Mae gwirfoddolwyr mewn ysbytai yn chwarae rôl hanfodol mewn gwella profiad cleifion.
GWIRFODDOLWYR MEWN YSBYTAI
Yn ôl adroddiad newydd gan ‘Health Improvement Scotland’, mae gwirfoddolwyr mewn ysbytai yn chwarae rôl bwysig mewn lleddfu’r pwysau ar staff rheng flaen a gwella’r profiad o gleifion.
Ar ddechrau 2024, cafodd arolwg peilot ei gynnal i gasglu data ar brofiadau staff y GIG sy’n gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr yn eu wardiau a’u hadrannau. Casglwyd 251 o ymatebion gan staff ar draws 46 lleoliad mewn pum bwrdd GIG ledled yr Alban.
Cadarnhaodd yr arolwg fod staff mewn ysbytai’n gwerthfawrogi cael gwirfoddolwyr i’w cynorthwyo’n fawr iawn.
Canfu fod cefnogaeth gref am wirfoddoli ymhlith staff rheng flaen, gyda 99% anferthol ohonynt o blaid cynnwys gwirfoddolwyr, gan nodi buddion fel rhyddhau amser i flaenoriaethu gofal clinigol a gwella profiad cleifion.
YR YMATEB
Gwahoddwyd staff i egluro pam y gwnaethant ymateb yn y modd hwn – derbyniwyd 194 o sylwadau yn egluro.
Dywedodd un ymateb:
‘Os ydyn ni’n buddsoddi amser yn dangos a chefnogi gwirfoddolwyr â’r tasgau syml, mae’n caniatáu i ni dreulio amser gyda chleifion yn gwneud y profion diagnostig. Maen nhw’n gymorth enfawr i’n gwasanaeth ….. os ydyn ni’n treulio 30 munud yn dangos i wirfoddolwyr beth i’w wneud am chwe mis, yna mae hynny’n fuddsoddiad gwych o amser.’
Gwnaeth yr arolwg ofyn i staff am sut oeddent yn cynorthwyo gwirfoddolwyr. Dywedodd llawer eu bod yn helpu gyda chydnabyddiaeth ac adborth, cyngor ac arweiniad (datblygiad personol ac anghenion cleifion), dyrannu tasgau a chynefino gwirfoddolwyr newydd.
Rhai o fuddion personol gwirfoddolwyr a nodwyd gan y staff oedd eu bod yn ‘caniatáu i aelodau staff ganolbwyntio’n llawn ar gleifion heb ymyriadau’ a’u bod ‘nhw [gwirfoddolwyr] yn system gymorth arall i gleifion a’u teuluoedd’.
Canfyddiadau allweddol eraill:
- Adroddodd 84% eu bod yn treulio llai na 30 munud y dydd yn rhoi cymorth i wirfoddolwyr
- Nododd 69% o’r staff fod cynnwys gwirfoddolwyr yn helpu i ostwng eu lefelau straen
- Dywedodd 26% fod gwirfoddolwyr yn cyfrannu at eu hiechyd meddwl a’u lles cyffredinol yn y gwaith
- Gwnaeth staff hefyd sylwi ar welliannau yn ansawdd y gofal i gleifion, lles y claf, a’r cyfathrebu rhwng staff a chleifion
BETH NESAF?
Mae’r adroddiad yn amlinellu pum argymhelliad allweddol ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys cynyddu faint o bobl sy’n cymryd rhan mewn arolygon, rhannu data a chanfyddiadau’n eang, a chynnal yr arolwg bob blwyddyn.
Gall arolygon sy’n mynd ati’n rheolaidd i gasglu safbwyntiau staff o wirfoddolwyr ddangos faint o effaith bositif mae gwirfoddolwyr yn ei chael ar ganlyniadau iechyd, gan gyfrannu at y nod a rennir o ddangos y gwahaniaeth y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud.
Er mwyn sicrhau bod gwirfoddolwyr mewn ysbytai yn llwyddiant go iawn, mae’n bwysig i fyrddau wrando ar adborth staff a blaenoriaethu gwirfoddoli.
Pan fyddwn ni’n mesur effaith gwirfoddoli ac yn ei chysylltu â data canlyniadau, gallwn wneud achos cryfach dros fuddsoddi mewn gwirfoddoli a dangos y gwahaniaeth y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud. Beth yw eich barn chi?
Cefnogwyd y gwaith hwn gan Dîm Rhaglen Gwirfoddoli GIG yr Alban. Mae’r adroddiad yn ffurfio rhan o’n Cyfres ar Effaith Gwirfoddolwyr gan GIG yr Alban.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch yr *adroddiad llawn.
RHAGOR O WYBODAETH
Eisiau gwirfoddoli? Ewch i chwilio am gyfleoedd drwy fynd i Gwirfoddoli Cymru.
Eisiau rhagor o wybodaeth am wirfoddoli? Mae gennym ni’r wybodaeth. Dyma ragor o arweiniad.
A ydych chi’n gweithio gyda gwirfoddolwyr, neu a hoffech wneud hynny? Mae gennym amrywiaeth o adnoddau yn ogystal â chymorth, cyngor a gwybodaeth i’ch helpu chi.
Am ragor o wybodaeth am iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a sut mae Helplu Cymru yn mesur canlyniadau ac effaith gwirfoddolwyr, ewch i dudalen Prosiect Iechyd a Gofal CGGC.
*Saesneg yn unig