Mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cael eu galw i gymryd rhan yn Arolwg Materion Eiddo Elusennau 2022.
mae pandemig COVID-19 wedi ysgogi, trawmateiddio ac ail-lunio ein sector gwirfoddol a sut mae’n defnyddio ei eiddo, boed hwnnw’n eiddo rhent neu’n eiddo y mae’n ei berchen. I ddarganfod pa mor fawr yw’r newidiadau hyn, mae ‘Ethical Property Foundation’ wedi lansio Arolwg Materion Eiddo Elusennau 2022 – ‘Addasu Eiddo Elusennau i Fyd COVID’ (Saesneg yn unig), er mwyn gwrando ar elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol ledled Cymru a Lloegr a dysgu oddi wrthynt.
Gall materion eiddo gael effaith ddifrifol ar hyfywedd a gwydnwch mudiadau gwirfoddol, fel y gwelwyd drwy gydol y pandemig. Gwnaeth y cyfnod clo a’r gofynion i weithio gartref orfodi mudiadau gwirfoddol i addasu eu ffyrdd o weithio a darparu gwasanaethau, a chollodd elusennau swm sylweddol o incwm pan bu’n rhaid i siopau elusennau gau. Nawr, wrth i ni ddechrau edrych at y dyfodol, mae mudiadau gwirfoddol yn wynebu heriau difrifol sydd angen cael eu clywed a’u deall.
MATERION EIDDO ELUSENNAU
Mae’r ‘Ethical Property Foundation’ yn cynnal yr Arolwg Materion Eiddo Elusennau bob dwy flynedd, gan ofyn i fudiadau gwirfoddol ledled Cymru a Lloegr ynghylch eu problemau eiddo. Mae hwn yn dod yn ddarn fwyfwy gwerthfawr o ymchwil sy’n rhoi dealltwriaeth glir i’r sector gwirfoddol, llunwyr polisi, landlordiaid, cyllidwyr grant ac i fenthycwyr cymdeithasol o’r heriau a’r cyfleoedd y mae mudiadau gwirfoddol yn eu hwynebu.
Mae’r pandemig wedi codi cwestiynau newydd ynghylch addasrwydd eiddo ar gyfer anghenion mudiad gwirfoddol, gyda rhai’n gofyn a oes angen eiddo arnom ni o gwbl?
Er y gallai lleihau ymrwymiadau eiddo gyflwyno cymhelliant ariannol, mae’r penderfyniad yn gymhleth ac yn ymwneud â chyfalaf cymdeithasol hefyd: beth am y bobl hynny sydd eisiau dychwelyd i’r swyddfa’n enbyd, a sut byddai newidiadau yn effeithio ar y gymuned leol? Yna ceir yr adeiladau arbennig hynny sy’n agos at galonnau pobl – adeiladu treftadaeth er enghraifft, neu fannau addoli.
RHANNU DYSGU
Wrth i’r sector gwirfoddol ddechrau symud ymlaen, mae angen rhannu’r hyn a ddysgwyd am sut gall mudiadau gwirfoddol gydweithio fel sector i sicrhau y gallwn ni stiwardio ein hadeiladau, arian, pobl, cymunedau a’n hachosion yn dda.
Os ydych chi’n ymwneud â mudiad gwirfoddol, treuliwch funud neu ddau yn cwblhau arolwg 2022 (Saesneg yn unig). Trwy gefnogi’r unig waith ymchwil yn y DU sy’n ymwneud ag eiddo a arweinir gan elusennau, byddwch chi’n helpu ein sector i ddeall sut mae’r pandemig wedi ein newid ni a sut gallwn ni adeiladu ein dyfodol.
YNGLŶN Â’R ‘ETHICAL PROPERTY FOUNDATION’
Mae’r ‘Ethical Property Foundation’ yn cynnig dysgu a chyngor ar eiddo i elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol, yn ogystal ag ymgynghoriaeth fforddiadwy.