Mae’r grŵp llywio sy’n gyfrifol am y Cod Llywodraethu i Elusennau (y Cod), sy’n hyrwyddo arfer llywodraethu da i elusennau o bob maint yng Nghymru a Lloegr, wedi cyhoeddi canlyniadau ei ymgynghoriad ar gynlluniau i ddiweddaru’r Cod.
Bwydodd dros 800 o bobl i’r ymgynghoriad trwy ddau arolwg ac adborth manwl. Cafwyd 143 o ymatebion, naill ai i’r cwestiynau ymgynghori ar-lein neu trwy e-bost.
Roedd 85% o ymatebwyr o blaid y diweddariad yn hytrach nag ailwampiad llwyr o’r Cod. O ddiddordeb arbennig oedd y cynigion i ddiweddaru Egwyddorion Uniondeb ac Amrywiaeth y Cod, gyda chwestiynau ynglŷn â’r Egwyddor Amrywiaeth yn derbyn y mwyaf o ymatebion.
Dywed Rosie Chapman, Cadeirydd y Grŵp Llywio, ynglŷn â chanfyddiadau’r adroddiad:
‘Mae naw deg y cant o ymatebwyr i’r ymgynghoriad naill ai wedi mabwysiadu’r Cod yn llawn neu yn rhannol, neu’n gweithio tuag at ei fabwysiadu’n llawn, sy’n awgrymu bod y Cod yn cael ei ddefnyddio’n helaeth. Mae hon yn gymeradwyaeth wych, yn enwedig gan fod 84% yn fodlon neu’n fodlon iawn â’r Cod.
Roedd cynnal yr ymgynghoriad yn ymarfer defnyddiol dros ben gan iddo amlygu’r meysydd o’r Cod y carai pobl eu gweld yn cael eu diwygio. Ysgogodd y cwestiwn ynglŷn ag uniondeb ystod eang o ymatebion ac awgrymiadau. At ei gilydd, ceir cefnogaeth gref i ail-lunio ac ychwanegu at yr Egwyddor Uniondeb er mwyn cofleidio ac adlewyrchu’r newidiadau diweddar yn yr amgylchedd weithredu. Ceir cefnogaeth eang yn ogystal i ehangu’r Egwyddor Amrywiaeth er mwyn mynd i’r afael ag agweddau o gynhwysiant a chydraddoldeb. Ymdrinnir â’r ddau faes hwn pan gyhoeddir yr adroddiad yn ddiweddarach eleni.’
Yn ogystal, datgelodd yr ymatebion i’r ymgynghoriad, tra bod yn agos i dri chwarter o elusennau bychain wedi clywed am y Cod, eu bod ar hyn o bryd yn llai tebygol o’i ddefnyddio.
Dywed Rosie, wrth gloi:
‘Caiff y sylwadau niferus a dderbyniwyd eu defnyddio i fwydo gwybodaeth i’r diweddariad o’r Cod ac i ddatblygu dull gweithredu mwy hirdymor y Grŵp Llywio ar gyfer adolygiad mwy pellgyrhaeddol yn 2023. Mae COVID-19 wedi gohirio dyddiad cyhoeddi’r diweddariad o’r Cod o fis Gorffennaf 2020 i ddiwedd 2020 a bydd y Grŵp Llywio nawr yn ystyried yn ofalus beth a olygir gan ‘uniondeb’ a’r ‘hawl i deimlo’n ddiogel’ a sut gellid adlewyrchu hyn orau yn y Cod.
Mae hi hefyd yn glir o’r ymgynghoriad bod angen ystyriaeth bellach o’r cynnig o ran y ffordd orau o adlewyrchu Egwyddorion Moeseg Elusennau a safbwyntiau Cyngor Cenedlaethol y Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) yn y Cod er mwyn osgoi dryswch neu ddyblygiad. O ran amrywiaeth, mae ymgynghorwyr arbenigol wedi’u comisiynu i gynorthwyo i symud hyn yn ei flaen, gan gynnwys ymgynghori pellach er mwyn datblygu’r egwyddor hon a chefnogi elusennau i’w gweithredu.
Mae sicrhau bod y Cod yn berthnasol i elusennau llai yn faes y bydd y Grŵp Llywio’n edrych arno ymhellach er mwyn gweld beth arall, os o gwbl, y gellid gwneud i amlygu cyhoeddiad diweddariad y Cod yn benodol ar gyfer mudiadau sydd wedi’u harwain a’u cynnal gan wirfoddolwyr. Mae’r Cod wedi’i yrru gan yr ethos ‘gan y sector, i’r sector’, felly rydym yn awyddus i gael darlun cywir o’r defnydd ohono ar draws elusennau, nid yn unig y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad.’
Mae’r adroddiad ar yr ymgynghoriad yma (Saesneg yn unig)