Bydd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) yn cael ei gynnal ar-lein ym mis Tachwedd lle bydd gennym ni ddau siaradwr gwadd arbennig o Gyngor Ffoaduriaid Cymru a mudiad Cytûn: Eglwysi ynghyd yng Nghymru.
PRYD
Mae’n bleser gan CGGC gyhoeddi y bydd ein AGM yn cael ei gynnal ddydd Iau 23 Tachwedd 2023 rhwng 10am – 11.30am.
BLE
Bydd ein AGM am eleni yn cael ei gynnal ar-lein.
BETH I’W DDISGWYL
Bydd yr AGM yn cynnwys uchafbwyntiau o adroddiad blynyddol CGGC a’n hadroddiad ariannol diwedd blwyddyn. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i glywed gan ddau o’n haelodau:
- Andrea Cleaver, Prif Weithredwr, Cyngor Ffoaduriaid Cymru
- Siôn Brynach, Prif Weithredwr, Cytûn: Eglwysi ynghyd yng Nghymru
CADW LLE
Mae’r AGM am ddim i fynychu ac yn agored i aelodau CGGC yn unig.
Gall aelodau CGGC gadw lle ar-lein yma.
Bydd dolen ymuno yn cael ei hanfon atoch ar fore’r digwyddiad. Defnyddiwch hon i ymuno ar ddydd Iau 23 Tachwedd am 10am.
Os na allwch ddod a hoffech benodi dirprwy i fynychu ar eich rhan, llenwch y ffurflen ddirprwy a’i dychwelyd erbyn 10am ddydd Mercher 22 Tachwedd 2023.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.
DOGFENNAU AGM
- Agenda
- Cofnodion AGM 17 Tachwedd 2022
- Adroddiad blynyddol a datganiadau ariannol 2022/23
- Ffurflen ddirprwy
AELODAETH CGGC
Rydyn ni’n credu y gallwn wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd, felly beth am ymuno â ni a’n rhwydwaith cynyddol o fudiadau ledled Cymru?
Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim i fudiadau ag incwm blynyddol o £50,000 neu lai, ac fel arall yn dechrau ar £32 y flwyddyn yn unig. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn aelod ewch i’n tudalen aelodaeth.
Os nad ydych chi’n siŵr a yw eich mudiad yn aelod o CGGC ar hyn o bryd, cysylltwch â ni yn aelodaeth@wcva.cymru.