Gall tor diogelwch data gael effaith ddinistriol ar bobl. Ydych chi’n gwybod sut i gefnogi eich defnyddwyr gwasanaethau os byddant yn cael eu heffeithio gan dor diogelwch data?
Tor diogelwch data personol yw pan mae gwybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod rhywun wedi mynd ar goll, gael ei difrodi neu ei datgelu pan na ddylai fod wedi digwydd.
Gall tor diogelwch data gael effaith gynyddol eang a all amharu ar fywydau. I’r rheini sydd eisoes mewn amgylchiadau anodd, gall yr effeithiau fod yn ddinistriol a newid eu bywydau.
Gall gwybod ble i chwilio am wybodaeth a beth i’w wneud nesaf lorio rhywun. Pan na fydd pobl yn gwybod ble i droi, byddant yn aml yn troi at fudiadau gwirfoddol, ond a fyddech chi’n gwybod sut i’w helpu?
ADNODDAU NEWYDD GAN YR ICO
A fyddech chi’n gwybod beth i’w wneud pe bai rhywun sy’n defnyddio eich gwasanaethau yn poeni bod ei wybodaeth bersonol wedi’i rhannu heb reswm da?
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), rheolydd diogelu data’r DU, eisiau gwneud yn siŵr bod gennych chi’r wybodaeth sydd ei hangen i’w helpu. Gall eich cefnogaeth chi helpu i sicrhau pobl, deall eu hawliau, a gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch beth i’w wneud nesaf os ydynt wedi’u heffeithio gan dor diogelwch data.
Gan ystyried hyn, mae’r ICO wedi creu cyfres o adnoddau sy’n nodi opsiynau pobl os cânt eu heffeithio gan dor diogelwch data. Gallwch ddefnyddio’r rhain i roi cyngor cyflym neu eu rhannu â’r unigolyn fel y gall ef gyfeirio atynt yn y dyfodol.
BETH SYDD AR GAEL
Mae’r adnoddau newydd hyn yn cynnwys:
- Poster un tudalen syml sy’n egluro’r camau nesaf
- Canllawiau manwl newydd ar wefan yr ICO, Rwy’n poeni bod fy ngwybodaeth wedi’i rhannu ac rwy’n poeni am sut mae mudiad wedi trin fy ngwybodaeth, beth ddylwn ni ei wneud? (Saesneg yn unig)
STOPIO’R EFFAITH GYNYDDOL
Ewch ati i gyfarwyddo’ch hun â’r wybodaeth a chadwch hi i’w defnyddio yn y dyfodol.
Gallwch chi helpu i stopio’r effaith gynyddol ar fywyd rhywun.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.ico.org.uk/RIPPLE