Mae’r cyn Brif Weinidog Mark Drakeford wedi dechrau ei rôl newydd ar y meinciau cefn drwy gynnig awgrymiadau i’r gymdeithas sifil ar sut i ddylanwadu ar bolisïau’r Llywodraeth.
Mewn uwchgynhadledd cymdeithas sifil fawreddog gyda phedair cenedl y DU yng Ngwesty St David’s, Caerdydd nos Iau (21 Mawrth 2024), swynodd cyn Brif Weinidog, Mark Drakeford westeion y cinio drwy gyhoeddi ‘chwe awgrym’ i ddylanwadu’n llwyddiannus ar y Llywodraeth.
Daw hyn wedi iddo ddweud wrth y cyfryngau’r wythnos ddiwethaf ei fod yn ‘…edrych ymlaen at fod ar y meinciau cefn ac […] i ddweud rhai pethau nad ydynt yn hawdd eu dweud pan rydych chi’n gaeth i’r cyfrifoldebau sydd gennych chi fel Prif Weinidog’.
CHWE AWGRYM AR GYFER DYLANWADU LLWYDDIANNUS
Mae ei ‘chwe awgrym’ ar gyfer dylanwadu’n llwyddiannus yn seiliedig ar gydberthynas unigryw cymdeithas sifil gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer elusennau, grwpiau gwirfoddol, pobl academaidd, undebau llafur ac eraill.
- Byddwch yn ddiffuant
Rhybuddiodd yn erbyn y demtasiwn o ‘ddilyn y ffasiwn ddiweddaraf;’ gan ddweud y byddai ‘newid eich ffurf’ i ddiwallu anghenion cyllidwyr yn tanseilio cydberthnasau â’r Llywodraeth. Rhaid i chi fod yn ‘chi’ch hunan’ a bod yn barod i ddadlau pan mae’r ‘gwynt yn chwythu yn eich wyneb’.
- Byddwch yn awdurdodol
Pan fydd gennych chi bethau i’w dweud, rhaid i chi ‘wneud y gwaith, cael grym y ddadl y tu cefn i chi’n gadarn’, ac ystyried profiadau’r bobl sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â’ch gwasanaethau.
- Byddwch yn lleol
Y peth mwyaf pwerus yw gallu adlewyrchu profiadau lleol y bobl rydych chi’n eu cefnogi. ‘Mae cael eich magu yng Nglan yr Afon, Caerdydd, yn brofiad gwahanol iawn i gael eich magu ym Mhen Llŷn yng ngogledd Cymru’, ac mae angen i chi adlewyrchu hyn.
- Byddwch yno (pan gaiff penderfyniadau eu gwneud)
Waeth pa mor awdurdodol ydych chi, mae’n rhaid i chi gofio bod yno – i fod yn yr ystafell a ddim bod yn absennol pan gaiff penderfyniadau eu gwneud.
- Byddwch yn uchel eich cloch
Siaradwch dros y bobl na fyddai ag unrhyw lais o gwbl fel arall. Rydym wedi colli rhai o’r mudiadau hynny a oedd yn barod i ddweud pethau anodd.
- Byddwch yn feiddgar
Mae llawer o fudiadau yn llai beiddgar nawr yn y ffordd y maen nhw’n cyflwyno argymhellion. Mae trafodaethau yn fwy sydyn, ond mae angen mwy o ddewrder moesol.
Gwrandewch yn ôl ar yr araith lawn.
UWCHGYNHADLEDD CYMDEITHAS SIFIL Y 4 CENHEDLOEDD Y DU
Siaradwyr eraill yn y digwyddiad oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, Aelod Seneddol, Gweinidog yr Wrthblaid ar Gymdeithas Sifil, Lilian Greenwood, Aelod Seneddol, a’r Parchedicaf a’r Gwir Anrhydeddus Dr Rowan Williams, cyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Roeddent yn siarad â phobl academaidd, ymgyrchwyr ac arweinwyr elusennau blaenllaw o Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Cynhaliwyd yr uwchgynhadledd ar ddydd Iau a dydd Gwener a chafodd ei chynnal gan CGGC, Canolfan Llywodraethiant Prifysgol Cymru Caerdydd, y Gynghrair Cymdeithas Sifil, Consortiwm Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon a Chonsortiwm Hawliau Dynol yr Alban. Cyllidir y digwyddiad gan y Sefydliad Addysg Gyfreithiol (Gwefan Saesneg yn unig).