Mae grwp o bobl yn eistedd o amgylch bwrdd mewn trafodaeth

Amser i ailosod a gwneud y gorau o gyfleoedd – bywyd ar ôl cyllid yr UE

Cyhoeddwyd : 22/06/21 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu |

Wrth i sector gwirfoddol Cymru gofnodi’r llwybr sydd o’n blaenau mewn tirwedd heb fynediad at gyllid yr UE, mae 3-SET wedi trefnu digwyddiad i ddod â sefydliadau at ei gilydd a helpu i lunio cynlluniau gwaith wrth symud ymlaen.

Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod o newid sylweddol i gymunedau ar hyd a lled Cymru ac mae’r sector gwirfoddol wedi gorfod newid y ffordd y mae wedi gweithio i ddarparu’r cymorth sydd ei angen. Mae cydberthnasau newydd wedi’u ffurfio a hen gydberthnasau wedi’u cryfhau.

Mae ein hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno ansicrwydd, yn enwedig i’r mudiadau hynny sy’n dibynnu ar Gyllid Ewropeaidd i gyflwyno gwasanaethau hanfodol o fewn cymunedau. Rydyn ni bellach yn dechrau deall y strwythurau newydd sy’n cael eu rhoi yn eu lle i ni gael gafael ar gyllid arall a rhai o’r cyfleoedd a allai ddod i’n rhan.

GWEITHIO AR Y CYD

Gall y sector gwirfoddol wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd, a nawr yw’r amser i ni ddod ynghyd i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn, ar gyfer y dyfodol ac er mwyn sicrhau bod cronfeydd yn cael eu cydlynu ac yn ychwanegu gwerth at weddill y rhaglen cyllid Ewropeaidd. Bydd angen i ni ddefnyddio ein dylanwad cyfunol i sicrhau bod y strwythurau newydd a ddatblygir i ddosbarthu’r cyllid amnewid yn lle cyllid yr UE yn diwallu anghenion ein cymunedau amrywiol.

Bydd angen i ni barhau i adeiladu a chryfhau cydberthnasau a mynd ati ar y cyd i ddangos yr effaith y gall y sector gwirfoddol yng Nghymru ei chael ar leihau anghyfartaledd mewn llesiant cymdeithasol ac economaidd o fewn a rhwng lleoedd a phobl.

Ar 13 Gorffennaf, 10.00 – 11.30, hoffem ddwyn ynghyd pobl â diddordeb yn y gwaith hwn er mwyn rhoi diweddariad ar yr hyn yr ydym yn ei wybod hyd yma a datblygu cynllun gwaith ar gyfer y dyfodol.

Mae’r sesiwn hon yn agored i unrhyw fudiad gwirfoddol sydd â diddordeb yn y meysydd y mae’r cyllid amnewid yn ymdrin â nhw, nid dim ond i’r rheini sydd wedi cael cyllid Ewropeaidd yn y gorffennol.

Archebwch eich lle yma.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy