menyw mewn masg meddygaidd yn golchi ei ddwylo

Argaeledd cyflenwadau i sefydliadau gwirfoddol sy’n cyflawni dyletswyddau allweddol

Cyhoeddwyd : 26/03/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth |

Ochr yn ochr â’r GIG a gwasanaethau brys eraill sy’n chwarae rhan allweddol yn ystod yr argyfwng mae elusennau, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol eraill hefyd yn darparu gwasanaethau hanfodol. Rhaid iddynt beidio â mynd yn angof.

Yn anorfod, bydd ar staff a gwirfoddolwyr gyda rhai gwasanaethau angen cyfarpar diogelu personol (PPE) megis masgiau wyneb, dillad diogelu, menig a chynnyrch glanhau. Rhaid i’w gwasanaethau pwysig barhau ond rhaid i ni sicrhau eu bod wedi’u diogelu.

Mae CGGC Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru er mwyn bod mewn sefyllfa i ddarparu ffyrdd o gyflenwi’r cynnyrch. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda gwneuthurwyr er mwyn cwrdd â gofynion trwy greu cynnyrch nad ydynt wedi’u creu erioed o’r blaen. 

Dywedwch wrthym beth sydd arnoch ei angen                      

Mae angen i ni wybod pa eitemau hanfodol sydd arnoch eu hangen er mwyn i ni fedru rhoi symiau manwl gywir i wneuthurwyr ac i wirio lefelau cyflenwad a galw. Mae’n bosibl y gallwn hefyd eich hysbysu pa wneuthurwyr sydd â chynnyrch penodol ar gael er mwyn i chi fedru diwallu eich anghenion.

Rydym ni yma i helpu ond mae angen i ni gael gwybod am unrhyw gynnyrch rydych chi’n brin ohono. Llenwch yr arolwg yma gyda’ch anghenion:

Create your own user feedback survey

Neu, cysylltwch ag Emma Waldron ar ewaldron@wcva.cymru, os gwelwch yn dda, a bydd Emma’n gweithio gyda chi i ddeall eich gofynion ac i roi cymorth i chi ar sut i gael mynediad i fframweithiau.

Dyma’r fframweithiau sydd angen arnoch:

Fframwaith Deunyddiau Glanhau

Fframwaith Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)

Ceisiwch brynu’n gyfrifol, os gwelwch yn dda, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Os nad yw’r gweithiwr gofal na’r unigolyn sy’n derbyn gofal yn arddangos symptomau, yna nid oes angen unrhyw gyfarpar diogelu personol yn fwy nag arferion iechyd da arferol.  

Mwy ar y coronafeirws gan CGGC 

Diweddariadau ac arweiniad COVID-19

Mae CGGC yn darparu diweddaradau dyddiol i’r sector wirfoddol. Dewch o hyd i’n diweddariadau a’n harweiniad diweddaraf a chofrestrwch am ddiweddariad dyddiol ar ein tudalen Diweddariadau ac Arweiniad CGGC. 

Byddwn yno pan fo’n hangen, nid pan fo’n gyfleus yn unig

Mae Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC, yn amlinellu ein rôl ni a ffocws presennol ein gwaith wrth gefnogi sefydliadau gwirfoddol yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Darllenwch fwy

Ymateb cyllidwyr yng ngoleuni’r firws Covid-19

Rydym ni ynghanol sefyllfa ddigynsail yn y cyfnod modern yn y DU, wrth i gymunedau, mudiadau gwirfoddol a chyllidwyr ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi â chadw pellter cymdeithasol, hunanynysu a gweithio o gartref ar raddfa nad oes llawer o bobl yn gyfarwydd â hi.

Darllenwch fwy

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 03/03/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Hyrwyddo cyfiawnder rhywedd a’r hinsawdd yn Uganda

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/02/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwirfoddolwyr: pontio’r bwlch mewn gofal dementia

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/01/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Buddsoddi mewn atal yn ‘cadw pobl yn iach ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau’

Darllen mwy