Grŵp amrywiol o ymddiriedolwyr yn eistedd o amgylch bwrdd ystafell fwrdd mewn swyddfa. Maen nhw'n chwerthin

Allech chi fod yn ymddiriedolwr CGGC?

Cyhoeddwyd : 15/08/22 | Categorïau: Newyddion |

Waeth beth yw eich cefndir neu brofiad, beth am ddatblygu eich sgiliau, ehangu eich rhwydwaith a’n helpu ni i wneud mwy o wahaniaeth yng Nghymru drwy ymuno â’n bwrdd ymddiriedolwyr?

Yn CGGC, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’n haelodau a phartneriaid i feddwl am beth all bob un ohonon ni ei wneud i lunio dyfodol positif i Gymru. Rydyn ni’n credu bod sector gwirfoddol amrywiol yn allweddol i greu dyfodol gwell ar gyfer Cymru, ac mae angen bwrdd amrywiol arnom i helpu i arwain y newid rydyn ni eisiau ei weld.

Mae gennym ni bum lle gwag ar ein bwrdd, felly rydyn ni’n chwilio nawr am bobl o wahanol gefndiroedd sydd ag amrediad o sgiliau a phrofiadau bywyd i ymuno â’n bwrdd.

CANOLBWYNTIO AR AMRYWIAETH

Mae ein ffocws ar alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i fod yn fwy amrywiol, gan adlewyrchu’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.

Rydyn ni hefyd yn ymrwymedig i arwain drwy esiampl a gweithio i sicrhau bod CGGC yn fwy amrywiol. Rydyn ni’n ymrwymedig i fod mor gynhwysol â phosibl ac rydyn ni eisiau cymaint â phosibl o leisiau gwahanol ar ein bwrdd.

Rydyn ni’n chwilio am ymddiriedolwyr ag amrediad eang o brofiadau. Waeth beth yw eich cefndir, bydden ni’n dwli clywed gennych chi.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am pam fod cael bwrdd amrywiol mor bwysig i ni yn ein pecyn recriwtio ymddiriedolwyr.

Dyma Edward Watts MBE DL, ymddiriedolwr CGGC, yn siarad am ei brofiad o weithio gydag CGGC ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI):

 

PAM YMUNO Â BWRDD CGGC?

Mae ein bwrdd yn cynnwys unigolion cyfeillgar a brwdfrydig sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau, sgiliau a chefndiroedd. Bydd ymuno â’n bwrdd yn rhoi’r cyfle i chi:

  • Weithio gydag amrywiaeth o bobl frwdfrydig o bob lliw a llun a gwneud cysylltiadau i wella eich datblygiadau personol a phroffesiynol
  • Cael cyfle i ddefnyddio eich sgiliau a rhannu eich profiadau unigryw mewn ffyrdd newydd a gwneud newid positif yng Nghymru
  • Gyrru ein nodau elusennol ac yn ein helpu i gefnogi a grymuso’r mudiadau ysbrydoledig sy’n rhan o sector gwirfoddol Cymru

Dyma Lindsay Cordery-Bruce, ymddiriedolwr CGGC, yn siarad am y budd y mae hi’n ei gael o fod ar fwrdd CGGC:

 

D’OES DIM ANGEN PROFIAD!

Nid oes angen profiad blaenorol arnoch o fod yn ymddiriedolwr i ymuno â’n bwrdd, fe wnawn ni ddarparu’r holl hyfforddiant a chymorth sydd eu hangen arnoch chi.

Darllenwch ein pecyn recriwtio ymddiriedolwyr i ganfod mwy am beth y mae bod yn ymddiriedolwr yn ei olygu, ein gwaith a beth y mae’r rôl yn ei chynnwys.

RÔL AELODAU CGGC

Ein haelodau sy’n llywio gwaith CGGC ac mae ganddyn nhw rôl bwysig i’w chwarae wrth ethol ymddiriedolwyr i’n bwrdd. Aelodau CGGC yw’r unig rai a all gyflwyno enwebiadau yn ein hetholiadau ymddiriedolwyr (felly bydd angen i chi gael aelod i gyflwyno’ch enw os ydych chi eisiau ymgeisio – rhagor am hyn isod!) a nhw sy’n pleidleisio yn ein pleidlais ymddiriedolwyr i benderfynu pwy fydd yn ymuno â’r bwrdd.

SUT I YMGEISIO

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’n bwrdd eleni, mae rhai pethau sydd angen i chi eu gwneud:

  1. Mae angen i chi gael cefnogaeth dau aelod o CGGC – gelwir y rhain yn enwebydd ac eilydd. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n adnabod unrhyw aelodau – gallwn eich rhoi chi mewn cysylltiad â rhai
  2. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich enwebiad gan aelod o CGGC, byddwn yn gofyn i chi anfon ychydig o wybodaeth am eich hunan atom. Rydym eisiau gwybod pa sgiliau a phrofiad y byddech yn eu cyflwyno i’r bwrdd (dwy dudalen ar y mwyaf). Os oes gennych CV, byddai hynny’n ddefnyddiol ond nid yn hanfodol. Byddwn hefyd yn gofyn am ddau eirda
  3. Yn olaf, gan eich bod bellach yn enwebai, bydd angen datganiad byr arnom (200 gair ar y mwyaf) a llun y gallwn ei roi ar ein gwefan. Dylai eich datganiad ateb y cwestiwn: ‘Pam ddylai aelodau CGGC bleidleisio drosof i fod yn ymddiriedolwr?’

Gallwch anfon eich gwybodaeth fel fideo neu recordiad sain os oes well gennych.

Byddwn hefyd yn gofyn i chi gwblhau holiadur monitro cyfle cyfartal i’n helpu ni i ddeall mwy am bwy rydym yn ei gyrraedd.

RHAGOR O WYBODAETH, DOGFENNAU A DYDDIADAU CAU

Beth sy’n digwydd nesaf?

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau a datganiadau ymgeiswyr yw 9 Medi 2022.

Byddwn ni’n postio datganiadau a lluniau’r ymgeiswyr ar ein gwefan yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 19 Medi 2022.

Bydd ein haelodau yn pleidleisio dros eu hoff ymgeiswyr yn ein pleidlais a fydd yn cael ei chynnal rhwng 24 Hydref – 4 Tachwedd 2022.

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod canlyniadau’r bleidlais yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 7 Tachwedd 2022.

Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Mae ein Prif Weithredwr, Ruth Marks yn fwy na bodlon siarad ag unrhyw un sy’n ystyried ymgeisio. Cysylltwch â Tracey Lewis ar tlewis@wcva.cymru i drefnu sgwrs.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 22/05/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Canllawiau wedi’u diweddaru ar reolaethau ariannol mewnol i ymddiriedolwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/05/23 | Categorïau: Newyddion |

Rydyn ni’n cyflogi – swydd wag gweinyddwr newydd yn CGGC

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/05/23 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Lansio prosiect arloesi cymunedol Macmillan

Darllen mwy