Ein pwrpas ni yw galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.

Pwy ydym ni

CGGC yw’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Ein ffordd o weithio

  • Cynnwys aelodau
  • Bod yn agored ac yn gynhwysol
  • Edrych ymlaen
  • Gweithio gydag eraill
  • Defnyddio tystiolaeth
  • Sicrhau’r effaith fwyaf posib

Ein stori

Mae pobl Cymru bob amser wedi dod at ei gilydd o’u gwirfodd, nid i wneud arian nac am fod y gyfraith yn dweud bod rhaid iddynt, ond am eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth.

Ein tîm

Llun proffil o Alison Pritchard Rheolwr Cyllid Cynaliadwy i CGGC

Alison Pritchard

Llun proffil Fiona Liddell Rheolwr Helplu Cymru

Fiona Liddell

David Cook, Swyddog Polisi

David Cook

Darllen mwy

Ein strategaeth ar gyfer 2022-27

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’n haelodau a’n partneriaid i feddwl am beth all pob un ohonom ni ei wneud yn ystod y bum mlynedd nesaf i fynd ati’n gadarnhaol i lunio dyfodol gwell i Gymru.

Rydym yn gweithredu fel rhan o grŵp ehangach. Mae grŵp CGGC yn cynnwys CGGC, Cynnal Cymru a Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru.

Teulu CGGC

Cynnal Cymru yw’r sefydliad sy’n arwain y maes mewn datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Cenhadaeth y mudiad yw gwneud Cymru’n gymdeithas gynaliadwy, effeithlon mewn adnoddau ac isel mewn carbon, sy’n ffynnu â chydbwysedd â’r ecosystemau naturiol sy’n cefnogi’r gymdeithas honno. Darganfod mwy

Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yw’r darparwr arweiniol ym maes buddsoddi cymdeithasol i fentrau cymdeithasol a’r trydydd sector yn ehangach yng Nghymru. Mae cyllid ad-daladwy ar gael drwy amryfal ffyrdd sydd wedi’u dylunio i gynorthwyo mudiadau i dyfu a dod yn fwy cynaliadwy. Darganfod mwy

Ein heffaith

Mae ein hadroddiadau blynyddol yn amlygu’r prif newidiadau yr ydym wedi’u gwneud. Darllenwch ragor am ein storïau a’r gwaith a wneir gan ein haelodau bob dydd sy’n newid bywydau.

Rhwydwaith o gefnogaeth

Rydym yn falch o fod yn rhan o rwydwaith o gefnogaeth ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru

Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid mewn Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleol fel rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Drwy gydweithio, gallwn wneud mwy o wahaniaeth wrth weithio tuag at y nodau cyffredin yr ydym am eu cyflawni ledled Cymru. Rydym yn canolbwyntio ar drefniadau llywodraethu da, dylanwadu ac ymgysylltu, gwirfoddoli ac ariannu sector gynaliadwy. Darllen mwy

Rydym yn gweithio’n agos â rhwydweithiau’r sector gwirfoddol cenedlaethol drwy Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector. Dyma ffordd allweddol i’r sector siarad â Llywodraeth Cymru, a chlywed ganddi. Mae’n galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i gael llais cryfach gyda’n gilydd. Darllen mwy

Ein prosiectau

Dylanwadu | Gwirfoddoli |

Dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru

Mae ‘UK Research and Consultancy Services’ yn cefnogi’r gwaith o gyd-greu dull gwirfoddoli newydd yng Nghymru gan randdeiliaid gwirfoddoli allweddol. CYFLWYNIAD Mae
Darllen mwy

Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Prosiect Iechyd a Gofal CGGC

Nod Prosiect Iechyd a Gofal CGGC yw cryfhau’r cysylltiad rhwng y sector gwirfoddol a’r system iechyd a gofal. THEORI NEWID PROSIECT IECHYD
Darllen mwy

Dylanwadu | Gwybodaeth a chymorth |

Prosiect arloesi cymunedol Macmillan

Mae CGGC wedi partneru â Chymorth Canser Macmillan i ganfod pam nad yw cymunedau penodol yn ymhél yn llawn â gwasanaethau canser,
Darllen mwy
Darllen mwy

Y newyddion diweddaraf

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Swyddi Wag – Ymunwch â thîm cyllid CGGC

Darllen mwy
Darllen mwy