arolwg cyntaf ar agor nawr tan 12 Tachwedd 2025.

BETH FYDDA I’N CAEL MYNEDIAD ATO?

Bydd mynediad at Baromedr Cymru yn rhoi tystiolaeth i gefnogi eich ceisiadau am gyllid ac yn atgyfnerthu sgyrsiau â rhanddeiliaid a phenderfynwyr:

  • Bydd pob mudiad sy’n cyfrannu yn cael dangosfwrdd wedi’i bersonoli, sy’n dangos sut mae eich ymatebion yn cymharu â rhai pobl eraill ar draws y sector. Mae’n ffordd ddefnyddiol o fyfyrio, meincnodi a chynllunio.
  • Byddwch hefyd yn cael mynediad at ddangosfwrdd sector gyfan sy’n dangos tueddiadau’r sector a sut maen nhw wedi newid dros amser.
  • Gyda phob ‘ton’ chwarterol bydd adroddiad byr, yn amlygu’r canfyddiadau ac yn edrych yn fanylach ar feysydd o ddiddordeb arbennig. Fel cyfrannwr, chi fydd y cyntaf i gael hwn.
  • Wrth i’r data adeiladu dros amser, bydd mewnwelediadau eraill ar gael i chi hefyd. Byddwn ni’n gweithio gydag ymchwilwyr a phobl academaidd i gynnal dadansoddiadau mwy manwl – er mwyn ein helpu ni i gyd i ddeall beth sy’n newid, beth sy’n gweithio a beth sydd angen i ni weithredu arno.

BETH MAE’N EI OLYGU?

I’r rheini a fydd wedi cofrestru, bydd Baromedr Cymru yn cynnwys arolwg chwarterol, byr yn gofyn i fudiadau yng Nghymru ynghylch:

  • Eich sefyllfa ariannol
  • Pwysau gwirfoddolwyr a staffio
  • Y galw am wasanaethau
  • Hyder am y dyfodol
  • Ac adran sy’n cylchdroi ar ‘bynciau llosg’ neu feysydd rydyn ni eisiau edrych yn fanylach arnyn nhw

Bydd pob mudiad yn ymateb unwaith yn unig bob chwarter, fel arfer drwy aelod staff neu wirfoddolwr sy’n deall sut mae’r mudiad yn dod yn ei flaen. Bydd yn cymryd oddeutu 10–15 munud i’w gwblhau.

Cymerwch ran yn yr arolwg cyntaf cyn iddo gau ar 12 Tachwedd 2025.

RHAGOR AM HYN

Llais newydd i’r sector gwirfoddol yng Nghymru – Eglura’r Athro Daniel King FCIPD o Brifysgol Nottingham Trent pam ein bod ni mor gyffrous am Baromedr Cymru.

Cael mewnwelediadau’r sector i gefnogi eich prosesau penderfynu – Dyma Matthew Brown, Dirprwy Brif Weithredwr CGGC, i gyflwyno baromedr sector gwirfoddol newydd Cymru ac egluro sut gall cofrestru eich helpu chi a’ch mudiad.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 31/10/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Mae CGGC yn chwilio am banelwyr cynghori ar gyllid newydd!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 24/10/25
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Bachwch eich tocyn ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig Cymru 2025!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 24/10/25
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Ein AGM ar gyfer 2025 – ar gyfer aelodau CGGC yn unig

Darllen mwy