Mae grŵp o bobl yn cerdded drwy dir ystâd wledig

Adroddiad blynyddol Cynllun Tirlenwi (LDTCS) 2020-21 bellach ar gael!

Cyhoeddwyd : 19/11/21 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae adroddiad Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi 2020/21 yn tynnu sylw at gyflawniadau anhygoel grwpiau cymunedol ledled Cymru sydd wedi bod yn gweithio i wella’r amgylchedd yn eu cymunedau.

Dyma’r drydedd flwyddyn weithredol ar gyfer y Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Cymru gyfan, ac eleni dyfarnwyd cyllid i 29 prosiect lleol ac un prosiect ag arwyddocâd cenedlaethol. Mae’r prosiectau lleol yn ceisio gweithredu ar yr amgylchedd mewn ardaloedd o fewn pum milltir i safle tirlenwi neu orsaf trosglwyddo gwastraff sylweddol.

Mae’r adroddiad yn pwysleisio sut mae’r cynllun yn cyflawni yn erbyn blaenoriaethau deddfwriaeth allweddol. Mae prosiectau hefyd yn cefnogi a’r Rhaglen Lywodraethu newydd a gyhoeddwyd yn dilyn Etholiadau’r Senedd yn 2021, a byddant yn parhau i wneud hynny yn ystod y ddwy flynedd nesaf o gyflwyno’r grant. Gallwch ei lawrlwytho yma.

PWYSIGRWYDD EIN HAMGYLCHEDD NATURIOL

Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce, Cadeirydd y Cynllun Cymunedau Trethi Tirlenwi:

‘Mewn blwyddyn sydd wedi cyflwyno heriau annisgwyl iawn, mae ymrwymiad y grwpiau cymunedol i arwain camau gweithredu ar yr amgylchedd drwy brosiectau sydd wedi’u hariannu drwy Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi creu argraff fawr arnaf ac wedi fy ysbrydoli.

‘Ar ôl treulio mwy o amser nag y byddem fel arfer y tu mewn i’n cartrefi ein hunain, rwy’n credu bod pob un ohonom yn gwerthfawrogi bwysigrwydd ein hamgylchedd naturiol fwy nac erioed o’r blaen a’r llawenydd o weithio i’w wella gyda’n gilydd.

‘Mae grwpiau ar draws Cymru gyfan wedi dod ynghyd mewn ffyrdd newydd i gyflwyno prosiectau Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS), yn addasu ac yn dysgu i barhau i gysylltu eu cymunedau ac arwain camau gweithredu ar yr amgylchedd.’

EIN PROSIECTAU

Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos o brosiectau llwyddiannus blaenorol sydd wedi cyflawni prosiectau anhygoel yn eu cymunedau. Er enghraifft:

  • Canolfan Maerdy sydd wedi bod yn dargyfeirio bwyd ar gyfer tirlenwi i deuluoedd lleol mewn angen.
  • Cadwch Gymru’n Daclus sydd wedi gwarchod ac adfer bryngaer Pen Garnbugail yng Ngelligaer a Choed merthyr.
  • Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent sydd wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr i atgyfnerthu’r boblogaeth marten pinwydd. Yn ogystal â llawer mwy o sefydliadau gwych.
  • Prosiect Pafiliwn Grange Prifysgol Caerdydd sydd wedi trawsnewid pafiliwn a lawnt fowlio wedi’i esgeuluso fel cyfleuster amlswyddogaethol ar gyfer cymunedau amrywiol Grangetown.
  • Prosiect Bike Refurbs Sir y Fflint Refurbs sy’n trwsio ac yn ail-wneud beiciau diangen a fyddai fel arall yn cael eu gwaredu fel gwastraff.
  • Cymdeithas Camlesi Abertawe sydd wedi adfer Camlas Abertawe i safon a ystyrir yn fordwyadwy gan Ymddiriedolaeth Afonydd Camlas.
  • Prosiect Hybu Natur Innovate Trust sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu i gynyddu eu lles corfforol a meddyliol, yn ogystal â’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r byd naturiol.

CYLLID DAL AR GAEL

Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi’ch ysbrydoli i feddwl am ffyrdd o wella’r amgylchedd yn eich ardal chi, mae’r Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) bellach ar agor i geisiadau. Ar gyfer prif grantiau rhwng £5,000 – £49,000 a phrosiectau o arwyddocâd cenedlaethol hyd at £250,000.

Y terfyn amser ar gyfer ceisiadau yw 23 Ionawr 2022, fydd prosiectau llwyddiannus yn cychwyn yn Mawrth 2022.

Os oes gennych chi syniad prosiect a fyddai o fudd i’ch cymuned, edrychwch i weld os ydych chi’n gymwys trwy ymweld a’n gwefan a defnyddio y map i weld lle mae’r lleoliadau cymwys. Bydd Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ariannu prosiectau sy’n canolbwyntio ar Fioamrywiaeth, Lleihau Gwastraff a Dargyfeirio Gwastraff o Safleoedd Tirlenwi a Gwelliannau Amgylcheddol Ehangach.

HELP I WNEUD CAIS

Rydym yn cael llawer iawn o geisiadau sy’n gwneud y broses ariannu’n un gystadleuol iawn. Os hoffech gymorth ac arweiniad i ddatblygu prosiect gallwch gysylltu â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.

Er mwyn cyflwyno cais am gyllid, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Cais Amlbwrpas (MAP) CGGC. Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi trwy nodi’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref. Gall sefydliadau gofrestru trwy ymweld â’r wefan https://map.wcva.cymru.

Os oes angen help arnoch i gofrestru ar MAP dilynwch y fideo yma.

Os oes gennych gwestiwn am Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi cysylltwch â Thîm Cronfeydd Grant WCVA drwy ebostio ldtgrants@wcva.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 18/09/23 | Categorïau: Cyllid |

Cyllid ar gael ar gyfer prosiectau amgylcheddol bach a mawr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 15/09/23 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2023

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 14/09/23 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu |

Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE

Darllen mwy