Mae adroddiad gan Archwilio Cymru ar sut y dosbarthwyd cyllid cymorth COVID-19 i’r sector gwirfoddol wedi canfod bod gweithio gydag CGGC i ddosbarthu’r cyllid wedi helpu i gael yr arian i’r mannau a oedd ei angen mwyaf.
Mae Archwilio Cymru wedi rhyddhau adroddiad memorandwm sy’n canolbwyntio ar sut y dosbarthwyd Cronfa Ymateb COVID-19 y Trydydd Sector, a oedd yn cynnwys Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector (VSRF) a Chronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol (VSEF), dwy gronfa a gynlluniwyd i helpu sector Gwirfoddol Cymru i oroesi effeithiau’r pandemig a’r cyfnod clo.
EDRYCH YN ÔL AR GRONFA YMATEB COVID-19
Mae’r adroddiad yn rhoi manylion llawer o’r gweithdrefnau a’r prosesau a oedd ynghlwm â sicrhau bod yr arian yn cyrraedd y grwpiau a oedd ei angen mwyaf ac yn egluro rhywfaint o’r ffordd o feddwl y tu ôl i weithio gydag CGGC i’w ddarparu.
Fel cyllidwr, mae gennym hanes hir ac amrediad eang o wybodaeth am y dirwedd gyllido ar gyfer sector gwirfoddol Cymru, a gwnaethon ni ddefnyddio ein profiad i wneud yn siŵr bod ceisiadau yn cael eu prosesu mor gyflym â phosibl, er mwyn sicrhau ymateb brys, fel y noda’r adroddiad: ‘Roedd Llywodraeth Cymru yn dymuno rhoi Cronfa Ymateb COVID-19 y Trydydd Sector ar waith yn sydyn, felly dewisodd CGGC yn gorff cyfryngol ar gyfer elfennau allweddol o’r Gronfa […] gan ddefnyddio ei gysylltiadau, ei wybodaeth a’i brofiad ar lawr gwlad’.
ATEB YR HERIAU
Ar adeg heriol mor unigryw i bawb, rydyn ni hefyd yn falch bod yr adroddiad wedi canfod pa mor fuddiol oedd ein cyfathrebu parhaus â Llywodraeth Cymru, gan ddweud ‘Hwylusodd hyn y dasg o ddysgu mewn amser real ac, yn ei dro, gwnaeth hynny lywio gwelliannau i brosesau, gan dargedu cronfeydd yn well.’ Trwy wrando ac ymateb i anghenion y sector, yn enwedig o ran y pryderon oedd gan rai grwpiau llai ynghylch cymhwysedd, bu modd i ni addasu’r broses ymgeisio, gan alluogi mwy o fudiadau i ymgeisio. Pan ballodd y ffynonellau codi arian traddodiadol a phan oedd incwm yn brin ym mhobman, roedd hyn yn arbennig o bwysig.
Fel corff sydd hefyd yn gyfarwydd â sut i fonitro ac adrodd ar yr hyn y mae derbynyddion yn ei wneud â’u cyllid, rydyn ni’n falch bod yr adroddiad hefyd wedi canfod bod yr wybodaeth y gwnaethon ni ei hanfon yn ôl i Lywodraeth Cymru wedi helpu ‘i nodi’r galw, y nifer sy’n manteisio ar gyllid, bylchau yn y cyllid presennol a diffygion cyllid posibl, a phenderfyniadau gwybodus ynghylch dyrannu rhagor o gyllid a thargedu anghenion’.
GWERSI A DDYSGWYD
Gwnaeth y pandemig gyflwyno nifer o newidiadau a heriau enfawr i ni a’r sector gwirfoddol ehangach, ond rydyn ni’n croesawu’r gwersi y bu modd i ni eu dysgu ohono, a byddwn yn defnyddio’r profiad hwn i helpu i wneud y sector yn fwy gwydn yn y dyfodol. Gallwch chi ddarllen yr adroddiad memorandwm llawn ar-lein.