Diffygion diogelu difrifol y mae’n rhaid i ni ddysgu ohonynt
Mae’r Comisiwn Elusennol wedi cyhoeddi adroddiad ar ei ymchwiliad swyddogol i RNIB sy’n dangos fod camreoli difrifol o fewn yr elusen wedi gwneud rhai plant yn ei gofal yn agored i berygl ac eraill yn agored i risgiau gormodol.
Canfu’r Comisiwn fod methiannau mewn llywodraethu a diofalwch wedi caniatáu i esgeulustra diogelu difrifol ddigwydd na sylwyd arnynt ac na aed i’r afael â nhw yn ddigon cynnar gan uwch arweinwyr yr elusen. Mae’r adroddiad yn feirniadol o ddiwylliant ac arweinyddiaeth yr elusen ar y pryd ac yn ystyried fod esgeulustra wedi bod yn nyletswydd RNIB i gymryd yr holl gamau rhesymol i amddiffyn buddiolwyr yr elusen rhag niwed.
Mae’r rheoleiddiwr wedi sancsiynu RNIB â Gorchymyn Swyddogol ac wedi gorchymyn yr ymddiriedolwyr â Chynllun Gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’i llywodraethiant, rheolaeth, diwylliant a phrosesau.
‘Mae’r ymchwiliad yn feirniadol o fwrdd yr elusen am fethu â sicrhau bod ei threfniadau llywodraethu yn gweddu’n briodol i gymhlethdod a graddfa, a risgiau cysylltiedig, ei weithredoedd a strwythurau.’
Yn ôl y Comisiwn, mae’r elusen yn gwneud cynnydd da mewn perthynas â’r cynllun gweithredu, mae wedi ailasesu ei darpariaeth o wasanaethau rheoledig ac yn trosglwyddo’i holl gartrefi gofal pobl hŷn wedi’u rheoleiddio, a’i hysgolion a cholegau, i ddarparwyr arbenigol newydd.
‘Ni all y methiannau hyn fyth ddigwydd eto’
Dywedodd Matt Stringer, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall: “Mae’n wir ddrwg gennym am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn, sy’n cynrychioli’r pwynt isel yn ein hanes 152 mlynedd. Mae’n amlwg ein bod wedi siomi plant a’u teuluoedd, staff, gwirfoddolwyr, cefnogwyr a phobl ddall a rhannol ddall sy’n rhan o gymuned yr RNIB o ddifrif. Mae’n ddrwg gennym i bob un ohonynt.
‘Rydym yn derbyn argymhellion y Comisiwn Elusennau yn llawn ac mae adroddiad yr ymchwiliad yn cydnabod ein bod yn gwneud cynnydd da wrth eu gweithredu. Rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol i RNIB ac rydym yn parhau i wreiddio gwelliannau i sicrhau na all y methiannau hyn fyth ddigwydd eto. Rydym wedi ymrwymo i ddod allan o hyn fel sefydliad gwell, mwy penderfynol a mwy effeithiol’
Mae RNIB wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd ar y gwelliannau a wnaed ar draws y sefydliad ac yn eu dull o ddiogelu.
Mae’r achos yn amlygu pwysigrwydd llywodraethiant da a diogelu cadarn o fewn elusennau sy’n cyflenwi gwasanaethau i blant ac oedolion a allai fod yn agored i risg. Mae’n hanfodol fod ymddiriedolwyr yn goruchwylio ac yn archwilio’n effeithiol a bod gan staff y cymwysterau a’r profiad priodol.
Mae’r Comisiwn yn cyhoeddi rhybudd rheoleiddiol i elusennau sy’n cyflenwi gwasanaethau ar raddfa fawr sy’n cefnogi buddiolwyr yn uniongyrchol neu sy’n darparu amwynderau neu gyfleusterau i’r cyhoedd. Bydd y rhybudd yn atgoffa elusennau o bwysigrwydd goruchwylio priodol sy’n cymryd i ystyriaeth cymhlethdod, graddfa a natur eu gweithgareddau, er mwyn cynorthwyo i osgoi niwed posibl i’w buddiolwyr, eu cyllid neu eu henw da.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â diogelu o fewn eich mudiad, gallwch gysylltu â’n gwasanaeth diogelu am wybodaeth ac arweiniad safeguarding@wcva.cymru.