Attendees at the 2019 SIS Retail Academy gather for a photo, some are holding their retail products in the air such as a teddy bear and a bottle of alcohol

Academi Manwerthu Social Investment Scotland 27-30 Hydref 2020

Cyhoeddwyd : 30/09/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Unwaith eto bydd ein ffrindiau da yn Social Investment Scotland (SIS) yn cynnal y digwyddiad hynod boblogaidd hwn, y tro yma mewn fformat ar-lein, a fydd yn agored i bob menter gymdeithasol sydd wedi’i sefydlu, nid y rheiny yn yr Alban yn unig.

Mae Academi Manwerthu (Retail Academi) SIS yn helpu mentrau cymdeithasol i ganfod eu ffordd mewn marchnadoedd sy’n newid.

Eleni, mae’r prif ddarparwr cyllid cyfrifol, Social Investment Scotland (SIS), yn symud ei Academi Manwerthu 2020 ar-lein, er mwyn cefnogi mentrau cymdeithasol sy’n seiliedig ar gynnyrch a gwasanaeth i ganfod eu ffordd trwy gymlethdodau gwerthu cynnyrch a gwasanaethau ynghanol pandemig Covid-19.

Mae’r rhaglen bellach ar agor i geisiadau ac wedi’i anelu at fentrau cymdeithasol ac entrepreneuriaid yn yr Alban sydd â’r bwriad o gyrraedd cronfa gwsmeriaid fwy, arallgyfeirio ac addasu i’r dirwedd fasnachol sy’n newid, yn enwedig ar drothwy cyfnod prysur y Nadolig.

Mae’r Academi Masnachu, a gyflenwir mewn partneriaeth ag Asda a chyda cefnogaeth Llywodraeth yr Alban, yn cyfuno pedwar diwrnod o weithdai rhyngweithiol gan arbenigwyr manwerthu. Bydd y rhaglen yn ymdrin â phynciau megis manwerthu digidol a thueddiadau sydd ar ddod gyda siaradwyr yn cynnig cyngor ac arweiniad gwerthfawr ar sut i addasu i dirwedd fasnachol sy’n newid yn barhaus.

Os yw eich menter gymdeithasol ynghlwm â masnachu naill ai fel cyflenwr cynnyrch neu trwy redeg eich safle gwerthu eich hun bydd rhywbeth i’w ddysgu o’r rhaglen lawn. Mae hyn yn cynnwys sesiwn gan Margaret McSorley Walker, un o brif arbenigwyr y DU ar ymddygiad prynu cwsmeriaid a strategaeth tueddiadau masnachu.

Cynhelir yr academi rhwng 27-30 Hydref 2020.

SUT GALL MUDIADAU O GYMRU GYMRYD RHAN?

Ar gyfer mudiadau cymdeithasol y tu allan i’r Alban codir ffi o £86 + TAW i bob cyfranogwr.

Os hoffech chi fynychu, e-bostiwch sic@wcva.cymru â’ch manylion cyswllt yn ogystal â chrynodeb byr o agweddau manwerthu eich busnes. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chymryd rhan yn Academi Manwerthu 2020 SIS mae croeso i chi gysylltu â ni ar y cyfeiriad e-bost uchod.

Mae manylion llawn yr academi ar gael yma: www.socialinvestmentscotland.com/sis-launches-online-retail-academy

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Swyddi Wag – Ymunwch â thîm cyllid CGGC

Darllen mwy