Taid gyda'i ŵyr mewn parc cyhoeddus yn plannu coeden

Adfer natur a gwella ei gwydnwch

Cyhoeddwyd : 31/10/22 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae CGGC a’i bartneriaid wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru i gyflawni cam newydd y Gwasanaeth Natur Cenedlaethol (NNS) yng Nghymru.

Bydd y Gwasanaeth Natur Cenedlaethol (NNS) yn fudiad Cymru gyfan i adfer byd natur a gwella ei wydnwch; gan greu cyfleoedd da am swyddi a bywoliaethau newydd mewn rheoli a defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy ac ymwreiddio sgiliau sy’n ystyriol o natur ar draws y gweithlu.

Drwy gydol datblygiad y Gwasanaeth Natur Cenedlaethol, mae cyfraniadau ar draws y rhwydwaith rhanddeiliaid wedi bod yn elfen hanfodol yn y broses gyd-ddylunio a chael gweledigaeth y GNC i’r pwynt hwn.

Gan adeiladu ar y dull cydweithredol hwn, rydym yn falch o gyhoeddi cyfle newydd wedi’i ariannu i randdeiliaid gyfrannu tuag at ddatblygu cynllun busnes GNC.

Gellir dyfarnu mudiadau hyd at £5,000 i ddarparu ymarferion cwmpasu sy’n archwilio cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau a chreu swyddi sy’n cefnogi adferiad natur.

I ddysgu mwy am y cyfle hwn darllenwch y canllawiau yn llawn a llenwi ffurflen gais.

Dylid cyflwyno ymarferion cwmpasu wedi’u cwblhau i CGGC erbyn 13 Ionawr 2023 fan bellaf.

Y BROSES YMGEISIO

I gyflwyno cynnig, cwblhewch y ffurflen cais, gan gynnwys cyllideb ar gyfer sut bydd y £5,000 yn cael ei ddefnyddio.

Bydd y cynigion yn cael eu hadolygu ar sail dreigl, felly anogir sefydliadau i gyflwyno cynigion mewn modd amserol oherwydd y cyllid cyfyngedig sydd ar gael. Bydd cynigion llwyddiannus mor gynhwysfawr â phosibl ond yn cydnabod cyfyngiadau oherwydd cyfyngiadau amser. Os bydd angen rhagor o wybodaeth cyn y gellir gwneud penderfyniad terfynol ar gynnig, byddwn yn cysylltu â sefydliadau i drafod unrhyw ymholiadau sy’n weddill.

Gan y bydd cynigion yn cael eu hasesu ar sail dreigl disgwylir y bydd gweithgaredd yn gallu dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl eu cyflwyno.

Noder bod y £5,000 sydd ar gael yn cynnwys yr holl TAW ac oherwydd y cyllid cyfyngedig sydd ar gael, dim ond 1 cynnig fydd yn cael ei dderbyn gan bob mudiad.

Mae cynigion yn agored i bawb, ond disgwylir y bydd pob mudiad sy’n cyflwyno cynnig yn cael eu cofrestru ar gyfer y rhestr bostio fel eu bod wedi eu cysylltu â’r rhwydwaith rhanddeiliaid ehangach. Os hoffech gyflwyno cynnig neu glywed am gyfleoedd a diweddariadau yn y dyfodol gan y Gwasanaethau Natur Cenedlaethol, cofrestrwch ar y rhestr bostio yma.

Cyn cyflwyno cysylltwch â jpreston@wcva.cymru neu ffoniwch 029 2043 1725 i drafod eich cynnig.

Llenwch y ffurflen a’i chyflwyno i jpreston@wcva.cymru erbyn 13 Tachwedd 2022.

I gael gwybod mwy am y Gwasanaeth Natur Cenedlaethol ac i gadw mewn cysylltiad, cofrestrwch ar restr bostio’r NNS.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

‘Grymuso pobl i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd lleol’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid

Cyllid ar agor i brosiectau sy’n fuddiol i gymunedau a’r amgylchedd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Y diwrnod rhoi byd-eang

Darllen mwy