Samuel West and Susie Dent with Hearts for the Arts award winners 2020 - Matt Steinberg, Artistic Director of Outside Eddge Theatre Company; Hackney Council's Petra Roberts; Manchester City Council's Luthfur Rahman

Agor enwebiadau gwobrau i ddathlu creadigrwydd yn ystod y pandemig

Cyhoeddwyd : 20/11/20 | Categorïau: Newyddion |

Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Hearts for the Arts 2021, fydd yn dathlu hyrwyddwyr celfyddydau awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau diwylliannol a phrosiectau cymunedol creadigol.

Mae’r gwobrau’n fenter flynyddol gan Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau, sy’n eirioli dros ragor o fuddsoddiad cyhoeddus yn y celfyddydau i wella bywydau pobl ledled y DU.

Mewn blwyddyn lle mae creadigrwydd a’r celfyddydau wedi bod yn hanfodol i ni i gyd, bydd Prosiect Celfyddydau Gorau Hearts for the Arts yn cydnabod y prosiectau neu’r gwasanaethau creadigol a gyflawnwyd er gwaethaf pob dim ac a greodd gysylltiad ar adeg pan rydym oll wedi cael ein gorfodi i fod yn ddatgysylltiedig.

O weithgarwch creadigol sydd wedi dod â chymunedau ynghyd, i arloesi digidol, i ddefnydd dinesig o adeiladau diwylliannol a sefydliadau celfyddydol lleol, anogir enwebiadau gan ystod eang o brosiectau ac o bob rhan o’r DU a gynhaliwyd rhwng 10 Hydref 2019 ac 20 Tachwedd 2020.

PANEL BEIRNIAID O FFIGURAU BLAENLLAW’R CELFYDDYDAU

Cyflwynir y gwobrau mewn partneriaeth â Culture Counts, y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Thrive, UK Theatre, Celfyddydau Gwirfoddol Cymru, a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Dewisir yr enillwyr gan banel beirniaid o ffigurau blaenllaw’r celfyddydau (beirniaid eleni i’w cyhoeddi).

Rhwng 20 Tachwedd nes i’r pleidleisio gau ar Ragfyr 6, gall aelodau’r cyhoedd, gweithwyr proffesiynol y celfyddydau, awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau diwylliannol ymweld â thudalen we Gwobrau Hearts for the Arts i gynnig enwebiadau mewn tri chategori:

  • Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Cynghorydd
  • Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Gweithiwr mewn Awdurdod Lleol neu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol
  • Prosiect Celfyddydau Gorau

Mae’r gwobrau hefyd yn agored i ymddiriedolaethau diwylliannol sy’n gweithio ar ran awdurdodau lleol. Mae Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau yn awyddus i gydnabod y rhai sydd wedi defnyddio statws ymddiriedolaeth i wella darpariaeth y celfyddydau a bod o fudd i bobl leol. Felly, mae’r categorïau Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau yn caniatáu enwebiadau ar gyfer unrhyw weithiwr mewn awdurdod lleol neu ymddiriedolaeth ddiwylliannol.

Cyhoeddir yr enillwyr mewn pryd ar gyfer Dydd San Ffolant 2021 a chyflwynir y gwobrau mewn cydweithrediad â chynhadledd Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon y Gymdeithas Llywodraeth Leol a fydd yn digwydd ar sail ddigidol ar ddechrau mis Mawrth 2021, a’i chynnal gan y Cynghorydd Gerald Vernon-Jackson.

Yn ogystal, mae Samuel West – Cadeirydd Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau – wedi cynnig siarad mewn cyfarfod cyngor pob enillydd gwobr.

‘PARHAU I WEITHIO ER GWAETHAF POPETH MEWN BLWYDDYN PAN RYDYM WEDI BOD FWYAF EI ANGEN…’

‘Nid yw’n newyddion bod eleni wedi cyflwyno heriau digynsail ac mae galar cenedlaethol wedi gafael,’ dywedodd Samuel West. ‘Ar adegau fel y rhain mae’n anoddach dod o hyd i’r lle ar gyfer creadigrwydd, ac eto mae’r celfyddydau wedi bod yn ffynhonnell cysur barhaus wrth inni wynebu caledi.

‘Mae Hearts for the Arts bob amser wedi ymwneud â gwobrwyo arwyr di-glod Awdurdodau Lleol ac Ymddiriedolaethau Diwylliannol sy’n gweithio yn wyneb caledi ariannol, a chyllid a leihawyd yn sylweddol, i hyrwyddo a darparu prosiectau a gwasanaethau celfyddydau i gymunedau lleol.

‘Mae’r arwyr celfyddydau hyn yn ymwybodol o ba mor angenrheidiol yw creadigrwydd i iechyd corfforol a meddyliol y genedl.  Ac rydym ym gwybod bod yna lawer o bobl a phrosiectau allan yna sydd wedi parhau i weithio er gwaethaf popeth mewn blwyddyn pan rydym wedi bod fwyaf ei angen. Mae gwobrau eleni yn llwyr amdanyn nhw.’

I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud enwebiad Gwobrau Hearts for the Arts, ewch i: https://forthearts.org.uk/campaigns/hearts-for-the-arts/

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy