assorted clothes on charity shop rail

Adroddiad newydd – effaith ariannol COVID-19 ar fudiadau gwirfoddol

Cyhoeddwyd : 09/06/20 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu |

Mewn ymateb i argyfwng presennol y Coronafeirws, mae CGGC wedi bod yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau o’r enw ‘Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol’, sy’n edrych ar sut mae’r sector gwirfoddol wedi’i effeithio gan y pandemig a sut mae’n ymateb iddo.

Yn y digwyddiad cyntaf o’r gyfres hon, edrychwyd ar oblygiadau ariannol yr argyfwng, a chafodd dros 90 o bobl a mudiadau eu cynrychioli.

Gwnaeth y drafodaeth a gafwyd yn y sesiwn hon amlygu effaith ddisyfyd yr argyfwng, gyda llawer o fudiadau’r sector yn colli incwm. Mae’r rheini sydd wedi gorfod rhoi’r gorau i weithgareddau’n gyfan gwbl, fel y rheini sy’n dibynnu ar fanwerthu i ategu eu hincwm, wedi’u heffeithio’n benodol.

Gydag amrediad o opsiynau cymorth ar gael ar hyn o bryd, roedd eraill yn gweithio tuag at y dyfodol gyda phryder, gan bwysleisio er eu bod yn sefydlog ar hyn o bryd, y byddai’r chwe mis i flwyddyn nesaf yn dyngedfennol.

Mae adroddiad sy’n nodi manylion y sesiwn hon ar gael bellach, a gellir hefyd gweld blog o’r digwyddiad yma.

Gellir hefyd gweld recordiad o’r sesiwn am ddim ar ein sianel YouTube.

Blogiau sy’n crynhoi’r drafodaeth

Mae Jess Blair wedi cyflwyno crynodeb o’r trafodaethau sydd wedi’u cynnal â’r sector gwirfoddol ynghylch y digwyddiadau yn ein cyfres, Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol.

Yr un nesaf yn ein cyfres Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol

Mae COVID-19 wedi effeithio ar fywydau pawb. Mae’r cyfyngiadau symud wedi gorfodi pob un ohonom i wneud pethau’n wahanol, ac i wneud gwahanol bethau. Mae wedi cyflwyno posibiliadau newydd – da a drwg.

Wrth i lunwyr polisi ddechrau edrych ymlaen, mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig gofod i rannu dysgu, ystyried goblygiadau ar gyfer y dyfodol a thrafod beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer penderfyniadau a wneir heddiw.

Paratoi ar gyfer dyfodol gwahanol: Y newid yn yr hinsawdd
Dydd Iau 11 Mehefin 4-5pm

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar oblygiadau’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Darganfod mwy ac archebu.

Paratoi ar gyfer dyfodol gwahanol: Economi llesiant
Dydd Iau 18 Mehefin 12-1pm

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar beth allai hyn ei olygu ar gyfer creu Economi Llesiant. Bydd modd cadw lle ar dudalen Eventbrite CGGC yn fuan.

Gallwch gofrestru i gael ein diweddariadau dyddiol ar COVID-19 (Llun – Gwe). Bydd y rhain yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r sector gwirfoddol yng Nghymru ar COVID-19, ac yn eich galluogi i gael y ddolen cadw lle wedi’i hanfon yn syth i’ch mewnflwch, yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth ddefnyddiol arall ar COVID-19. Gallwch hefyd anfon e-bost at bookings@wcva.cymru i fynegi eich diddordeb yn y digwyddiadau hyn.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 07/04/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Pum mlynedd o ariannu’r sector gwirfoddol trwy MAP

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/02/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Gwnewch gais nawr am Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/01/25
Categorïau: Cyllid

Little Lounge – cefnogi’r gymuned leol

Darllen mwy