Mae ein cyrsiau diogelu wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru ac yn ymdrin ag amrediad o wahanol lefelau a chyfrifoldebau.
Caiff ein hyfforddiant ei arwain gan y Tîm Diogelu yn CGGC, sy’n meddu ar gyfoeth o wybodaeth a phrofiad – nid yn unig o ran diogelu ond hefyd o ran gwerthoedd y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Rydym yn cynnig amrediad o wahanol gyrsiau i ddiwallu eich anghenion, gan gynnwys:
- Hyfforddiant diogelu ar gyfer ymarferwyr grŵp B
- Hyfforddiant diogelu ar gyfer ymarferwyr grŵp C
- Diogelu ar gyfer ymddiriedolwyr ac aelodau bwrdd
Dyma amlinelliad o’r hyn y byddwch yn ei gael o bob un o’n cyrsiau.
HYFFORDDIANT DIOGELU AR GYFER YMARFERWYR GRŴP B
Nod y cwrs hwn yw rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i ddysgwyr o egwyddorion hyfforddiant diogelu grŵp B (i’r rheini sy’n gweithio gyda phobl mewn lleoliad grŵp neu fesul unigolyn, ond heb gyfrifoldebau diogelu uniongyrchol). Cyflwynir y cwrs hwn mewn dwy sesiwn hanner diwrnod, a fydd yn gyfanswm o chwe awr o ddysgu.
Erbyn diwedd y cwrs, dylai cyfranogwyr allu:
- Adnabod y rhan y maen nhw’n ei chwarae yn y broses ddiogelu
- Gwybod pryd a sut i adrodd pryder diogelu ac i bwy i adrodd y pryder hwnnw iddo
- Sicrhau bod llais yr unigolyn yn cael ei glywed o fewn diogelu sy’n canolbwyntio ar unigolion
Gallwn hefyd gyflwyno hyfforddiant grŵp B pwrpasol wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion eich mudiad – rydym yn derbyn 12 o gynrychiolwyr ar gyrsiau pwrpasol.
Ymunwch â’r rhestr aros ar gyfer y cwrs hwn neu cysylltwch i drafod opsiynau pwrpasol.
HYFFORDDIANT DIOGELU AR GYFER YMARFERWYR GRŴP C
Nod y gyfres hon o fodiwlau yw rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i ddysgwyr roi egwyddorion yr hyfforddiant diogelu grŵp C ar waith (i’r rheini â chyfrifoldeb uniongyrchol dros ddiogelu pobl). I gwblhau’r cwrs hwn, rhaid dilyn pedwar modiwl dwy awr o hyd ynghyd â’r ymarferion gofynnol, a fydd yn gyfanswm o wyth awr o ddysgu.
Erbyn diwedd y cwrs dylai cyfranogwyr allu:
- Sicrhau bod llais yr unigolyn yn cael ei glywed a’i fod yn cyfrannu at benderfyniadau a wneir yn y broses ddiogelu
- Deall yr asiantaethau a’r rolau sy’n gysylltiedig â’r broses ddiogelu
- Llunio adroddiad diogelu o ansawdd
- Gwneud penderfyniadau ynghylch cadw pobl yn ddiogel a phryd mae angen rhoi prosesau diogelu yn eu lle
Ymunwch â’r rhestr aros ar gyfer y cwrs hwn.
DIOGELU AR GYFER YMDDIRIEDOLWYR AC AELODAU BWRDD
Nod y cwrs hwn yw gwella gwybodaeth a sgiliau sy’n ymwneud â diogelu. Bydd yn amlygu rôl ymddiriedolwyr ac aelodau bwrdd yn y maes diogelu a’r cyfrifoldebau y mae rheoleiddwyr a deddfwriaethau amrywiol yn eu rhoi ar eu hysgwyddau. Mae’r cwrs hwn yn dair awr o hyd a gellir dim ond ei bwcio fel cwrs pwrpasol.
Erbyn diwedd y cwrs, dylai cyfranogwyr allu:
- Deall eu cyfrifoldebau diogelu amrywiol
- Dangos gwybodaeth well a mwy diweddar am arferion gwael a chamdriniaeth
- Deall cyd-destun deddfwriaethol amddiffyn plant, oedolion mewn perygl a diogelu
- Deall a disgrifio sut mae pryderon/digwyddiadau yn cael eu rheoli o fewn y mudiad
- Nodi pa gyrff a strwythurau sydd y tu ôl i’r dyletswyddau amrywiol
- Dangos yr wybodaeth a’r sgiliau i ymateb i unrhyw bryderon diogelu ynghylch pobl o fewn eich mudiad
- Ystyried unrhyw feysydd diogelu sydd angen eu datblygu yn y dyfodol o fewn eich mudiad
Gallwn hefyd ddarparu sesiwn wybodaeth un awr o hyd am ddim, sef diogelu ar gyfer ymddiriedolwyr ac aelodau bwrdd, os bydd lle yn caniatáu.
Rhagor o wybodaeth a bwcio lle.
YNGLŶN Â’N HYFFORDDIANT
Mae CGGC yn ddarparwr diogelu cydnabyddedig ar gyfer Cymru. Rydym yn cynnig cyrsiau hyfforddi wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
I’n helpu ni i gyrraedd pob rhan o Gymru, caiff ein hyfforddiant ei ddarparu ar-lein fel arfer. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y gallwn ei ddarparu ar fformat wyneb yn wyneb neu hybrid. Nodwch eich gofynion ar y ffurflen archebu.
Rydym yn cynnig cymysgedd o hyfforddiant a chanllawiau sefydliadol penodol a chyngor un-i-un er mwyn creu pecyn sy’n addas i chi a’ch mudiad.
Caiff aelodau CGGC ostyngiad 0 20% ar gostau hyfforddiant.
I gael dyfynbris ar unrhyw un o’n cyrsiau hyfforddi, anfonwch e-bost at archebion@wcva.cymru.
YNGLŶN Â’N GWASANAETHAU
Cyllidir ein gwasanaeth cymorth diogelu craidd gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn cynnig datblygiad parhaus i’n holl staff a gwirfoddolwyr drwy:
- Weminarau am ddim
- Adolygiadau o bolisïau diogelu
- Gwasanaeth ymholiadau drwy e-bost a thros y ffôn
- Adnoddau ar-lein a chyrsiau e-ddysgu am ddim
- Ymgynghoriad un-i-un
- Cyfarfodydd Cymuned Ymarfer Diogelu
Os oes gennych gwestiwn, neu os oes angen cymorth ac arweiniad arnoch, anfonwch e-bost at diogelu@wcva.cymru.