Yn ôl arolwg Amser i Siarad GIG Cymru ar gyfer Tachwedd 2024, dywedodd 58% o bobl eu bod mewn iechyd da neu iechyd da iawn.
Mae’r arolwg yn cael ei gynnal bob tri mis, ac yn gofyn i banel cenedlaethol o drigolion Cymru ynghylch eu hiechyd er mwyn hysbysu polisïau ac arferion. Mae’r panel yn cynnwys pobl dros 16 oed, ac amrywiaeth o gynrychiolwyr yn ôl oedran, amddifadedd, ethnigrwydd ac ardal bwrdd iechyd, a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd.
EFFEITHIAU IECHYD
Gofynnwyd i’r panel a oedd 17 o eitemau yn cael effaith bositif, effaith negyddol neu ddim effaith o gwbl ar eu hiechyd. Y tair prif agwedd bositif oedd:
- Mynediad at fyd natur a mannau awyr agored (74%)
- Faint o weithgarwch corfforol y maen nhw’n ei wneud (63%)
- Y cartref y maen nhw’n byw ynddo (58%)
Y tair prif effaith negyddol oedd:
- Mynediad at wasanaethau gofal iechyd (42%)
- Eu sefyllfa ariannol (34%)
- Cyfryngau cymdeithasol (34%)
Pan holwyd iddynt ba wasanaeth y byddent yn cysylltu ag ef yn gyntaf pe bai ganddynt gyflwr iechyd a ddim yn siŵr pa wasanaeth oedd ei angen arnynt, dywedodd 42% o bobl y byddent yn cysylltu â’u meddygfa. Byddai 28% yn edrych ar wefan 111 GIG Cymru.
CANFYDDIADAU ERAILL
Dyma rai canfyddiadau eraill yr arolwg:
- Dywedodd 53% o’r panel fod eu hiechyd corfforol wedi gwaethygu ychydig neu waethygu llawer yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
- Dywedodd 34% o’r panel fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu ychydig neu waethygu llawer yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
- Dywedodd 51% o’r panel fod gofalu am eu hiechyd wedi bod yn flaenoriaeth uchel yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
- O’r 19% a oedd wedi profi achos o stopio a chwilio (yn bersonol neu fel tyst) , dywedodd 33% ohonynt y byddai’n ddefnyddiol i bobl gael cymorth iechyd meddwl ar ôl iddynt gael eu stopio a’u chwilio.
- Dywedodd 54% o bobl eu bod wedi clywed am feirws syncytiol anadlol (RSV).
- Dywedodd 32% eu bod wedi clywed am y brechlyn RSV.
Gellir gweld yr adroddiad llawn, gyda dadansoddiad mwy manwl, ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.