Pobl yn cloddio i blannu mewn ardd cymunedol

Adroddiad newydd – adeiladu ar ymateb y gymuned i COVID-19

Cyhoeddwyd : 22/06/20 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli |

Mewn ymateb i argyfwng cyfredol y Coronafeirws, cynhaliodd CGGC gyfres o ddigwyddiadau o dan yr enw ‘Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol’, a oedd yn edrych ar sut mae’r sector gwirfoddol wedi’i effeithio gan y pandemig ac yn parhau i ymateb iddo.

Edrychodd yr ail o’r digwyddiadau hyn ar adeiladu ar ymateb y gymuned a’r nifer fawr o wirfoddolwyr a ddaeth i’r adwy o ganlyniad i’r argyfwng, gyda thros 100 o bobl a mudiadau wedi’u cynrychioli.

Cefnogwyd y sesiwn gan dri siaradwr: Y Cynghorydd Mike Theodoulou, Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn ac Is-gadeirydd Un Llais Cymru; Sue Leonard, Prif Swyddog, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, ac Owen Wilce, Arweinydd Datblygiad Cymunedol a Phartneriaeth, Cyngor Sir Fynwy.

Cychwynnodd y drafodaeth trwy drafod gwirfoddoli anffurfiol a’i ddatblygiad sydyn, yn enwedig ar lefel leol. Bu rhaid i nifer o fudiadau a fyddai fel arfer yn dibynnu ar wirfoddolwyr, y mae nifer ohonynt bellach yn gwarchod gartref, oedi eu gweithgarwch gan fod yr angen i warchod gwirfoddolwyr yn bwysicach na dim arall. Pwysleisiwyd rôl technoleg, hyfforddiant a chydweithio fel ffyrdd o addasu i newid di-oed a hirdymor.

Ceir ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol a sut i harneisio a chynnal yr ymateb cymunedol amlwg hwn drwy’r cyfnod digynsail yma.

Mae adroddiad yn manylu ar y sesiwn hon bellach ar gael, ac mae darn blog am y digwyddiad i’w weld yma.

Gellir gweld recordiad o’r sesiwn am ddim ar ein sianel YouTube hefyd.

Blogiau sy’n crynhoi’r drafodaeth

Mae Jess Blair wedi cyflwyno crynodeb o’r trafodaethau sydd wedi’u cynnal â’r sector gwirfoddol ynghylch y digwyddiadau yn ein cyfres, Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol.

Cyfres Paratoi ar gyfer dyfodol gwahanol – camau dilynol

Mae COVID-19 wedi effeithio ar fywydau pawb. Mae’r cyfyngiadau symud wedi gorfodi pob un ohonom i wneud pethau’n wahanol, ac i wneud gwahanol bethau. Mae wedi cyflwyno posibiliadau newydd – da a drwg.

Wrth i lunwyr polisi ddechrau edrych ymlaen, mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig gofod i rannu dysgu, ystyried goblygiadau ar gyfer y dyfodol a thrafod beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer penderfyniadau a wneir heddiw.

Er bod y gyfres o chwe digwyddiad wedi dod i ben ar ddydd Iau 18 Mehefin, mae’r sgyrsiau ynghylch y pynciau hyn, ac eraill, yn parhau. Rydyn ni eisiau parhau i ddysgu o’r sector a defnyddio’r trafodaethau hyn yn ein gwaith ehangach.

Bydd y gyfres hon yn cloi gydag adroddiad sy’n cynnwys y pedwar cwestiwn allweddol y gwnaethon ni ymdrin â nhw yn ystod pob sesiwn. Gallwch chi ddod o hyd i’r adroddiad hwn yma [link to be added if available]

Gallwch gofrestru i gael ein diweddariadau dyddiol ar COVID-19 (Llun – Gwe). Bydd y rhain yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r sector gwirfoddol yng Nghymru ar COVID-19, ac yn eich galluogi i gael y ddolen cadw lle wedi’i hanfon yn syth i’ch mewnflwch, yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth ddefnyddiol arall ar COVID-19. Gallwch hefyd anfon e-bost at policyteam@wcva.cymru er mwyn bwydo i mewn i unrhyw un o’r pynciau hyn a rhagor.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy