Menyw yn gwisgo sbectol yn sefyll ac yn egluro darn o waith i'w chydweithwyr sydd yn eistedd o amgylch desg mewn ystafell gyfarfod

Adroddiad yn galw i’r sector fod yn gysylltiedig â’r strategaeth rhyddhau o’r ysbyty

Cyhoeddwyd : 23/09/25 | Categorïau: Newyddion |

Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd wedi cyhoeddi ei adroddiad ar rôl awdurdodau lleol o ran cefnogi’r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty.

GWEITHIO GYDA’R SECTOR GWIRFODDOL

Argymhella’r adroddiad y dylai’r llywodraeth weithio gyda’r sector gwirfoddol, awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ar ddull strategol, gan gynnwys edrych ar sut i wella trefniadau comisiynu a chyllid mwy hirdymor ar gyfer gwasanaethau profedig.

Mae’r adroddiad hwn yn dilyn gwaith ymgynghori a oedd yn cynnwys cyfraniadau ysgrifenedig a llafar gan Brosiect Iechyd a Gofal CGGC a phartneriaid eraill yn y sector gwirfoddol, gan gynnwys gan gynnwys Y Gymdeithas Strôc, Gofal a Thrwsio Cymru, Tai Pawb ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, yn dadlau dros gyllid sy’n talu am wir gost gwasanaeth.

Mae’n amlygu’r dulliau gweithredu gwahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, ynghyd â’r gwahaniaethau mewn prosesau, partneriaethau a chyfansoddiad timau rhyddhau cleifion. Mae’n dyfynnu tystiolaeth y sector yn gyson, gan ddangos dealltwriaeth y pwyllgor o’r rôl dyngedfennol y mae’r sector gwirfoddol yn ei chwarae ochr yn ochr â mudiadau iechyd a gofal statudol i gyflwyno canlyniadau da i bobl sy’n symud drwy lwybrau rhyddhau o’r ysbyty.

ARGYMHELLION

Mae’r Pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion eraill, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru werthuso rôl Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol o ran annog gweithio mewn partneriaeth ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, a defnyddio’r gwerthusiad hwnnw i ysgogi cynnydd a gwella effeithiolrwydd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu metrigau perfformiad i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd mesurau ataliol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio’r canllawiau ar ryddhau cleifion o’r ysbyty er mwyn sicrhau eu bod yn cynnwys tai fel asiantaeth bartner a enwir, a bod cyflwr tai’r unigolyn yn cael ei ystyried yn llawn, ac y cynllunnir yn llawn ar ei gyfer, yn ystod y broses ryddhau
  • Dylai Llywodraeth Cymru nodi arferion gorau ar gyfer gwella trefniadau rhyddhau cleifion o’r ysbyty a dylai ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol fabwysiadu’r arferion hynny neu gyfiawnhau pam na ellir gwneud hynny

Roedd yr argymhellion eraill yn cynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru adolygu unrhyw bolisïau ar y cyd presennol ar gyfer rhyddhau cleifion a nodi ei model dewisol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth. Yna, dylai ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol fabwysiadu’r dull hwn neu gyfiawnhau pam na ellir gwneud hynny
  • Dylai Llywodraeth Cymru hybu’r agenda trawsnewid digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gydag arweinyddiaeth gryfach a mwy o atebolrwydd
  • Dylai Llywodraeth Cymru amlinellu ac egluro’r sefyllfa ddiweddaraf o ran y rhaglen Cysylltu Gofal, gan gynnwys a yw ar y trywydd iawn i ddod yn weithredol ym mis Ionawr 2026.
  • Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad cyflym o’r arferion gofal canolraddol presennol
  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod timau rhyddhau o’r ysbyty yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol drwy gryfhau’r canllawiau i wneud hynny’n ofynnol
  • Dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y bydd yn monitro ac yn adolygu gweithrediad y fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth
  • Mae angen cynllun strategol ar Lywodraeth Cymru i wella a chynyddu darpariaeth gofal seibiant ledled Cymru.

I ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i’r ddogfen ‘Rôl awdurdodau lleol o ran cefnogi’r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty.

RHAGOR O WYBODAETH

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am Brosiect Iechyd a Gofal CGGC? Os felly, beth am edrych ar ein gwefan?

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 30/03/26
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Grantiau newydd ar gael i gryfhau cymunedau Cymreig

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 20/03/26
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Mae Cronfa Adeiladu Capasiti Arfordirol yn ôl!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/03/26
Categorïau: Newyddion

Rydym yn recriwtio – ymunwch â’n tîm Ymgysylltu

Darllen mwy