Yn India mae menyw mewn mwgwd wyneb yn sefyll o flaen dwsinau o coelcerthi wedi'u goleuo

Apêl Coronafeirws y Pwyllgor Argyfyngau (DEC) wedi’i hehangu i gynnwys India

Cyhoeddwyd : 07/05/21 | Categorïau: Newyddion |

Yn India, mae ail don o’r coronafeirws yn cael effaith ddinistriol. Mae’r system iechyd yn gwegian, yr ysbytai yn orlawn, ac ocsigen yn brin.

Mae elusennau sy’n rhan o’r Pwyllgor Argyfyngau (DEC) yn ymateb trwy roi cyflenwadau meddygol, cyfleusterau triniaeth a chymorth logistaidd i wasanaethau iechyd sydd wedi’u llethu.

Wrth i India ymladd yn erbyn y coronafeirws, mae elusennau’r DEC yn ceisio lleihau effaith yr argyfwng iechyd a dyngarol sy’n mynd o ddrwg i waeth yno.

‘RYDYN NI’N BYW MEWN TRYCHINEB DDYNGAROL’

Yn ôl Prif Weithredwr Oxfam India, Amitabh Behar, mae pobl ar hyd a lled y wlad sydd ‘wedi ein huno mewn disgwyliad ofnus’.

Mae prisiau meddyginiaethau ac ocsigen wedi saethu i fyny, ac ysbytai a chanolfannau iechyd yn ymbilio am gyfarpar a thriniaeth.

Dywedodd Behar: ‘Mae pobl yn marw’n llythrennol ar y strydoedd neu mewn meysydd parcio neu yn eu cartrefi. Nid oes yr un enaid yn India nad yw’n gwybod am ffrindiau neu deulu neu gydweithwyr sydd wedi cael Covid. Rydyn ni’n wlad sydd wedi ein huno mewn disgwyliad ofnus. Mae’r sefyllfa hon mor ddrwg; prin y gallwn fod wedi dychmygu’r fath beth.

‘Rydyn ni’n byw mewn trychineb ddyngarol nawr sydd ym mhobman, yn ein dinasoedd ac yn ein pentrefi. Mae India angen help y byd nawr.’

YMATEB ELUSENNAU

Mae elusennau sy’n aelodau o’r DEC yn paratoi i bwyso a mesur eu hymateb yn India unwaith y bydd cyllid ychwanegol yn dod ar gael. Bydd elusennau sy’n aelodau o’r DEC yn:

  1. Cynorthwyo system iechyd India trwy roi peiriannau anadlu a chrynodyddion ocsigen i lywodraeth India; sefydlu ysbytai/cyfleusterau gofal dros dro; a chynorthwyo â chymorth logistaidd.
  2. Cynyddu mesurau ataliol i arafu lledaeniad Covid-19 ymhlith y cymunedau mwyaf agored i niwed drwy osod mannau golchi dwylo ychwanegol a dosbarthu pecynnau hylendid.
  3. Rhoi cymorth ychwanegol i’r aelwydydd tlotaf a mwyaf agored i niwed trwy ddosbarthu bwyd a phecynnau gofal i bobl sy’n ynysu; darparu arian a thalebau; cynnig allgymorth cymunedol i bobl hŷn sydd wedi’u hynysu – gan gynnwys helpu gyda chludiant i driniaeth a/neu brofion a chymorth â chostau brechu; a rhoi cymorth iechyd meddwl. Maen nhw hefyd yn rhedeg llinellau ffôn i ymdrin â chamwybodaeth trwy ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwelyau ysbyty, silindrau ocsigen a brechlynnau Covid sydd ar gael.

Canfyddwch sut gallwch chi helpu trwy ymweld â gwefan DEC. Ewch i www.dec.org.uk neu ffoniwch 0370 60 60 900.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/12/24
Categorïau: Newyddion

Prosiect gwrth-hiliol o fudd i ysgolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy