Parafeddyg benywaidd a gwrywaidd yn eistedd mewn ambiwlans ac yn gwenu

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Cyhoeddwyd : 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Mae’r Gymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlans wedi cyhoeddi canlyniadau ei harolwg gwirfoddoli cenedlaethol cyntaf erioed o’r gwasanaeth ambiwlans.

YR AROLWG

Datgelodd *canlyniadau’r arolwg fod 34.44% o wirfoddolwyr yn dweud bod gwirfoddoli wedi cynyddu eu sgiliau yn fawr a theimlai 45.59% ohonynt fod eu datblygiad personol (hyder) wedi cynyddu.

Mae’r arolwg gwirfoddoli, a gafodd ei gwblhau gan 2500 o wirfoddolwyr ledled y wlad, yn rhoi mewnwelediad cenedlaethol i’r profiad o wirfoddoli yn y sector ambiwlans. Mae’r canlyniadau yn rhannu gwybodaeth am bwy sy’n gwirfoddoli i’r gwasanaeth ambiwlans ac yn canolbwyntio ar brofiad y gwirfoddolwr.

Yn ogystal â chwestiynau ynghylch demograffeg a mathau o rolau gwirfoddol, edrychodd yr arolwg ar brofiad gwirfoddolwyr o’r cyfnod cynefino a hyfforddiant, y cymorth parhaus, y datblygiad personol a’r lles.

Fel y gwelir gan ganlyniadau’r arolwg, mae gwirfoddoli yn ymwneud â mwy na dim ond helpu pobl eraill – mae hefyd yn gwella lles gwirfoddolwyr. Gall helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd, hybu hyder, datblygu ymdeimlad o gyflawni ac arwain at gyfleoedd gyrfaol.

YR ADBORTH

Gall gwrando ar adborth gwirfoddolwyr drwy arolygon fod yn adnodd hynod bwerus. Trwy ddeall a dehongli’r data, gallwn wneud penderfyniadau gwybodus sy’n dylanwadu’n uniongyrchol ar ein cynlluniau, ein polisïau a’n strategaethau ehangach ar gyfer gwirfoddoli.

Ochr yn ochr â’r data, mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i roi sbotolau ar y *storïau sy’n amlygu’r effaith bositif ar unigolion, gwirfoddolwyr a’r gymuned ehangach.

Gallwch ddarllen *canlyniadau llawn yr arolwg nawr.

RHAGOR O WYBODAETH

  • Ydych chi’n gweithio gyda gwirfoddolwyr, neu a hoffech chi wneud hyn? Mae gennym amrediad o adnoddau yn ogystal â chymorth, cyngor a gwybodaeth i’ch helpu chi
  • Ydych chi’n gweithio gyda gwirfoddolwyr yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol? Yna beth am ddarllen mwy am ein rhaglen Gwirfoddoli i Yrfa, a arweinir gan Helplu Cymru. Os hoffech drafod y rhaglen a chanfod sut gallech chi beilota hon a’i rhoi ar waith, cysylltwch â Fiona Liddell ar fliddell@wcva.cymru

Am ragor o wybodaeth am iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ewch i’n tudalen, Prosiect Iechyd a Gofal CGGC.

 

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 06/06/24 | Categorïau: Gwirfoddoli |

‘Fe es i o fod yr un mwyaf swil i fod yn geffyl blaen’

Darllen mwy