Yn ôl gwaith ymchwil diweddaraf NCVO (Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol) ar brofiad gwirfoddolwyr, er bod gwirfoddoli yn parhau i fod yn brofiad boddhaol gan amlaf, mae lle i wella.
Mae gwirfoddoli yn chwarae rhan bwysig ym mywydau cymaint o bobl – naill ai am eu bod yn gwirfoddoli eu hunain neu am eu bod yn elwa ar yr hyn y mae’r gwirfoddolwyr yn ei wneud. Mae gwirfoddolwyr yn rhoi eu hamser o’u gwirfodd ac er budd pobl eraill. Mae’n bwysig iawn bod yr amser y maen nhw’n ei roi yn cael ei dreulio’n dda, fel bod gwirfoddoli yn parhau i fod yn brofiad boddhaol a buddiol i bawb dan sylw.
TIME WELL SPENT (Amser wedi’i dreulio’n dda)
Mae ymchwil ‘Time Well Spent’ NCVO (Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol) yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i ni o brofiad y gwirfoddolwr. Gwnaeth yr adroddiad cyntaf, a gyhoeddwyd yn 2019 (Saesneg yn unig), ddefnyddio data arolwg o 10,103 o oedolion ledled Prydain Fawr. Gwnaeth yr adroddiad diweddaraf hwn, Time Well Spent 2023 (Saesneg yn unig) gynnwys arolwg mawr arall o 7,006 o oedolion ledled Prydain Fawr, trwy banel ar-lein YouGov.
Mae llawer wedi newid ers i’r adroddiad cyntaf gael ei gyhoeddi pedair blynedd yn ôl. Gwnaeth COVID-19 herio a newid gwirfoddoli mewn ffyrdd amrywiol (gweler ein hadroddiad: Y dyfodol rydym yn ei greu: gwersi o wirfoddoli mewn pandemig yng Nghymru). Gwnaeth hefyd newid y ffordd rydyn ni’n gweithio. Mae Brexit wedi effeithio ar y gweithlu, gan adael prinder amlwg o weithwyr yn y maes iechyd a gofal.
Mae ymgyrchoedd byd-eang fel Mae Bywydau Du o Bwys a #FiHefyd wedi codi ymwybyddiaeth o brofiadau lleiafrifoedd. Mae’r argyfwng costau byw wedi gwneud i bobl edrych yn fanylach ar y ffordd y maen nhw’n defnyddio’r arian a’r amser sydd ganddyn nhw – ac ar yr un pryd, mae wedi cynyddu’r galwadau ar wasanaethau’r sector gwirfoddol, a chan hynny, y galwadau ar amser gwirfoddolwyr.
Casglwyd data’r arolwg tuag at ddiwedd 2022 a bydd yr ymatebion yn adlewyrchu’r profiadau yn ystod ac ar ôl cyfyngiadau COVID-19.
CYFRANOGIAD A BODDHAD
Er y gwelir ychydig o ddirywiad mewn gwirfoddoli ffurfiol yn ôl arolwg Community Life (sy’n berthnasol i Loegr yn unig) – yn enwedig ers 2019, gyda 27% o’r ymatebwyr yn nodi eu bod wedi cymryd rhan o leiaf unwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – canfu gwaith ymchwil NCVO fod gwirfoddoli wedi cynyddu yn y sector cyhoeddus (o 17% i 23%), o bosibl oherwydd mentrau fel Ymatebwyr y GIG yn Lloegr.
Fodd bynnag, datblygodd ffurfiau newydd o wirfoddoli yn sgil y pandemig a allai fod wedi niwlo’r ffiniau rhwng yr hyn a ystyrir yn gwirfoddoli ffurfiol neu anffurfiol. Mae’n bosibl nad yw’r dirywiad a adroddwyd yn adlewyrchu’r tueddiadau mewn mathau mwy anffurfiol o weithgarwch gwirfoddol.
Ar y cyfan, mae boddhad gwirfoddolwyr yn parhau i fod yn uchel (gyda 92% o’r ymatebwyr a wirfoddolodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn fodlon iawn neu’n eithaf bodlon â’u profiad). Mae’r boddhad yn parhau i fod yn is ymhlith grwpiau penodol: gwirfoddolwyr iau, gwirfoddolwyr yn y sector cyhoeddus, pobl ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a gwirfoddolwyr anabl.
