Mae daeargrynfeydd dinistriol wedi lladd miloedd o bobl yn Nhwrci a Syria. Mae elusennau sy’n aelodau o DEC yn eisoes yn ymateb i’r daeargryn yn uniongyrchol neu drwy bartneriaid lleol yn Nhwrci a Syria.
Ar 6 Chwefror 2023, tarodd daeargryn maint 7.8 dde-ddwyrain Twrci a gogledd-orllewin Syria. Tarodd ail ddaeargryn maint 7.5, ymhellach i’r gogledd o’r canolbwynt gwreiddiol, ychydig oriau yn ddiweddarach. Mae Twrci wedi datgan sefyllfa o argyfwng, ac mae’r ddwy wlad wedi apelio am gymorth rhyngwladol ar frys. Amcangyfrifir bod cyfanswm o 17 miliwn o bobl wedi cael eu heffeithio. Mae Syria eisoes mewn argyfwng ar ôl 13 blynedd o ryfel, brigiad o achosion o golera ac amodau caled y gaeaf.
MAE BOD YN AGORED I’R TYWYDD OER YN RHOI MWY O FYWYDAU YN Y FANTOL
Mae bod yn agored i’r tywydd oer yn arbennig o beryglus i’r rhai sy’n fwy agored i niwed, gan gynnwys pobl hŷn, plant, menywod beichiog a’r rhai sydd â chyflyrau meddygol yn barod. Mae ffoaduriaid a phobl wedi’u dadleoli hefyd yn wynebu mwy o risg. Syria sydd â’r nifer uchaf o bobl wedi’u dadleoli’n fewnol yn y byd: 6.8 miliwn.
MAE ANGEN I ELUSENNAU SY’N AELODAU O DEC GYNYDDU EU HYMATEB YN GYFLYM
Mae gan yr elusennau sy’n aelodau o DEC gysylltiadau lleol cryf â’r gymuned, arweinwyr crefyddol a henuriaid, ac maen nhw wedi trafod mynediad yn lleol i sicrhau y gallan nhw gael y cymorth at y bobl sydd ei angen fwyaf. Mae’r cysylltiadau hyn yn helpu i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y bobl iawn. Mae DEC yn cyflawni rôl oruchwylio i sicrhau atebolrwydd a thryloywder.
Gall elusennau sy’n aelodau o DEC gynyddu eu hymdrechion ar draws y ddwy wlad yn yr ardaloedd sydd wedi’u dinistrio waethaf, ond mae angen cyllid sylweddol i wneud hynny. Maen nhw wedi amcangyfrif i ddechrau y bydd angen o leiaf £140 miliwn ar gyfer eu hymateb.
CEFNOGI’R APÊL FRYS YMA
Ein gwefan: dec.org.uk
Ffon: 0370 60 60 610
Neges destun: tecstiwch HELPU i 70787 i roi £10.
Gellir hefyd danfon siec at DEC Turkey-Syria Earthquake Appeal, PO Box 999, London EC3A 3AA.