Cyhoeddwyd mai Karen Chalk, o elusen Circus Eruption, enillodd y fwrsariaeth o £2,500 yng Nghyfarfod Cyffredinol a Darlith Flynyddol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn Llandudno.
Bydd y fwrsariaeth yn galluogi Karen i fynd ar daith wib o amgylch mentrau cymdeithasol/celfyddydol ar draws gwledydd Prydain sy’n cyfuno ffrydiau incwm cynaliadwy gydag effaith cymdeithasol.
Karen yw arweinydd Circus Eruption, sef elusen o Abertawe sydd wedi bod yn weithgar ers 1991, ac mae’n brosiect integreiddio sy’n defnyddio’r syrcas i ymgysylltu, grymuso ac ysbrydoli pobl ifanc rhwng 11 ac 19 oed.
Dechreuon nhw drwy gynnal gweithdai wythnosol i bobl ifanc oedd â datganiadau neu labeli o anabledd ai peidio. Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi tyfu i gynnal gweithdai syrcas hirdymor i blant iau, pobl ifanc sy’n ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pobl ifanc sy’n derbyn gofal neu sydd ar y ffin o gael gofal, yn ogystal â syrcas arferol ar y penwythnos i blant ddod â’u rhieni/gofalwyr, sesiwn rhannu sgiliau wirfoddol 18+, a gweithdai allanol sy’n talu ffioedd.
Erbyn hyn, mae Circus Eruption wedi prynu adeilad, ac maen nhw’n edrych am ffyrdd y gallan nhw ychwanegu at eu gwerth cymdeithasol mewn modd cynaliadwy.
Bydd y fwrsariaeth hefyd yn talu i Karen gymryd rhan mewn cyrsiau Arweinyddiaeth Mentergarwch gydag Academi Mentrau Cymdeithasol Cymru, sydd â’r nod o ‘gefnogi arweinwyr i ddod yn fwy mentrus yn fwriadol’.
‘Roedd y panel o’r farn bod cais Karen yn ddiddorol iawn – roedd yr atebion yn fanwl, ac mae’n amlwg ei bod yn cydnabod beth yw’r bylchau yn ei gwybodaeth,’ meddai Matt Brown, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Buddsoddiadau CGGC.
‘Mae’n gweld bod y fwrsariaeth yma’n cynnig cyfle mae hi am ei fachu, sef dysgu gan eraill i gynyddu’r asedau sydd gan Circus Eruption.
‘Rydyn ni’n edrych ymlaen i weld sut mae Karen yn rhannu’r hyn mae hi’n ei ddysgu gyda’r sector ehangach.’
Lansiwyd Bwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie ar 8 Awst 2017 yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn gydag aelodau o deulu Walter, ac fe’i sefydlwyd gan CGGC er cof am eiriolwr hirdymor a hoffus o’r sector elusennau.
Bob blwyddyn, bydd CGGC yn dyfarnu £2,500 i gefnogi unigolyn o’r sector gwirfoddol yng Nghymru i ddod yn arweinydd gwell a mwy entrepreneuraidd.
‘Dw i erioed wedi gwneud unrhyw fath o hyfforddiant arwain neu reoli – dw i’n cydnabod bod hyn yn fwlch, mae angen i ni ystyried datblygu mwy o fusnes cymdeithasol, a byddai hyn yn ychwanegu’n sylweddol at fy ngwybodaeth a fy sgiliau,’ meddai Karen.
‘Bydd y profiadau y bydda i’n eu hennill drwy’r fwrsariaeth yma’n rhoi hyder i fi gefnogi’r sefydliad yn y modd mwyaf posib mewn adeg o newid mawr.
‘Gyda’n gilydd, dylen ni fod mewn lle gwell i greu cynlluniau cadarn, cyffrous a dichonadwy AC eu gwireddu!’