Cafodd y Cod Llywodraethu i Elusennau ei ddiweddaru yn ddiweddar ac ymysg y prif newidiadau mae fersiwn newydd o’r Egwyddor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Fel y gwyddom, mae llywodraethu da yn hanfodol i lwyddiant elusennau. Bwriedir y Cod Llywodraethu i Elusennau fel offeryn ymarferol i ymddiriedolwyr elusennau ei ddefnyddio i sefydlu a chynnal safonau llywodraethu uchel.
Bwriad y fersiwn wedi ei diweddaru o’r Cod yw cwrdd ag anghenion presennol y sector mewn perthynas ag Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI). Mae’r Egwyddor a ddiweddarwyd yn nodi:
‘Mae gan y bwrdd ymagwedd glir, gytunedig ac effeithiol tuag at gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant drwy’r sefydliad ac yn ei arferion ei hun. Mae’r ymagwedd hon yn sail i lywodraethu da a’r broses o wireddu dibenion elusennol y sefydliad.’
Dilynir hyn gan resymeg sy’n esbonio pam bod yr egwyddor yn bwysig, ynghyd â rhestr o arfer a argymhellir.
Gwyddom y gall EDI fod yn faes heriol, yn enwedig i fyrddau ymddiriedolwyr elusennau bach, felly mae’n bwysig meddwl amdano fel siwrnai a sicrhau bod eich ymagwedd wedi’i wreiddio yng nghyd-destun penodol eich elusen.
Mae’r Egwyddor yn amlinellu pedwar cam er mwyn helpu ymddiriedolwyr i feddwl am siwrnai EDI eu helusen:
- Mae’r cam cyntaf yn gofyn i fyrddau ystyried pam bod EDI yn bwysig i’r elusen, er mwyn cyflawni ei amcanion, ac er mwyn asesu lefel bresennol dealltwriaeth aelodau’r bwrdd a’r mudiad cyfan.
- Mae’r ail gam yn gofyn i fyrddau amlinellu cynlluniau a thargedau wedi’u teilwra yn seiliedig ar fan cychwyn yr elusen.
- Yn drydydd, caiff byrddau eu hargymell i fonitro a mesur pa mor dda mae’r elusen yn gwneud wrth wireddu’r cynlluniau a’r targedau hynny, gan gynnwys unrhyw dargedau sy’n ymwneud yn benodol â’r bwrdd
- Mae’r pedwerydd cam yn argymell bod byrddau’n ymddwyn yn dryloyw ac yn cyhoeddi cynnydd yr elusen wrth gwrdd â’r targedau hynny, gan gynnwys unrhyw heriau a chyfleoedd a’r hyn a ddysgwyd.
Dyma rai adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol er mwyn i chi ddechrau ystyried sut i gymhwyso’r egwyddor i’ch elusen chi (Saesneg yn unig):
- Fideo, Support for the EDI Principle
- Blog, Chaka Bachmann, Creating a Vision for Change
- Erthygl, Pari Dhillon: Equality, diversity and inclusion is good governance
- Bates Wells, Diversity in Action: A Guide for Charities
Mae CGGC yn aelod o grŵp llywio’r Cod Llywodraethu i Elusennau. Gallwch ddilyn y Cod ar Trydar @charitygovcode.