Yr hyn sy’n allweddol i foddhad gwirfoddolwyr yw teimlad o gefnogaeth a chydnabyddiaeth, diwylliant o ymddiriedaeth a pharch ac ymdeimlad o berthyn i’r mudiad.
CYMHELLIAD A CHADW
Y mudiadau y mae gwirfoddolwyr yn gwirfoddoli â nhw’n amlaf yw grwpiau cymunedol neu gymdogol (21%), ac wedyn iechyd, anabledd a lles cymdeithasol (17%).
‘Eisiau gwella pethau/helpu pobl’ yw’r prif gymhelliad o hyd (40%), ac wedyn ‘bod ag amser rhydd’ (31%) a ‘theimlo’n gysylltiedig â’r achos/mudiad’ (30%).
Adroddir mai’r agwedd bwysicaf ar wirfoddoli yw ‘gwneud gwahaniaeth’, ac wedyn ‘dim teimlo dan bwysau i roi amser’. Mae mwy na chwarter o’r bobl (26%, i fyny o 19% yn 2019) yn teimlo bod eu gwirfoddoli yn teimlo gormod fel gwaith â thâl, ac mae mwy yn debygol o deimlo fel hyn o fewn y sector cyhoeddus a mudiadau â chydlynydd sy’n cael ei dalu. Dangosodd ymchwil ar Wirfoddoli a llesiant yn ystod y pandemig fod llawer o bobl yn teimlo’n flinedig neu hyd yn oed yn orflinedig ar ôl blynyddoedd heriol COVID ac mae angen gwerthfawrogi hyn.
Fel y disgwyliwyd, mae’r cymhellion yn amrywio yn ôl demograffig. Roedd 25% o bobl 18 – 24 oed yn cael eu hysgogi gan eu gyrfaoedd neu gymwysterau a chyda diddordeb mewn ennill sgiliau. Yn gyffredinol, fodd bynnag, nododd 60% o bobl eu bod yn defnyddio’u sgiliau proffesiynol yn eu gwirfoddoli.
Mae’r gwaith o reoli gwirfoddolwyr yn dda yn ymwneud â darparu ar gyfer cymhellion cymysg; rhai anhunanol (awydd i helpu pobl eraill) a chyfrannol (budd i’w hun) ac yn cydnabod y gall cymhellion newid dros amser.
MEYSYDD I’W GWELLA
Caiff hyblygrwydd ei werthfawrogi’n fawr – o ran yr amser y gellir ei ymrwymo ac o ran y ffordd y defnyddir yr amser hwnnw. Sicrwydd ynghylch hyblygrwydd yw un o’r prif bethau a fyddai’n annog mwy o bobl nad ydynt yn wirfoddolwyr i wirfoddoli.
Mae effaith ariannol gwirfoddoli yn dod yn fwyfwy o bryder, yn enwedig ymhlith grwpiau oedran iau. Yn ddiddorol iawn, dywedodd 28% o wirfoddolwyr na allent hawlio treuliau o’u mudiadau ac nid oedd 16% arall yn gwybod. Mae ad-dalu treuliau parod yn bwysig i sicrhau mynediad cyfartal at gyfleoedd gwirfoddoli.
Gwnaeth ychydig yn llai o wirfoddolwyr (na 2019) nodi eu bod yn gweld ystod eang o gefndiroedd ymhlith y rheini sy’n gwirfoddoli gyda nhw, sy’n awgrymu bod angen gwneud mwy i wella amrywiaeth gwirfoddolwyr yn gyffredinol.
Gwnaeth y gwaith ymchwil gynnwys sampl fwy o bobl o gymunedau lleiafrifol. Bydd dadansoddiad o’r data hwn yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn edrych yn fanylach ar brofiadau gwirfoddoli grwpiau lleiafrifol.
AM RAGOR O WYBODAETH
Am ragor o wybodaeth, gallwch chi ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, gwylio recordiad o’r digwyddiad lansio neu weld fideo byr ar bum canlyniad (gwefannau Saesneg yn unig).
Ysgrifennwyd y briff cryno hwn gan Helplu Cymru. Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Tudalen we Helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau, blogiau ac astudiaethau achos diweddar.