Adroddiad Cymdeithas y Cadeiryddion ar Gadeirio yn ystod pandemig Covid-19

Adroddiad Cymdeithas y Cadeiryddion ar Gadeirio yn ystod pandemig Covid-19

Cyhoeddwyd : 22/06/21 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae Cymdeithas y Cadeiryddion wedi cyhoeddi adroddiad ymchwil sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am brofiadau cadeiryddion elusennau yn ystod pandemig Covid-19.

Mae rôl cadeirydd elusen yn un gyfrifol iawn ac mae pandemig Covid-19 wedi cyflwyno heriau newydd i gadeiryddion a’u byrddau.

Mae canfyddiadau’r astudiaeth yn dangos bod cadeiryddion elusennau wedi gofod gwneud penderfyniadau cymhleth ac anodd ar gyflymder a heb wybodaeth gyflawn yn ystod y pandemig.

Un o’r prif ganfyddiadau yw bod y rôl yn cymryd mwy o amser, yn enwedig o ran cefnogi staff a chynnal cyfarfodydd yn fwy aml.

Nid yw’r darlun yn hollol negyddol. Mae’r astudiaeth yn dangos bod lefelau cymhelliant yn parhau i fod yn uchel a chafwyd effaith gadarnhaol ar berthnasau, ond mae perygl y profir blinder a gorweithio.

Mae cadeiryddion hefyd wedi gorfod uwchsgilio eu hunain yn gyflym o ran technoleg ddigidol ac mae hyfforddiant wedi bod yn broblem. Mae’r adroddiad yn datgan bod diffyg buddsoddi cyffredinol yn aml o ran hyfforddiant a datblygiad y cadeirydd sy’n peri gofid.

‘WASANAETH DIHUNAN’

Yn gyffredinol, mae’r canfyddiadau’n dangos bod cadeiryddion wedi camu i’r adwy yn llethol gan dderbyn cyfrifoldebau ychwanegol a gwneud penderfyniadau anodd. Mae nifer ohonynt wedi mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir. Daw Cymdeithas y Cadeiryddion i’r casgliad fod y stori sy’n dod i’r amlwg yn un o ‘wasanaeth dihunan’.

Mae’r adroddiad yn cynnwys ystod o argymhellion ar gyfer y camau nesaf, gan alw am fwy o gymorth ar gyfer cadeiryddion, a mwy o fuddsoddi yn eu datblygiad.

Lawrlwythwch gopi o’r adroddiad oddi ar wefan Cymdeithas y Cadeiryddion (Saesneg yn unig) Bydd angen cofrestriad e-bost os nad ydych chi’n aelod.

Cwestiynau i’w hystyried:

  • Beth y mae eich elusen yn ei wneud i sicrhau bod y cadeirydd wedi’i gefnogi yn ei rôl?
  • Ydy eich elusen yn buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygiad ar gyfer y Cadeirydd?

Mae CGGC a’n partneriaid Cynghorau Gwirfoddol Sirol yn cynnig ystod o wybodaeth, digwyddiadau, hyfforddiant, a chymorth a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer cadeiryddion elusennau yng Nghymru.

Cadwch lygad allan am y cylchlythyr CGGC ar gyfer y newyddion a’r cyfleoedd diweddaraf a chofrestrwch ar gyfer Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 03/03/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Hyrwyddo cyfiawnder rhywedd a’r hinsawdd yn Uganda

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/02/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwirfoddolwyr: pontio’r bwlch mewn gofal dementia

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/01/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Buddsoddi mewn atal yn ‘cadw pobl yn iach ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau’

Darllen mwy