Adnodd Ar-lein Newydd i gefnogi’r Cylch Recriwtio Ymddiriedolwyr

Adnodd Ar-lein Newydd i gefnogi’r Cylch Recriwtio Ymddiriedolwyr

Cyhoeddwyd : 22/06/21 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae’r adnodd ar-lein am ddim hwn yn cynorthwyo byrddau i recriwtio ymddiriedolwyr mewn modd effeithiol a chynhwysol.

Mae’r Cylch Recriwtio Ymddiriedolwyr (Saesneg yn unig) wedi’i ddatblygu gan ‘Reach Volunteering’ mewn cydweithrediad â Chymdeithas y Cadeiryddion, y Gynghrair Elusennau Bach a ‘Getting on Board’.

Mae ymddiriedolwyr yn chwarae rhan hanfodol ar gyfer yr elusennau y maen nhw’n eu harwain, gan osod cyfeiriad strategol, gwneud penderfyniadau allweddol a sicrhau atebolrwydd. Er mwyn gwneud hyn yn dda, mae angen i ymddiriedolwyr gael amrediad eang o brofiadau, safbwyntiau a sgiliau, ac mae angen iddyn nhw fod yn gynrychiadol o’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.

Er hyn, mae mwy na 70% o fyrddau yn parhau i recriwtio eu hymddiriedolwyr yn anffurfiol (Saesneg yn unig), gan ddefnyddio eu rhwydweithiau eu hunain. O ganlyniad, mae diffyg amrywiaeth ar fyrddau. Mae cyfran anghymesurol o fyrddau’n ddynion (64%), yn wyn (92%), yn hŷn (dros 60 oed yn gyffredinol) ac yn fwy cefnog (mae gan 75% incwm aelwyd uwch na’r incwm canolrifol cenedlaethol). Ynghyd â hyn, ni fydd ganddyn nhw’r sgiliau yn aml mewn meysydd allweddol fel digidol a marchnata.

Mae prosesau recriwtio ymddiriedolwyr da a chynhwysol yn rhan fawr o’r ateb. Yn rhannol, am mai dyma sut mae byrddau’n cryfhau cynrychiolaeth ac yn cynyddu’r amrywiaeth o sgiliau sydd ganddyn nhw. Ond hefyd, gan eu bod yn gallu bod yn sbardun pwerus i fwrdd ystyried cwestiynau ehangach. Pwy ddylai fod yn arwain eu mudiad? Pwy sydd ar goll? Beth sydd angen newid fel y gall ymddiriedolwyr newydd a gwahanol gymryd rhan ar safle cyfartal?

Mae’r Cylch Recriwtio Ymddiriedolwyr yn cynnwys canllawiau ar chwe cham (Saesneg yn unig):

  • Myfyrio
  • Paratoi
  • Hysbysebu
  • Llunio rhestr fer a chyfweld
  • Penodi a chynefino
  • Gwerthuso

Mae’r adnodd hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd hwn yn adnodd defnyddiol i fyrddau ymddiriedolwyr a phwyllgorau rheoli gefnogi prosesau gwell o recriwtio ymddiriedolwyr.

Mae’r ‘Young Trustees Movement’ wedi llunio rhestr wirio ar gyfer recriwtio ymddiriedolwyr ifanc (Saesneg yn unig) y gellir ei lawrlwytho o’r wefan drwy gofrestru cyfeiriad e-bost.

Gallwch ddod o hyd i adnoddau eraill i gefnogi’r gwaith o recriwtio ymddiriedolwyr ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 26/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwobr i bartner presgripsiynu cymdeithasol CGGC

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 22/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Chwilio am syniad Nadoligaidd syml i godi arian?

Darllen mwy