Mae myfyriwr intern a rheolwr yn gwenu wrth iddynt edrych ar liniadur a thrafod prosiect

Allai eich sefydliad chi elwa o fyfyrwyr ar leoliad?

Cyhoeddwyd : 10/10/22 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Oes gennych chi brosiect y byddech wrth eich bodd yn gweithio arno, ond heb y gallu i’w wneud?

Mae Tîm Cysylltiadau ar gyfer y Dyfodol Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyfleoedd i osod myfyrwyr a graddedigion mewn amrywiaeth o leoliadau cyflogedig a di-dâl. Gallwch elwa’n sylweddol o gael cefnogaeth myfyrwyr annibynnol, rhagweithiol o safon uchel i’ch cefnogi gyda phrosiect arbennig neu agwedd ar waith eich sefydliad.

Mae myfyrwyr yn chwilio am amrywiaeth o brofiadau; o greu strategaeth farchnata, i gynorthwyo gydag ymchwil a cheisiadau am arian. Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod pwysigrwydd profiad gwaith i ategu astudiaethau academaidd myfyrwyr ac rydym yn awyddus i gysylltu â gwahanol sefydliadau yn y trydydd sector er mwyn hwyluso hyn.

Gall y tîm gynnig help gyda:

  • datblygu disgrifiad o’r rôl,
  • denu a dewis y myfyriwr cywir,
  • eich cefnogi chi a’r myfyriwr, cyn, yn ystod, ac ar ôl y profiad.

Yn dal heb eich argyhoeddi? Isod cewch ddarllen am y manteision a ddaeth i ran mudiadau gwirfoddol eraill trwy gymryd rhan:

‘Roedd cael myfyriwr ar leoliad gwaith i wneud sawl diwrnod o waith ar ein prosiect catalogio archifau wedi ein galluogi i wneud llawer mwy o waith i safon uwch nag a fyddai wedi bod yn bosibl drwy gyflogi gweithwyr achlysurol.Gweithiodd [y myfyriwr] ar ei liwt ei hun wrth iddo ymgyfarwyddo’n gyflym â chasgliadau a chenhadaeth y Deml. Llwyddodd i arwain llawer o weithgareddau ‘ad-drefnu’ nad ydym wedi gallu eu cynnal hyd yma oherwydd diffyg adnoddau ffisegol.’

Interniaeth di-dâl, WCIA

‘Roedd y lleoliad yn fuddiol oherwydd roedd yn rhoi cyfle i ni gwblhau tasgau nad oedd gennym ni ffrydiau ariannu ar eu cyfer, ond a oedd serch hynny yn cau pen y mwdwl yn achos rhai prosiectau byw.  Roedd allbwn pendant a fydd yn parhau fel cyngor i’r  cyhoedd a gweithwyr proffesiynol eraill ar ein gwefan. Bydden ni’n bendant yn defnyddio cyfranogwr ar leoliad eto.’

Interniaeth am dâl, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent

‘Cawson ni brofiad gwych o’r rhaglen. Roedd yr intern ei hun yn gydwybodol, yn ymddiddori yn y gwaith ac yn gweithio’n eithriadol o galed.  Crëwyd yr interniaeth i gyflawni un o’n prif amcanion strategol (ymgyrch i ddiogelu cyllid digartrefedd) ac felly daeth yr intern yn fuan iawn yn rhan o drafodaethau a gweithgareddau strategol.  Roedd yn hynod fuddiol, nid i ni’n unig, ond hefyd i’n haelodau.’

Interniaeth am dâl, Cymorth Cymru

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Faith Parsons, Swyddog Prosiect Cysylltiadau ar gyfer y Dyfodol: parsonsf1@cardiff.ac.uk

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy