Mae adroddiad ar gyfraniad economaidd y sector gwirfoddol wedi amlinellu ei rôl mewn lleddfu’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal.
Yn ddiweddar, comisiynodd CGGC Brifysgol De Cymru (USW) i gynnal adroddiad adolygu cyflym, Cyfraniad mudiadau gwirfoddol at yr agenda iechyd a gofal seiliedig ar atal. Mae’n amlygu nifer o ganfyddiadau allweddol ar adeg pan mae’r pwysau ar adnoddau cyhoeddus yn cynyddu ochr yn ochr â galwadau ar y sector gwirfoddol i ddangos gwerth am arian.
Nododd yr adroddiad y dystiolaeth economaidd sydd ar gael i ddangos pwysigrwydd gwasanaethau’r sector gwirfoddol o ran ategu gwasanaethau statudol ac, yn y pen draw, arbed arian i’r cyhoedd.
Amlinellodd 28 darn o dystiolaeth a ffurfiodd bum thema allweddol – cefnogaeth gan gymheiriaid, ymyriadau awyr agored (fel garddio neu glybiau cerdded), cyflyrau hirdymor, presgripsiynu cymdeithasol a help yn y cartref.
ARBED ARIAN
Mae’r adroddiad yn dangos nifer o ffyrdd y mae gwaith y sector gwirfoddol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi gwneud arbedion, gan gynnwys:
- Adenillion cymdeithasol o fuddsoddi (adenillion): Rhwng £1.17-£5.18 am bob £1 a fuddsoddwyd gan grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid dementia.
- Adenillion o £3 am bob £1 a fuddsoddwyd gan ardd gymunedol yn Llundain.
- Dangosodd astudiaeth o wirfoddolwyr sy’n helpu pobl hŷn i fynd ar-lein adenillion o £1.40-£1.80 am bob £1 a fuddsoddwyd.
- Dangosodd astudiaeth o ymyrraeth presgripsiynu cymdeithasol ar draws pedwar practis gofal sylfaenol yn ne Cymru arbedion cost uniongyrchol o dros £6,000 ar draws y pum mis o weithgarwch.
Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu achosion sy’n cynnwys y sector lle nad yw ymyriadau yn gost-effeithiol. Fodd bynnag, daw i’r casgliad bod ‘y dystiolaeth economaidd yn dangos… y gall ymyriadau wella canlyniadau clinigol a lles’, gan hefyd nodi ‘nad cost-effeithiolrwydd ddylai fod yr unig ystyriaeth wrth gomisiynu neu gyllido’r sector gwirfoddol.’
PWYSAU CYNYDDOL
Dywedodd Dr Llinos Haf Spencer, prif ymchwilydd USW: ‘Mae pwysau cynyddol ar ein holl adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a golyga hyn bod angen blaenoriaethu’r gwaith o atal anhwylderau. Mae fwyfwy o dystiolaeth o ran presgripsiynu cymdeithasol a sut gall ymyriadau yn y gymuned arbed arian i’r GIG.
‘Mae’r sector gwirfoddol yn bwysig iawn i ddarparu’r lliaws o wasanaethau sydd ar gael i bobl sy’n agored i niwed, ac os gallwn ni osod gwerth ar eu cyfraniad, mae’n bosibl y gallant bledio achos effeithiol dros gael mwy o gyllid yn y dyfodol. Mae’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn y gwasanaethau hynny yn darparu gwerth ychwanegol. Fodd bynnag, mae costau i wirfoddoli, ond hefyd buddion i’r gwirfoddolwyr eu hunain yn ogystal â’r bobl y maen nhw’n eu cefnogi.’
‘RHAN DYNGEDFENNOL O’N SYSTEM IECHYD A GOFAL’
Dywedodd Johanna Davies, Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC: ‘Mae’r sector gwirfoddol a’r cymorth y mae’n ei roi i bobl a chymunedau yn rhan dyngedfennol o’n system iechyd a gofal.
‘Mae mudiadau gwirfoddol yn cyflawni canlyniadau o safon uchel i bobl, ond mae dangos ein cyfraniad economaidd i gyllidwyr yn llawer anoddach. Mae’r adroddiad hwn yn gobeithio pennu pa dystiolaeth sydd ar gael a helpu CGGC ac USW nodi meysydd i’w hymchwilio yn y dyfodol.
‘Rydyn ni eisiau i’r dystiolaeth o’r adroddiad hwn gael ei ddefnyddio gan y sector gwirfoddol i gefnogi eu ceisiadau am gyllid a’u sgyrsiau â chomisiynwyr. Rhaid i system gofal cymunedol integredig werthfawrogi a pharchu’r sector ac ymddiried yn ei rôl mewn cyflawni canlyniadau da i bobl a chymunedau.’
RHAGOR O WYBODAETH
I fynegi diddordeb yn yr adroddiad hwn a gwaith i ddod cysylltwch â Phrosiect Iechyd a Gofal CGGC.