Grŵp o bobl yn gwenu, hapus, amrywiol yn dal plushies Mr Urdd yn WEDSA 2023

Bachwch eich tocyn ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig Cymru 2025!

Cyhoeddwyd : 24/10/25 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Mae Gwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig Cymru (WEDSA) nôl am 2025, a dyma’ch cyfle chi i brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad.

NÔL AM 2025

Mae WEDSA yn dathlu athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr ac ysgogwyr newid sy’n chwalu rhwystrau ac yn creu tirwedd chwaraeon mwy cynhwysol ar hyd a lled Cymru. Mae’n fenter arloesol yng Nghymru, yn llwyr ganolbwyntio ar arddangos cyflawniadau unigolion a grwpiau ethnig leiafrifol.

Waeth a ydynt yn chwalu rhwystrau, yn gyrru cynhwysiant neu’n ysbrydoli pobl eraill, mae’r ysgogwyr newid hyn yn haeddu cael eu gweld, eu clywed a’u canmol.

​Ar ôl llwyddiant y seremoni wobrwyo gychwynnol yn 2023, maen nhw nôl fel platfform i daflu goleuni llachar ar bobl, gan ganiatáu iddynt lewyrchu fel ffigyrau ac esiamplau ysbrydoledig o fewn eu cymunedau priodol.

​Gyda’r nod o gyfrannu at weledigaeth Chwaraeon Cymru am genedl egnïol lle gall pawb fwynhau chwaraeon drwy gydol eu hoes, mae WEDSA eisiau creu cymdeithas fywiog lle gall unigolion o bob oed fwynhau chwaraeon drwy gydol eu hoes. Maen nhw eisiau sicrhau bod chwaraeon yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn fforddiadwy, heb adael neb ar ôl.

​Ymunwch â nhw wrth iddynt ddathlu’r cyfraniadau y mae unigolion a chymunedau ethnig amrywiol wedi’u gwneud o fewn y maes chwaraeon yng Nghymru.

MANYLION Y DIGWYDDIAD

Gwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig Cymru 2025

Dydd Gwener 5 Rhagfyr, 6pm – 11pm

ICC Cymru, Casnewydd

Dewch i fwynhau noson o gydnabyddiaeth, storïau a chysylltiad. Ym mhris y tocyn fydd pryd bwyd tri chwrs blasus ac adloniant byw a fydd yn cynnwys:

  • Perfformiad ar Dhol
  • Perfformiad o ddawns glasurol o India
  • Perfformiad o Capoeira
  • Profiad camera 360° i ddal eich adegau gorau!

Mae hon yn fwy na noson wobrwyo, mae’n ddathliad o amrywiaeth, rhagoriaeth ac ysbryd cymunedol mewn chwaraeon Cymru. Trwy brynu tocyn, rydych chi’n gwneud mwy na dangos eich wyneb – rydych chi’n dangos eich bod o blaid tegwch.

Archebwch eich tocynnau nawr: https://luma.com/m51zp71w

RHAGOR O WYBODAETH AM WEDSA

Eisiau gwybod mwy am WEDSA? Darllenwch y myfyrdod hwn ar ddigwyddiad Pan Ddaw’r Pencampwyr Ynghyd y llynedd gydag enillwyr Gwobrau 2023.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 31/10/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos Diogelu 2025

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 24/10/25
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Ein AGM ar gyfer 2025 – ar gyfer aelodau CGGC yn unig

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/09/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2025

Darllen mwy