Merch o Wcrain wedi'i lapio mewn blanced

Argyfwng Wcráin – Arweiniad i Ymddiriedolwyr Elusennau

Cyhoeddwyd : 04/04/22 | Categorïau: Newyddion |

Mae llawer o elusennau yn ystyried sut i ymateb i’r argyfwng yn Wcráin. Yn naturiol, mae pobl eisiau helpu cymaint â phosibl, ond yn y sefyllfa gymhleth hon sy’n newid yn gyflym, mae’n bwysig nad yw ymddiriedolwyr yn anghofio eu cyfrifoldebau llywodraethu.

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi arweiniad i elusennau ac ymddiriedolwyr ar ymateb i’r argyfwng yn Wcráin.

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi arweiniad newydd i helpu ymddiriedolwyr gan roi ymatebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin. Mae’r arweiniad yn rhoi sylw i’r meysydd canlynol:

Codi arian ac apeliadau

Sut all eich elusen chi helpu wrth ymateb i argyfwng, gan gynnwys cyngor ar gydweithredu ag elusennau eraill a rheoli risgiau wrth gynllunio apêl.

Sefydlu elusen newydd i helpu pobl Wcráin

Mae’r Comisiwn yn annog y rhai sy’n ymgeisio i ystyried yn gyntaf oni fyddai cefnogi elusen gofrestredig sefydledig sydd â phrofiad perthnasol yn fwy effeithlon?

Newid amcanion elusennol i gefnogi argyfwng Wcráin

Dylai ymddiriedolwyr ystyried yn gyntaf a yw amcanion elusennol presennol yr elusen yn caniatáu iddynt helpu. Os nad yw eich amcanion presennol yn caniatáu ichi helpu, mae’n bosibl y gallech ddiwygio eich dogfen lywodraethu i’w newid, ond dylech ystyried a oes elusennau eraill mewn gwell sefyllfa i helpu, yr effaith ehangach a budd gorau eich elusen chi.

Delio â chynnydd mawr mewn cyllid

Os yw eich elusen yn cael cynnydd sydyn, sylweddol mewn cyllid i helpu i ymateb i’r argyfwng yn Wcráin, mae’n bwysig eich bod chi, fel ymddiriedolwyr, yn ystyried yn ofalus y goblygiadau ymarferol i’ch elusen ac yn rheoli’r risgiau.

Diogelu

Mae’n gymhleth iawn gweithredu’n ddiogel ac yn effeithiol mewn ardal ryfel, mae hyn hefyd yn wir am roi cymorth i rai sy’n dianc o ardaloedd rhyfel, ond mae’n holl bwysig bod elusennau’n diogelu ac yn gwarchod eu buddiolwyr, eu gwirfoddolwyr a’u staff.

Trefnu neu gyfranogi mewn confoi cymorth

Mae angen i ymddiriedolwyr feddwl yn ofalus iawn ai trefnu a/neu gymryd rhan mewn confoi yw’r ffordd fwyaf effeithiol o roi cymorth i rai mewn angen o ystyried y risgiau. Mae cefnogi economïau lleol drwy brynu nwyddau y mae gwir eu hangen yn agos at safle’r angen yn aml yn ddewis mwy ymarferol a chynaliadwy.

Cydymffurfio â sancsiynau ariannol

Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am archwilio a yw’r unigolion neu’r mudiadau’r ydych yn delio â nhw (megis rhoddwyr ond fe allai gynnwys eraill) yn ddarostyngedig i sancsiynau ariannol a dylech gymryd y camau priodol i sicrhau nad ydych yn torri’r rheoliadau.

Gweithio â phartneriaid newydd

Os ydych chi’n ystyried gweithio â phartneriaid newydd, cofiwch yr egwyddor ‘adnabod eich partner’. Rhaid i ymddiriedolwyr ymarfer diwydrwydd dyladwy priodol a chywir gydag unigolion a mudiadau y mae’r elusen yn rhoi grantiau iddynt neu y mae’r elusen yn eu defnyddio i helpu i gyflawni ei gwaith.

I gael rhagor o fanylion a dolenni defnyddiol, darllenwch yr arweiniad yn llawn (Saesneg yn unig) a dychwelyd i’r dudalen yn rheolaidd i weld unrhyw ddiweddariadau.

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy