menyw a'i law fyny yn ystod cyfarfod cymunedol

Adnabod rhwystrau i lwyddiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Cyhoeddwyd : 10/12/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae CGGC wedi ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar rwystrau i weithrediad Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd ag ymchwiliad Llywodraeth Cymru i Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gofal Cymdeithasol.

Gofynnodd yr ymgynghoriad cyntaf ynglŷn ag ymwybyddiaeth o’r Ddeddf yng Nghymru, yr adnoddau sydd ar gael er mwyn ei gweithredu, lefelau o gefnogaeth a mwy. Yn ein hymateb, fe fynegom ni:

  • Y byddai datblygiad ffrwd gyllido benodol ar gyfer gwasanaethau wedi’u neilltuo i’r Ddeddf yn darparu canolbwynt ar gyfer gweithrediad llwyddiannus.
  • Rhaid i ddinasyddion chwarae rhan wrth gynllunio a darparu’r gwasanaethau sy’n cwrdd â’u hanghenion, a rhaid i Lywodraeth Cymru annog a chefnogi cyrff cyhoeddus i wneud hynny. Gallai hyn olygu lefel o uwchsgilio.
  • Mae ailadeiladu yn sgil pandemig y coronafeirws yn gyfle i roi lle blaenllaw i Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol o fewn polisi ac yn ymwybyddiaeth y cyhoedd.
  • Byddai strategaeth trosfwaol ar gyfer datblygiad cymunedol, wedi’i llunio gan y Ddeddf, yn sicrhau cysondeb mewn arferion o fewn Llywodraeth Cymru ac yn atal gweithio mewn seilos.
  • Mae Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn mynd yn ôl ar ddatganoli ac yn fygythiad i weithredu’r Ddeddf yn llwyddiannus.

Ymatebodd CGGC i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gofal Cymdeithasol hefyd.

Pe bai’n cael ei ddeddfu, byddai hyn yn arwain at newidiadau o dan adran 144B o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a byddai gofyn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol weithio ar y cyd er mwyn cynhyrchu adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer pob un o’r saith ardal Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Yn ein hymateb fe nodom nifer o ffactorau a fydd yn effeithio ar sut caiff y farchnad gofal cymdeithasol ei sefydlogi, gan gynnwys y ffaith bod y farchnad yn parhau i ymateb i Covid-19, ansicrwydd y sector gwirfoddol a breuder y farchnad gofal cymdeithasol.

Fe wnaethom ni ddadlau hefyd bod angen i’r hyn sy’n gwneud gwasanaeth ‘rhesymol’ a ‘digonol’ gael ei amlinellu er mwyn sicrhau bod y farchnad yn medru ymdopi â’r galw ac unrhyw argyfyngau yn y dyfodol. Fe nodom yn ogystal bod angen i gyrff cyhoeddus weithio tuag at y saith nod llesiant er mwyn sicrhau bod y farchnad yn sefydlog.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy