Mewn ymateb i argyfwng cyfredol y Coronafeirws, cynhaliodd CGGC gyfres o ddigwyddiadau o dan yr enw ‘Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol’, a oedd yn edrych ar sut mae’r sector gwirfoddol wedi’i effeithio gan y pandemig ac yn parhau i ymateb iddo.
Gwnaeth y trydydd digwyddiad yn y gyfres hon ganolbwyntio ar ba effeithiau mae’r pandemig wedi’u cael ar ddarparu gwasanaethau a sut gallai’r heriau hyn barhau i ddatblygu yn y dyfodol.
Mae llawer o fudiadau wedi gorfod newid y gwasanaethau roedden nhw’n eu darparu’n bersonol i rai ar-lein, lle’n bosibl. Canfu mudiadau er eu bod yn gallu cysylltu â phobl y tu hwnt i ffiniau daearyddol, roedd pryderon ynghylch y rheini sydd wedi’u hallgau’n ddigidol. Nodwyd cydweithio a newid y ffordd y mae mudiadau’n cysylltu ag eraill fel ffactorau pwysig wrth symud ymlaen.
Mae adroddiad yn manylu ar y sesiwn hon bellach ar gael, a gellir hefyd gweld blog o’r digwyddiad yma.
Gellir hefyd gweld recordiad o’r sesiwn am ddim ar ein sianel YouTube.
Blogiau sy’n crynhoi’r drafodaeth
Mae Jess Blair wedi cyflwyno crynodeb o’r trafodaethau sydd wedi’u cynnal â’r sector gwirfoddol ynghylch y digwyddiadau yn ein cyfres, Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol.
- Sut mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio’n ariannol ar y sector gwirfoddol
- Sut gallwn ni adeiladu ar ymateb cymunedau i goronafeirws
- Darparu gwasanaethau ar ôl COVID-19
- COVID-19 a dylanwadu ar benderfynwyr
- COVID-19 a’r Argyfwng Hinsawdd
Cyfres Paratoi ar gyfer dyfodol gwahanol – camau dilynol
Mae COVID-19 wedi effeithio ar fywydau pawb. Mae’r cyfyngiadau symud wedi gorfodi pob un ohonom i wneud pethau’n wahanol, ac i wneud gwahanol bethau. Mae wedi cyflwyno posibiliadau newydd – da a drwg.
Wrth i lunwyr polisi ddechrau edrych ymlaen, mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig gofod i rannu dysgu, ystyried goblygiadau ar gyfer y dyfodol a thrafod beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer penderfyniadau a wneir heddiw.
Er bod y gyfres o chwe digwyddiad wedi dod i ben ar ddydd Iau 18 Mehefin, mae’r sgyrsiau ynghylch y pynciau hyn, ac eraill, yn parhau. Rydyn ni eisiau parhau i ddysgu o’r sector a defnyddio’r trafodaethau hyn yn ein gwaith ehangach.
Mae’r adroddiadau o’r dau ddigwyddiad cyntaf ar gael isod:
- Adroddiad newydd – effaith ariannol COVID-19 ar fudiadau gwirfoddol
- Adroddiad newydd – adeiladu ar ymateb y gymuned i COVID-19
Bydd y gyfres hon yn cloi gydag adroddiad sy’n cynnwys y pedwar cwestiwn allweddol y gwnaethon ni ymdrin â nhw yn ystod pob sesiwn.
Gallwch gofrestru i gael ein diweddariadau dyddiol ar COVID-19 (Llun – Gwe). Bydd y rhain yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r sector gwirfoddol yng Nghymru ar COVID-19, ac yn eich galluogi i gael y ddolen cadw lle wedi’i hanfon yn syth i’ch mewnflwch, yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth ddefnyddiol arall ar COVID-19. Gallwch hefyd anfon e-bost at policyteam@wcva.cymru er mwyn bwydo i mewn i unrhyw un o’r pynciau hyn a rhagor.