Mae grŵp o bobl amrywiol yn dal eu dwylo

A allech chi fod yr aelod newydd o’r banel annibynnol IiV Cymru?

Cyhoeddwyd : 15/03/23 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Ymunwch â’r panel Sicrhau Ansawdd i gynrychioli Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) Cymru a chyfrannu at y gwaith o sicrhau cysondeb yn y broses IiV ledled y DU.

Rydyn ni eisiau penodi cynrychiolydd gwirfoddol dros Gymru ar Banel Sicrhau Ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr y DU. Byddai gwybodaeth am y Safon ac am systemau ansawdd yn gyffredinol yn ddefnyddiol.

Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â Felicitie Walls fwalls@wcva.cymru, Rheolwr Gwlad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yng Nghymru.

BETH YW BUDDSODDI MEWN GWIRFODDOLWYR (IIV)?

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yw’r safon ansawdd genedlaethol ar gyfer cydnabod arferion da wrth reoli gwirfoddolwyr.

Pedwar aelod Fforwm Gwirfoddoli’r DU (UKVF) yw cydberchnogion Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am IiV, ei fuddion a’i broses, ewch i investinginvolunteers.co.uk (Saesneg yn unig).

Y PANEL SICRHAU ANSAWDD A RÔL AELOD PANEL ANNIBYNNOL YNG NGHYMRU

Diben y Panel Sicrhau Ansawdd yw sicrhau bod ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yn cael ei gynnal ledled y DU, ac adrodd i’r UKVF ar yr ansawdd hwn. Gwneir hyn drwy ddarparu rôl gymedroli ar y broses gyfan.

Mae’r Panel Sicrhau Ansawdd yn cynnwys Prif Asesydd cynrychiadol o bob un o bedair gwlad y DU, ac Aelodau Annibynnol allanol sydd â phrofiad ac arbenigedd penodol mewn cyflwyno systemau ansawdd ym mhob un o’r pedair gwlad. Caiff y Panel ei arwain gan Gadeirydd Annibynnol, a benodir gan UKVF.

Rôl y Panel yw:

  • Monitro ansawdd a chysondeb arferion a gweithdrefnau asesu yn erbyn y safon.
  • Rhoi sicrwydd i’r Corff Dyfarnu fod Aseswyr a Phrif Aseswyr yn gweithredu yn unol â safonau a gweithdrefnau o ansawdd da.
  • Sicrhau arferion asesu safonol.
  • Sicrhau bod Aseswyr/Prif Aseswyr yn gymwys yn eu rolau, gan fonitro eu:
    • gallu i asesu
    • gallu wrth lunio adroddiadau
    • gwybodaeth am y safonau ac arferion da
    • gwybodaeth am y system a’r ddogfennaeth
    • dealltwriaeth o’r broses Sicrhau Ansawdd.
  • Rhoi cymorth a gwiriad ansawdd ychwanegol os bydd yr awdurdod lleol a’r Rheolwr Gwlad yn nodi problem yn ystod y broses.
  • Clywed apeliadau gan fudiadau cofrestredig ac adrodd cwynion i’r UKVF.

Bydd y Panel Sicrhau Ansawdd yn cwrdd fel grŵp unwaith y flwyddyn, a’r cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal ar 27 Ebrill 2023, 10 am – 1 pm.

Bob chwarter, bydd yr aelodau Panel Annibynnol yn samplu’r dogfennau yn ffolderi hyd at ddau fudiad ac yn rhoi adborth i’r Prif Asesydd sy’n gyfrifol am y mudiadau. Bydd y Panel Sicrhau Ansawdd yn anfon adroddiad blynyddol at yr UKVF.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y rôl hon, anfonwch eich Datganiad o Ddiddordeb ar e-bost at Felicitie Walls, fwalls@wcva.cymru erbyn diwedd dydd Mercher 29 Mawrth 2023 (11.59 pm).

Dylai eich datganiadau o ddiddordeb gynnwys y canlynol:

  1. Pam mae gennych ddiddordeb mewn ymgymryd â’r rôl
  2. Pa brofiad perthnasol rydych chi’n ei gyflwyno i’r rôl

RHAGOR O WYBODAETH

Gellir cael cipolwg ar yr IiV yng Nghymru a’r rhestr o gyflawnwyr presennol yma 

Safbwynt gwirfoddolwr ar yr IiV

Mewnwelediad gan Asesydd IiV

Sut mae IiV yn helpu mudiadau cyn ac ar ôl argyfwng

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy