llun o plentyn yn dysgu o gwirfoddolwr ar y we

Adnoddau dysgu i wirfoddolwyr a COVID-19

Cyhoeddwyd : 11/05/20 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae angen am adnoddau dysgu ar-lein hawdd cael gafael arnynt yn ystod pandemig COVID-19, er mwyn paratoi gwirfoddolwyr ar gyfer rolau newydd neu ar gyfer rolau y byddant yn eu cyflawni o dan amgylchiadau gwahanol yn ystod y cyfnod hwn.

Yn ogystal, gallai hwn fod yn gyfle i wirfoddolwyr ymgymryd â dysgu ehangach, hunangyfeiriedig a allai fod yn berthnasol i’w gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Isod ceir manylion adnoddau sydd ar gael yn rhad ac am ddim a allai fod yn ddefnyddiol.

Sylwch: Gall adnoddau dysgu nad ydynt yn benodol ar gyfer Cymru fod yn ddefnyddiol ar lawer o bynciau, ond cofiwch fod gwahaniaethau yn aml rhwng gwledydd mewn perthynas â safbwyntiau deddfwriaethol a pholisi – er enghraifft cyfyngiadau COVID-19, diogelu, neu gam-drin domestig. Cynghorir defnyddwyr i wirio bod y deunydd yn addas ar gyfer eu cynulleidfa arfaethedig.

GWYBODAETH AC ARWEINIAD CYFFREDINOL YNGLŶN Â COVID-19

Mae canllawiau COVID-19 penodol sy’n berthnasol i wirfoddoli wedi’u postio ar wefan CGGC;  caiff gwybodaeth newydd ei hychwanegu yma’n rheolaidd.

DYSGU IECHYD A GOFAL CYMRU

Mae cyfres newydd o adnoddau, a ddatblygwyd gan CGGC/ City and Guilds ac a gefnogir gan y sector a Gofal Cymdeithasol Cymru, yn cefnogi   dysgu tuag at gymwysterau iechyd a gofal newydd.

Ceir llyfrau gwaith i gefnogi Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac adnoddau ar yr Hwb Dysgu, sy’n rhoi lle i ddeunydd dysgu perthnasol i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae yno adnoddau ar ddementia a gofalwyr di-dâl, er enghraifft, ac mae modiwlau dysgu newydd ar Weithdrefnau Diogelu Cymru i fod i gael eu uwchlwytho’n fuan. Gellir lawrlwytho Gweithdrefnau Diogelu Cymru fel ap o www.diogelu.cymru fel man cyfeirio ac adnodd dysgu defnyddiol.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ac adnoddau penodol i COVID-19, gan gynnwys canllawiau gwirfoddoli mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.

FIDEOS I GEFNOGI SEFYDLU MEWN LLEOLIADAU GOFAL CYMDEITHASOL

Mae cyfres o bedwar fideo i gefnogi iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod COVID-19 wedi’u datblygu gan Gyngor Sir Gaerfyrddin, yn ymdrin â PPE, codi a chario, gofal personol a rheoli heintiau. Maent yn seiliedig ar Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ac ar gael i staff a gwirfoddolwyr.

Mae datblygiad gweithlu Blaenau Gwent a Chaerffili wedi cyhoeddi chwe fideo byr wedi’u hanelu at weithwyr neu wirfoddolwyr sy’n cefnogi gofal cymdeithasol, ar y pynciau canlynol:

 

PLATFFORM E-DDYSGU GIG CYMRU

Platfform dysgu GIG sy’n cynnig lle i dros 350 o gyrsiau, gan gynnwys cyrsiau i gynnig cefnogaeth benodol yn ystod yr argyfwng COVID-19, yw Dysgu@Cymru. Ymysg y pynciau allweddol mae diogelu, atal a rheoli heintiau, llywodraethu gwybodaeth, iechyd a diogelwch, diogelwch tân, ymwybyddiaeth gofalwyr, trais yn y cartref a chydraddoldeb.

Gall unigolion neu fudiadau, gan gynnwys gwirfoddolwyr, sy’n cefnogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gael mynediad i’r platfform yn rhad ac am ddim. Yn gyntaf rhaid i gyfrif gael ei greu gan y Tîm Dysgu Digidol – gellir cysylltu â nhw ar elearning@wales.nhs.uk neu trwy’r sgwrs fyw ar https://learning.wales.nhs.uk/.

SESIYNAU BRIFFIO AR DDIOGELWCH

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi cynhyrchu cyfres o sesiynau briffio 7 munud ar ystod o bynciau diogelwch, fel diweddariad i ymarferwyr ac unigolion.

OPENLEARN CYMRU

Mae’r Brifysgol Agored wedi cyhoeddi adnoddau dysgu ar-lein rhad ac am ddim gan gynnwys cyrsiau yn Saesneg ac yn Gymraeg mewn perthynas â  Gofal Cymdeithasol a Seicoleg.

HWB DYSGU HELPFORCE

Porth addysg newydd wedi’i ddatblygu gan Helpforce. Mae’n ofynnol cofrestru ar y wefan, naill ai fel gwirfoddolwr neu fel rhywun sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr.

Anogir gwirfoddolwyr i raddio’u sgiliau a’u cymwyseddau yn erbyn safon cymhwyso gwirfoddolwyr newydd ar gyfer iechyd a gofal, sy’n ymdrin â chwe maes craidd: rolau a chyfrifoldebau; cyfathrebu; parch tuag at bawb; diogelu; iechyd meddwl; anabledd ac anabledd dysgu; iechyd a diogelwch.

Yn gysylltiedig â phob pwnc ceir modiwl e-ddysgu 15-20 munud o hyd a ddatblygwyd gan Addysg Iechyd Lloegr. Ar ôl cwblhau cwis yn llwyddiannus, gellir lawrlwytho tystysgrif cyflawniad. Mae’r adnoddau wedi’u diweddaru i adlewyrchu sefyllfa COVID-19.

Ar gyfer astudiaeth bellach, gall defnyddwyr bori trwy gyrsiau a gynigir gan ddarparwyr eraill sy’n berthnasol i bob maes craidd.

Gwaith sy’n mynd rhagddo yw’r safle – gobeithiwn y bydd yn cynnig dolenni i fwy o adnoddau o Gymru cyn hir.

COLEG RHITHWIR

Yn cynnig cyrsiau e-ddysgu am ddim ar bynciau sy’n cynnwys atal a rheoli heintiau, atal COVID-19, iechyd meddwl a lles, symud (Get Moving), byw’n iach (Get Healthy) yn ogystal ag ystod o gyrsiau a chymwysterau â thâl.

PORTH DYSGU CEFNOGI TRYDYDD SECTOR CYMRU

Yn y dyfodol agos bydd Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn lansio platfform newydd a fydd yn cynnwys taflenni gwybodaeth, polisïau enghreifftiol, cyrsiau e-ddysgu a chyfleuster ar gyfer trafodaethau ar-lein. Bydd hyn yn cynnwys adnoddau sy’n ymwneud yn benodol â gwirfoddoli.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy