Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’n haelodau a’n partneriaid i feddwl am beth all pob un ohonom ni ei wneud yn ystod y bum mlynedd nesaf i fynd ati’n gadarnhaol i lunio dyfodol gwell i Gymru.
Mae pobl yng Nghymru bob amser wedi dod ynghyd o’u gwirfodd pan maen nhw eisiau gwneud gwahaniaeth. Heddiw, mae gan Gymru filoedd o fudiadau gwirfoddol, yn cynnwys pobl gyffredin sy’n cymryd camau bach i bob golwg, sy’n arwain at wahaniaeth enfawr.
Ond rydyn ni’n gwybod bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd tu hwnt i bobl yng Nghymru a thu hwnt. Mae mudiadau gwirfoddol wedi wynebu adegau anodd. Rydyn ni wedi profi effeithiau’r pandemig, y newid yn yr hinsawdd a’r anghydraddoldebau cynyddol, ac mae newidiadau a heriau mawr o’n blaenau.
I oresgyn yr heriau hyn, mae angen i fudiadau gwirfoddol ddod ynghyd, trefnu ac edrych ymlaen er mwyn paratoi ar gyfer y dyfodol. Dyma pam y ffurfiwyd CGGC yr holl flynyddoedd hynny yn ôl, er mwyn galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.
ADDASU I ATEB YR HERIAU SYDD O’N BLAENAU
I wneud yn siŵr y gall pob un ohonom ni wynebu heriau heddiw, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda’n staff a’n haelodau. Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi bod yn meddwl am yr hyn y gallwn ni ei wneud yn ystod y bum mlynedd nesaf i lunio dyfodol gwell ar gyfer Cymru, a hynny mewn modd cadarnhaol.
Rydyn ni eisiau gweithredu nawr i greu dyfodol lle mae mudiadau gwirfoddol a gwirfoddoli yn ffynnu ledled Cymru, gan wella llesiant pawb.
EIN FFOCWS DROS Y PUM MLYNEDD NESAF
Rydym yn credu i lwyddo, bydd angen i’n sector fod yn amrywiol, yn barod i newid, ac i fod yn bartneriaid cyfartal mewn gwella llesiant yng Nghymru …
…lle y caiff cyfraniad pawb ei werthfawrogi, a lle gall pawb ddod ynghyd i helpu i wireddu pethau.
Dyma beth fyddwn ni’n canolbwyntio arno yn ystod y bum mlynedd nesaf, ond allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pennau ein hunain. Rydym yn galw ar ein holl aelodau a’n partneriaid i chwarae ei ran i’n galluogi ni i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.
MWY AM EIN STRATEGAETH NEWYDD
Gwnaethon ni siarad ag aelodau CGGC, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) a Chroes Goch Cymru yn ddiweddar ynghylch y problemau sydd wrth wraidd y gwaith hwn.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy, cysylltwch neu gallwch chi edrych ar ein strategaeth hawdd ei darllen ar gyfer 2022-27.