Gall mentrau cymdeithasol yng Nghymru ymgeisio bellach i SIS Retail Academy 2021.
Mae SIS Retail Academy yn helpu busnesau ac entrepreneuriaid sydd wedi’u gyrru gan genhadaeth i adnabod, llunio a deall y camau sydd angen iddynt eu cymryd er mwyn creu, tyfu a lluniadu eu gweledigaeth a chael effaith fesuradwy yn eu cymunedau.
Mae’r Academi wedi gwahodd arbenigwyr y diwydiant o safon fyd-eang i ddarparu gweithdai rhyngweithiol ar bynciau megis marchnata a gwerthu, cynigion cynnyrch, storïa ac adnabod tueddiadau.
Mae’n agored i bob menter gymunedol sydd wedi’i sefydlu, nid y rheini yn yr Alban yn unig.
Os hoffech chi wybod mwy, ymunwch â ni ar 8 Mawrth am 4pm lle byddwn yn cynnal sesiwn wybodaeth fer ar-lein gyda gwesteiwr SIS Retail Academy, Rachael Brown. E-bostiwch dîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru i gofrestru, os gwelwch yn dda.
PAM DDYLWN I YMGEISIO?
Mae’r pandemig wedi ysgogi newid yn y dirwedd manwerthu. Bydd arbenigwyr yr SIS Retail Academy yn rhannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu ac yn eich helpu chi i adnabod yr hyn y gallwch chi ei ddysgu oddi wrth eich cwsmeriaid eich hun.
Byddant hefyd yn esbonio sut gallwch gymhwyso tueddiadau manwerthu a chynghorion a thriciau e-fasnach arfaethedig i’ch helpu i gymryd y camau nesaf ar eich siwrnai.
Bwriad y gyfres unigryw hon o seminarau yw eich helpu i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd hyn a chreu mwy o effaith amgylcheddol-gymdeithasol.
DYSGWCH ODDI WRTH Y GORAU
Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle unigryw i ddysgu sut i dyfu a datblygu, mewnwelediadau i dueddiadau’r dyfodol, sut i ddeall cwsmeriaid, a sut i farchnata’ch busnes a’ch brand mewn tirlun manwerthu sy’n newid yn gyson.
Dros bum diwrnod, bydd y cohort yn dysgu sut i:
- Weithredu o fewn marchnad ‘busnesau-er-lles’
- Cwrdd â gofynion y cwsmer o ran yr economi werdd
- Cyrraedd marchnadoedd y cwsmer o fewn byd masnachu sy’n newid yn gyflym
- Cryfhau eu marchnata digidol a’u gwerthiant ar-lein
- Manteisio ar dueddiadau manwerthu 2022.
Bydd cyfranogwyr hefyd yn cael mynediad cyfyngedig i alumni’r SIS Retail Academy ac yn dysgu sut i gymhwyso’r gweithdai i fywyd go iawn.
SUT I YMGEISIO
Dylai mentrau cymdeithasol sydd â diddordeb gyflwyno’u cais trwy ffurflen ar-lein SIS, sydd ar eu gwefan.
Croesewir ceisiadau gan fudiadau cymwys o nawr hyd 11 Mawrth.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r broses ymgeisio, ymunwch â ni mewn sesiwn wybodaeth gyda gwesteiwr SIS Retail Academy, Rachael Brown, ar 8 Mawrth am 4pm. E-bostiwch dîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru i gofrestru, os gwelwch yn dda.
DYDDIADAU
Dyddiadau: 26 – 30 Ebrill 2021 (boreau yn unig)
Ar-lein: Caiff sesiynau eu darparu trwy Zoom, a bydd y cohort yn defnyddio Slack er mwyn cyfathrebu a rhwydweithio.
Cost: £100 + TAW
CYMERADWYAETH
‘Diolch o galon am wythnos hynod ysbrydoledig sydd wedi fy nghodi i a dod â fi yn ôl i’r gêm.’
‘Fe wnaeth y sesiynau fy ysbrydoli, ac rydw i wedi dysgu cymaint oddi wrth arweinwyr yr academi, y siaradwyr gwadd, a fy nghyd-fynychwyr. Nid yn unig y cefais fewnwelediadau anhygoel yn y sesiynau, ond cefais hefyd frwdfrydedd o’r newydd ynglŷn â’r hyn y gall y busnes ddatblygu i fod a’r hyn y gall menter gymdeithasol ei wneud er mwyn creu gwahaniaeth.’