Mae’r Sefydliad Llywodraethu (ICSA) wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar ailagor ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau.
Mae llawer o ymddiriedolwyr wrthi’n ystyried sut i ailagor swyddfeydd a safleoedd eraill mewn modd rheoledig, pwyllog a diogel, gan ddeall na fydd yr holl weithgareddau yn debygol o allu dychwelyd i’r sefyllfa cyn y cyfyngiadau symud hyd y gellir rhagweld.
Mae’r canllawiau newydd gan ICSA yn nodi:
Waeth pa mor ofalus y bydd mudiadau’n ailagor mananu ffisegol, bydd angen i’r ymddiriedolwyr a’r tîm uwch-reolwyr weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y broses o ddychwelyd yn un ddiogel, effeithiol ac yn ddigon hyblyg i ymateb i gyfyngiadau symud pellach yn lleol ac yn genedlaethol.
Mae hon yn sefyllfa heriol i fyrddau ymddiriedolwyr ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Nod canllawiau ICSA yw darparu trosolwg o’r materion sylfaenol y dylai ymddiriedolwyr fod yn eu hystyried wrth bennu a ddylid ailagor safleoedd ffisegol a sut dylid gwneud hyn. Mae’n crynhoi dogfennau pwysig gan y llywodraeth ac yn cyfeirio darllenwyr at ffynonellau cyfarwyddo er mwyn helpu i lywio trafodaethau, penderfyniadau a gweithrediadau. Mae’r canllawiau yn atgoffa elusennau o’r canlynol:
Mae’n rhaid i unrhyw benderfyniad i agor gweithgareddau a safleoedd ffisegol elusen gael ei wneud gan y bwrdd ymddiriedolwyr, ar y cyd, mewn ymgynghoriad â’r tîm uwch-reolwyr. Mae’r weithrediaeth yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu cynlluniau i ailgyflwyno gweithgareddau ar y safle. Mae’r bwrdd yn atebol am y gweithrediadau a’r canlyniadau hynny. Felly, mae’n hanfodol bod yr ymddiriedolwyr yn cael eu sicrhau bod cynigion a gweithrediadau o leiaf yn bodloni gofynion y llywodraeth.
Gall elusennau lleol gael help i ailagor gan eu Cyngor Gwirfoddol Sirol. Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor agosaf yma: Cefnogi Trydydd Sector Cymru
Adnoddau Perthnasol
Mae CGGC wedi cynhyrchu, Canllawiau ar gyfer ailagor canolfannau cymunedol yng Nghymru
Mae gan Gymdeithas y Cadeiryddion flog defnyddiol ar Iechyd a Diogelwch ar gyfer ymddiriedolwyr (Saesneg yn unig)
Dylai ymddiriedolwyr allu cyfeirio at ganllawiau’r Comisiwn Elusennau sy’n ymdrin ag amrediad eang o faterion, Coronavirus (COVID-19) guidance for the charity sector (Saesneg yn unig)