Person yn rhoi dyn mewn cadair olwyn rhywfaint o fwyd

Arbedwch 10% ar safon ansawdd ar gyfer rheoli gwirfoddolwyr

Cyhoeddwyd : 16/01/24 | Categorïau: Newyddion |

Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn dathlu dechreuad 2024 drwy gynnig gostyngiad o 10% ar y dyfarniad os byddwch chi’n cofrestru cyn diwedd mis Chwefror.

BETH YW BUDDSODDI MEWN GWIRFODDOLWYR (IiV)?

Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn safon ansawdd y DU am arferion da wrth reoli gwirfoddolwyr, sy’n rhoi fframwaith i’ch mudiad asesu ansawdd eich ymdrechion i reoli gwirfoddolwyr, yn gwella effeithiolrwydd eich gwaith gyda gwirfoddolwyr ac yn gwella enw da eich mudiad.

Mae cyflawni’r safon yn dangos i wirfoddolwyr eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ac yn rhoi hyder iddynt yn eich gallu i gynnig profiad gwirfoddoli rhagorol.

 

DANGOS Y GORAU O’CH MUDIAD

Gwnaethom ni siarad â rhai mudiadau a oedd wedi ennill y safon IiV i ganfod beth oedden nhw wedi’i gael o’r broses.

‘Mae wedi ein galluogi i edrych yn feirniadol ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud i weld ble oedden ni’n cynnig cymorth o ansawdd uchel i wirfoddolwyr, ble roedd unrhyw fylchau, ac mae wedi ein galluogi ni i lenwi’r bylchau hynny’ meddai Martin, Rheolwr Gwirfoddolwyr a Phartneriaeth Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

Yn ogystal ag arddangos ansawdd ac ymrwymiad i weithio gyda gwirfoddolwyr, gall y broses fod yn ganllaw defnyddiol i roi gweithdrefnau ar waith a fydd yn gwella gwaith eich mudiad.

’Mae’n rhoi ffydd i’r gymuned yn y mudiad’, meddai Emma o Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens and George, ‘mae’n cadarnhau i’r gwirfoddolwyr ei fod yn brosiect da i wirfoddoli gydag ef.’

BETH AM WELD SUT GALLWCH CHI FANTEISIO?

Gan fod pob mudiad yn wahanol, mae taith pawb drwy’r broses wedi’i theilwra i ddiwallu anghenion eich tîm a’ch gwirfoddolwyr.

Bydd eich rheolwyr gwirfoddolwyr yn derbyn sesiynau mentora, cymorth a chyngor proffesiynol drwy gydol y broses i’w helpu i reoli a recriwtio gwirfoddolwyr a threfnu eich polisïau a gweithdrefnau ac yn rhoi mwy o hyder iddyn nhw i gynnig profiad gwirfoddoli o ansawdd.

I gael rhagor o wybodaeth am y buddion ac i gofrestru am ddyfynbris heddiw i ddechrau dangos i’ch gwirfoddolwyr cymaint rydych chi’n ei feddwl ohonyn nhw, ewch i www.investinginvolunteers.co.uk (gwefan Saesneg yn unig).

 

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 31/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Allwch chi helpu i stopio’r effaith gynyddol?

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 30/10/24 | Categorïau: Newyddion |

Pan ddaw’r pencampwyr ynghyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 28/10/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Gwnewch gais nawr am grant Gwirfoddoli Cymru!

Darllen mwy