Arweinwyr o bob cwr o sector gwirfoddol y DU yn trafod o amgylch bwrdd

Arweinwyr y sector gwirfoddol yn gwrthwynebu cynigion ‘setliad a enillwyd’

Cyhoeddwyd : 06/02/26 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Mae arweinwyr o bob cwr o’r DU wedi mynegi pryder dwfn ynghylch polisi mudo arfaethedig Llywodraeth y DU, sy’n cysylltu gwirfoddoli â’r hawl i fyw’n barhaol yn y DU.

Mae arweinwyr gwirfoddoli o bob cwr o wledydd y DU wedi dod ynghyd i fynegi eu pryder dwfn ynghylch cynigion Llywodraeth y DU i gyflwyno polisi mudo newydd [Saesneg yn unig] sy’n cysylltu gwirfoddoli â’r hawl i fyw’n barhaol yn y DU.

Mae’r cynigion, a fyddai’n ymestyn y cyfnod cymhwyso ar gyfer setliad o bum i ddeng mlynedd ac yn caniatáu gostyngiadau yn seiliedig ar gyfraniadau fel gwirfoddoli, wedi’u cyhoeddi heb ymgynghori ymlaen llaw â’r sector gwirfoddol. Mae’r diffyg ymgysylltiad hwn yn gwrth-ddweud yn uniongyrchol yr egwyddorion a nodir yn y Cyfamod Cymdeithas Sifil [Saesneg yn unig] a lansiwyd yn ddiweddar, sy’n pwysleisio cydweithio rhwng y llywodraeth a chymdeithas sifil.

Cyd-ddatganiad: Ymgynghoriad ar Breswyliad a Enillir Llywodraeth y DU

Mae hwn yn gyd-ddatganiad a lofnodwyd gan arweinwyr Fforwm Gwirfoddoli’r DU (UKVF): Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO), Volunteer Scotland, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a Volunteer Now.

Mae’r UKVF yn erbyn diwygiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i’r system fewnfudo, a fyddai’n cyflwyno gwirfoddoli fel ffordd i fudwyr leihau’r amser sydd ei angen i wneud cais am statws preswylio. Mae gennym bryderon difrifol ynghylch yr egwyddor a chymhwysiad ymarferol y diwygiadau hyn. Mae’r diffyg ymgysylltiad â’r sector gwirfoddol cyn cyhoeddi’r cynigion hyn yn mynd yn gwbl groes i egwyddorion y Cyfamod Cymdeithas Sifil a lansiwyd yn ddiweddar.

Mae Llywodraeth y DU yn cynnig bod y cyfnod cymhwyso diofyn o 5 mlynedd yn cael ei ymestyn i 10 mlynedd ac yn cyflwyno model ‘preswyliad a enillir’, ac fel rhan o hyn, bydd modd lleihau neu ymestyn y ffenestr o 10 mlynedd ar sail ffactorau fel cyfraniad at gymdeithas, gan gynnwys gwirfoddoli.

Dylai gwirfoddoli gael ei yrru gan ddewis rhydd yr unigolyn. Byddai cyflwyno gwirfoddoli o fewn meini prawf y cyfnod cymhwyso yn tanseilio hyn drwy ychwanegu elfen gymhellol, sy’n debygol o gael effaith negyddol ar ysgogiad cynhenid unigolion i wirfoddoli yn y dyfodol.

Dylai fod cyfleoedd cyfartal, wedi’u cyllido’n briodol, i bawb yn y DU wirfoddoli, gan gynnwys mudwyr. Ond rydym yn teimlo nad yw’r cynigion hyn yn cydnabod y rhwystrau a allai wynebu’r unigolion hynny sy’n awyddus i wirfoddoli. Byddai’r trafodaethau presennol ynghylch mudo, a’r gwahaniaeth mewn cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael rhwng ardaloedd, yn rhwystr i lawer. Byddai hyn yn creu system lle byddai rhai mudwyr mewn sefyllfa lawer gwell i fanteisio ar y gostyngiad hwn mewn blynyddoedd nag eraill. Gallai mudwyr anabl neu lai cefnog, y rheini nad ydynt yn siarad Saesneg neu’r rheini â chyfrifoldebau gofalu wynebu rhwystrau ychwanegol. Ynghyd â hyn, nid yw’r cynigion yn cydnabod y statws swyddogol sydd gan ieithoedd eraill yn y DU, sy’n rhoi mudwyr mewn gwledydd datganoledig o dan anfantais benodol ac anghymesur.

Y tu hwnt i’n gwrthwynebiadau egwyddorol, byddai’r cynigion hyn yn cyflwyno heriau ymarferol sylweddol i sector gwirfoddol sydd eisoes wedi’i ymestyn i’r eithaf. Nid yw’r ymgynghoriad yn rhoi unrhyw arweiniad ar drothwy gwirfoddoli lleiaf na pha ddull adrodd fyddai’n cael ei ddefnyddio. Yn sgil blynyddoedd o danfuddsoddi mewn datblygu gwirfoddolwyr, nid oes gan lawer o fudiadau gwirfoddol ddigon o adnoddau i reoli’r ymchwydd mawr posibl o wirfoddolwyr newydd yn effeithiol. Yn benodol, mae mudiadau eisoes yn rhagweld anhawster cael gwiriadau diogelu ceiswyr lloches, diwallu anghenion hyfforddi penodol a chostau cyfieithu. Heb adnoddau priodol, gallai mudiadau deimlo o dan bwysau i osod unigolion mewn rolau anaddas, gan beryglu staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau.

Mae’r diwygiadau arfaethedig hefyd yn agor y drws i weithredwyr ysglyfaethus esgus bod yn fudiadau gwirfoddol dilys a chamfanteisio ar unigolion er budd personol neu fasnachol, gan godi pryderon ynghylch caethwasiaeth fodern. Byddai hyn yn peryglu enw da’r sector gwirfoddol ac yn cyflwyno risgiau eraill difrifol.

Ar ôl ymgysylltu’n helaeth, mae pob aelod o’r UKVF wedi ymateb i’r ymgynghoriad hwn yn unigol a byddant yn parhau i geisio cael trafodaeth â’r Swyddfa Gartref ar y cynigion hyn wrth iddynt ddatblygu.

BETH SY’N DIGWYDD NESAF?

Mae’r sector gwirfoddol yn barod i weithio gyda’r llywodraeth i ddatblygu polisïau teg, diogel ac effeithiol. Fodd bynnag, rhaid i hyn ddechrau gydag ymgysylltiad gwirioneddol a dealltwriaeth bod yn rhaid i wirfoddoli barhau i fod yn ddewis personol, heb orfodaeth.

Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar y cynigion setliad a enillwyd trwy arolwg dienw [Saesneg yn unig] sydd ar agor tan 11.59 pm ar 12 Chwefror 2026. Rydym yn annog mudiadau gwirfoddol i gyflwyno eu hymatebion eu hunain i gryfhau llais y sector.

Darllenwch ymateb CGGC ar ein tudalen we ymgynghoriadau.

Mae’r UKVF yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau bod barn y sector gwirfoddol, a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, yn cael eu cynrychioli wrth i’r cynigion ddatblygu.

Darllenwch fwy am y cynigion ar wefan Llywodraeth y DU [Saesneg yn unig].

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/02/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Ymunwch â’n rhwydwaith ymddiriedolwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/02/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Ymunwch â ni – lluniwch ddyfodol gwirfoddoli yng Nghymru!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 19/11/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Grymuso cymunedau drwy Wirfoddoli mewn Mannau Gwyrdd

Darllen mwy