Ni roddodd Llywodraeth y DU lawer i ffwrdd am y Gronfa Ffyniant a Rennir yn Adolygiad Cyllideb a Gwariant yr Hydref 2021, ond rhyddhaodd fanylion y rhai a wnaeth gais llwyddiannus o dan rowndiau cyntaf y Cronfeydd Perchnogaeth Gymunedol a Lefelu.
Cronfa Ffyniant a Rennir y DU
Nid oeddem yn disgwyl gormod o fanylion am Gronfa Ffyniant a Rennir y DU yn yr Adolygiad o’r Gyllideb a Gwariant ac roedd ein disgwyliadau wedi’u bodloni’n fawr iawn. Cadarnhaodd y bydd y Gronfa’n buddsoddi mewn pobl, cymunedau a busnesau lleol a bydd, o leiaf, yn cyfateb i faint cronfeydd yr UE ym mhob gwlad. Fodd bynnag, ni fydd y dyraniad llawn o £1.5biliwn yn cael ei gyflawni tan 2024-25, gyda £0.4biliwn wedi’i neilltuo ar gyfer 2022-23 a £0.7biliwn wedi’i neilltuo ar gyfer 2023-24. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd cyfran sylweddol o’r cyllid yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r cynllun Lluosi – rhaglen rhifedd oedolion gwerth £560 miliwn, a fydd yn cefnogi pobl ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda sgiliau rhifedd i gynyddu eu rhagolygon cyflogaeth ac enillion.
Rydym yn disgwyl rhagor o wybodaeth am y Gronfa Ffyniant a Rennir yn y Papur Gwyn lefelu – a fydd yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.
Cronfa Perchnogaeth Gymunedol
Lansiwyd rownd gyntaf y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol (COF) yn yr haf. Nod y COF yw cefnogi cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau ac amwynderau sydd mewn perygl o gau. Cymeradwywyd 21 o brosiectau yn gyffredinol, gyda thri yng Nghymru – £250,000 ar gyfer tafarn Tŷ’n Llan yng Ngwynedd, £124,258 ar gyfer Canolfan Adnoddau a Hyfforddiant CANA yn Rhondda Cynon Taf a £90,000 ar gyfer adnewyddu ac ailddatblygu Neuadd Ddawns y Frenhiness ym Mlaenau Gwent.
Mae disgwyl i ail rownd ymgeisio agor ym mis Rhagfyr.
Cronfa Codi’r Wastad
Nod y Gronfa Codi’r Wastad yw uwchraddio seilwaith lleol, o asedau diwylliannol hyd at welliannau trafnidiaeth lleol. Cyhoeddwyd gwerth £1.7biliwn o brosiectau o dan rownd ymgeisio £4.8biliwn gyntaf y Gronfa Codi’r Wastad. Gwnaed 10 dyfarniad yng Nghymru gwerth cyfanswm o £121miliwn, gan gynnwys £15.5miliwn ar gyfer adfer Camlas Trefaldwyn ym Mhowys, £5.4miliwn ar gyfer Canolfan Gelfyddydau’r Miwni a £16.8miliwn ar gyfer Llwybr Dyffryn Tywi – llwybr beicio a cherdded pwrpasol rhwng Caerfyrddin a Llandeilo.
Cronfa Adnewyddu Cymunedol
Roedd rhywbeth ar goll o’r Adolygiad o’r Gyllideb a Gwariant yn gyhoeddiad am y Gronfa Adnewyddu Cymunedol a dyfarniadau prosiect. Fodd bynnag, cyhoeddwyd y ceisiadau llwyddiannus wythnos yn ddiweddarach (ychydig fisoedd yn hwyrach na’r disgwyl) gyda 165 o brosiectau wedi’u cymeradwyo yng Nghymru gwerth dros £46.8miliwn. .
I gael rhagor o wybodaeth fel hyn a’r wybodaeth ddiweddaraf am y cronfeydd newydd, cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr WCVA.