Menyw a merch yn defnyddio tabled i ddweud diolch i gwirfoddolwyr

Amser dweud diolch!

Cyhoeddwyd : 04/05/20 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Diolch i’r miloedd o wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser yn ystod y deuddeg mis diwethaf i achosion sy’n bwysig iddyn nhw, ac i ymateb i’r argyfyngau mae pobl wedi’u hwynebu.

Bob blwyddyn, mae wythnos arbennig wedi’i chlustnodi i ddiolch i wirfoddolwyr am bopeth maen nhw’n ei wneud yn eu cymunedau lleol, ac eleni, mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn teimlo’n bwysicach nag erioed. Bydd yr wythnos genedlaethol yn cael ei chynnal rhwng 1 a 7 Mehefin a bydd CGGC, ynghyd â’n partneriaid yn y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, yn darparu adnoddau a syniadau er mwyn helpu mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr i ddweud diolch.

Rydym ni’n cydnabod y gall y mudiadau sydd fel arfer yn ymuno â’r ymgyrch hon fod yn wynebu cyfnod anodd ar hyn o bryd, ac efallai nad yw llawer o wirfoddolwyr yn gwirfoddoli yn yr un modd ag arfer. Gan gadw hynny mewn cof, rydym ni wedi creu pecyn ar gyfer ymgyrch Wythnos Gwirfoddolwyr sy’n eich galluogi chi i ddweud diolch mewn ffordd sy’n addas i’ch mudiad chi a’ch amgylchiadau chi o ran gwirfoddoli. Mae’r gwirfoddolwyr oedd yn cyfrannu cyn yr argyfwng hwn a’r mudiadau sydd wedi’u cefnogi ar hyd y ffordd yn haeddu diolch enfawr.

Yn ymateb y sector gwirfoddol i’r coronafeirws, mae cymunedau, cymdogion ac unigolion wedi camu i’r adwy – yn ffurfiol ac yn anffurfiol – i siopa a danfon pecynnau bwyd, i gasglu a danfon eitemau o fferyllfeydd, i fynd â chŵn am dro ac i fod yno, drwy alw heibio i wneud yn siŵr bod pobl yn iawn a chynnal sgyrsiau llesiant gyda’r rheini mae eu hangen arnynt. Mae gwirfoddolwyr wedi codi arian hanfodol ar gyfer mudiadau gwirfoddol drwy amryw o weithgareddau codi arian, ac wedi helpu i rannu negeseuon a gwybodaeth am iechyd y cyhoedd ar draws safleoedd cyfryngau cymdeithasol.

Cyn y coronafeirws, roedd gwirfoddolwyr yn helpu pobl roedd y llifogydd difrifol wedi effeithio arnynt, drwy achub pobl o’u tai, darparu pecynnau cymorth brys, a helpu gyda’r gwaith glanhau.

Mae gwirfoddolwyr wedi dod at ei gilydd yng Nghymru, ac ym mhob cwr o’r DU, mewn ffyrdd trugarog, creadigol ac ystyrlon mewn adeg lle mae angen hynny’n fwy nag erioed ar unigolion a chymunedau. I gydnabod hyn fel rhan o Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr, rydym ni wedi addasu ein dathliadau arferol i ystyried yr amgylchiadau rydym ni i gyd yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Felly, byddem yn hoffi’ch annog chi i ddangos eich diolchgarwch mewn unrhyw ffordd bosib.

Un peth y byddwn ni’n ei wneud yw ymestyn yr ymgyrch #ClapforCarers i gynnwys #ClapforVolunteers am 8pm ddydd Iau 4 Mehefin. Rhowch wybod i’ch gwirfoddolwyr, eich staff, eich cefnogwyr a’ch cyllidwyr a’u gwahodd nhw i ymuno â ni wrth i ni gymeradwyo hyd yn oed yn gryfach a gwneud hyd yn oed mwy o sŵn i ddiolch i’r gwirfoddolwyr sy’n helpu yn ystod y coronafeirws. Rhowch wybod i’ch gwirfoddolwyr y bydd Cymru’n clapio iddyn nhw hefyd.

Mae syniadau ar gyfer ffyrdd eraill o gymryd rhan wedi’u cynnwys ym mhecyn ymgyrch Wythnos y Gwirfoddolwyr (ar gael ar ein tudalennau gwirfoddoli) ac wedi’u rhestru isod.

  • Anfon tystysgrifau Wythnos Gwirfoddolwyr drwy e-bost i’ch gwirfoddolwyr (gallwch lawrlwytho templed o dystysgrif yma)
  • Ysgrifennu e-gardiau diolch personol i’ch gwirfoddolwyr a chael rhywun y mae eich gwirfoddolwyr yn ei edmygu i’w hanfon atynt (gallai hwn fod yn rhywun y mae’r gwirfoddolwyr yn ei helpu neu’n un o’r ymddiriedolwyr).
  • Dod o hyd i ffordd o ddweud diolch yn gyhoeddus, er enghraifft, drwy gael cymorth eich cynghorydd lleol a/neu roi neges arbennig ar gyfryngau cymdeithasol (mae templed o wahoddiadau i bobl enwog a ffigurau gwleidyddol ar gael yma)
  • Cynnal digwyddiad ar-lein (wedi’i recordio / ffrydio’n fyw) i ddiolch i’r gwirfoddolwyr yn eich mudiad. Gweler yr eitem yn ein pecyn ymgyrchu sy’n cynnwys ychydig o wybodaeth am sut i wneud hyn. 
  • Dilyn yr hashnod #WythnosGwirfoddolwyr i weld beth mae pobl eraill yn ei wneud a helpu i ledaenu’r gair

Mae hefyd yn gyfle gwych i amlygu buddion gwirfoddoli a’r hyn y gall eich mudiad ei gynnig i bobl eraill sydd eisiau gwirfoddoli. Meddyliwch sut gall y ffordd rydych chi’n dathlu eich gwirfoddolwyr presennol a’ch cyn-wirfoddolwyr eich helpu chi i ddenu rhai newydd.

Gallech chi:

  • Annog eich holl wirfoddolwyr i ddod â gwestai gyda nhw i’ch digwyddiad dathlu gwirfoddolwyr rhithwir
  • Cynnal sesiwn wybodaeth rithwir am wirfoddoli ar gyfer darpar wirfoddolwyr
  • Gofyn i’ch gwirfoddolwyr rannu eu stori gwirfoddoli ar-lein er mwyn ysbrydoli eraill
  • Mynd ati i hyrwyddo eich man ar-lein ar gyfer cyfleoedd (efallai y gall eich Canolfan Wirfoddoli leol eich helpu gyda hyn – link to list of VC’s)
  • Sicrhewch fod eich cyfleoedd gwirfoddoli’n gyfredol ar y gronfa ddata Gwirfoddoli Genedlaethol gwirfoddolicymru.net (rydym ni’n disgwyl mwy o ymwelwyr yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr ac o’i chwmpas)

Beth bynnag y byddwch yn penderfynu ei wneud, hyd yn oed os byddwch yn penderfynu nad ydych chi’n gallu gwneud dim byd, diolch i chi am gefnogi gwirfoddolwyr a’u galluogi nhw i ddefnyddio eu sgiliau a’u profiadau i wella’r Gymru rydym ni’n byw ynddi.

Resources

Categori | Gwirfoddoli |

Wythnos gwirfoddolwyr – pecyn ymgyrchu

Mwy o adnoddau

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy