Mae CGGC wedi ymateb gyda nifer o argymhellion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gynlluniau i wella trefniadau gofal cymdeithasol a chryfhau gweithio mewn partneriaeth.
Daw’r ymgynghoriad yn dilyn Papur Gwyn 2021 ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth, a oedd yn canolbwyntio ar wella trefniadau gofal cymdeithasol a chryfhau gweithio mewn partneriaeth.
Roedd yr ymgynghoriad newydd yn canolbwyntio ar dri prif faes:
- Creu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth a Gomisiynir. Bydd hyn yn gosod safonau ar gyfer arfer comisiynu, yn lleihau cymhlethdod ac yn canolbwyntio ar ansawdd a chanlyniadau
- Sefydlu Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth yng Nghymru, i oruchwylio’r gwaith o weithredu’r Fframwaith
- Cryfhau Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, i sicrhau gwaith partneriaeth mwy effeithiol ac integreiddio gwasanaethau
Mewn ymateb, gwnaeth CGGC nifer o bwyntiau allweddol ac argymhellion.
ROEDD Y PRIF BWYNTIAU YN CYNNWYS Y CANLYNOL:
- Mae gweledigaeth yr ymgynghoriad yn annhebygol o gael ei gweithredu oherwydd diffyg cyllid
- Yn hytrach na chael ei weithredu ar y lefelau rhanbarthol a lleol, lle mae cyfyngiadau capasiti ar eu mwyaf eithafol, mae’r buddsoddiad arfaethedig yn canolbwyntio’n ormodol ar weinyddiaeth lefel uchaf
- Dylid cyfeirio buddsoddiad tuag at ysgogwyr a galluogwyr sy’n cael eu nodi ar lawr gwlad
- Rhaid i’r gwaith o’i weithredu gael ei yrru gan egwyddorion cydgynhyrchu, yn cynnwys defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, cymunedau, mudiadau gwirfoddol, a’r farchnad gofal ehangach
- Mae disgwyl mai cyfyngedig fydd effaith y fframwaith tâl a dilyniant gwirfoddol, oherwydd ei statws ‘gwirfoddol’. Mae angen buddsoddiad yn seilwaith a gweithlu’r sector er mwyn cryfhau capasiti cymunedol
- Er mwyn galluogi aelodaeth effeithiol y sector gwirfoddol yn y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, dylid cysoni’r buddsoddiad yn y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, ac ailedrych ar y mecanweithiau i gynrychiolwyr cenedlaethol y sector i gysylltu ag ystod eang o randdeiliaid
- Er mwyn cael y budd mwyaf posibl o gynnwys y sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr, mae angen buddsoddiad cynaliadwy hirdymor
ROEDD YR ARGYMHELLION YN CYNNWYS:
- Yn unol â Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu’r Trydydd Sector, rhaid atgyfnerthu’r fframwaith i ddatblygu arferion gorau ar gyfer cymorth cynaliadwy hirdymor i’r sector gwirfoddol. Rydym yn argymell buddsoddi am o leiaf tair blynedd
- Er mwyn archwilio cyfranogiad strategol mudiadau gwirfoddol, dylai grwpiau sector cyhoeddus gysylltu â phartneriaid Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ar lefel genedlaethol a’r 19 o gynghorau gwirfoddol sirol lleol) ar lefel leol neu genedlaethol
- Bod yn rhaid darparu canllawiau clir ar sut gall darparwyr y sector gwirfoddol a’r sector preifat godi pryderon ynghylch mannau lle nad yw’r egwyddorion a’r safonau’n cael eu cynnal
- Bod Comisiynwyr yn defnyddio fforymau presennol gwerth cymdeithasol/darparwyr neu fforymau arfaethedig Adran 16 i gael deialog strategol gyda’r sector gwirfoddol
- Bod rhaglen hyfforddi a datblygu’n cael ei chreu ar gyfer y comisiynwyr a darparwyr i gefnogi’r broses o roi’r fframwaith newydd ar waith. Rydyn ni’n awgrymu y byddai cynnal hyfforddiant ar y cyd yn fuddiol i bawb er mwyn cyflawni’r newid diwylliant sydd ei angen
- Bod swyddogion sy’n gweithio ar ddatblygu’r Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn cwrdd â CGGC a phartneriaid y sector gwirfoddol i nodi ble gall y sector gwirfoddol ychwanegu gwerth gwirioneddol i’r ymagwedd
- Bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r fforymau presennol i gyfleu eu disgwyliadau, ond yn grymuso’r fforymau i ddefnyddio egwyddorion cydgynhyrchu i gyflawni’r nodau hynny mewn ffordd sy’n adlewyrchu eu hanghenion a’u blaenoriaethau lleol
- Bod mwy o amser, adnoddau a hyblygrwydd yn cael eu rhoi ar gyfer gweithgareddau cydgynhyrchu gyda defnyddwyr gwasanaethau
- Bod cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau yn cael eu grymuso i ddod ynghyd gan ddefnyddio partneriaethau a mudiadau seilwaith perthnasol e.e. Llais neu Gynghorau Gwirfoddol Sirol
- Bod Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd cyllidebau cyfun i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n unol â’r weledigaeth ac nad yw’r sector gwirfoddol o dan anfantais annheg
- Bod ymagwedd ‘Unwaith i Gymru’ tuag at ddatblygu’r Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth yn cael ei mabwysiadu