A ydych chi’n barod i wneud y mwyaf o wirfoddolwyr newydd?

A ydych chi’n barod i wneud y mwyaf o wirfoddolwyr newydd?

Cyhoeddwyd : 02/11/20 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae mudiadau a phobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig yn paratoi i ddathlu’r #WythnosByddaf flynyddol, eleni ar ffurf gŵyl #PŵerIeuenctid ddigidol.

Eleni, rydyn ni eisoes wedi gweld cynnydd aruthrol mewn ymholiadau am wirfoddoli yng Nghymru ac rydyn ni’n rhagweld cynnydd arall, y tro hwn oddi wrth bobl ifanc sy’n chwilio am achos gwerthfawr i roi o’u hamser iddo.

Bydd yr ŵyl #PŵerIeuenctid yn annog sefydliadau i:

  • YSBRYDOLI a CHAEL EU HYSBRYDOLI drwy rannu’r hyn rydych chi’n ei wneud i gynnwys pobl ifanc mewn gweithredu cymdeithasol
  • DYSGU oddi wrth ddulliau a chynnydd ei gilydd ar draws sectorau a gwledydd gwahanol
  • ADDYSGU ac ARLOESI i GREU cyfleoedd gwirfoddoli gwych i bobl ifanc
  • CYSYLLTU a CHYDWEITHIO drwy feithrin perthnasoedd ag arweinwyr gwirfoddolwyr a all eich helpu i gefnogi’r siwrnai gwaith gwirfoddol i bobl ifanc

Os hoffech chi baratoi ar gyfer y dathliad hwn a bod yn barod i groesawu gwirfoddolwyr ifanc newydd drwy ddrysau eich sefydliad (yn rhithiol o bosibl), gallwn eich cefnogi fel a ganlyn.

AR EICH MARCIAU…

  1. Meddyliwch sut mae eich sefydliad yn cynnwys gwirfoddolwyr ar hyn o bryd a pha gyfleoedd sydd gennych i ddatblygu hyn i’r dyfodol. Mae’r Hanfodion Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr newydd yn fframwaith defnyddiol i’ch helpu i feddwl.
  2. Defnyddiwch y Siarter Gwirfoddoli Ieuenctid a Gweithredu Cymdeithasol i ystyried sut gallwch greu profiadau gwirfoddoli gwerthfawr a phositif i bobl ifanc yn eich sefydliad. Ewch â phethau un cam ymhellach gyda’r Siarter Pŵer Ieuenctid
  3. Neilltuwch amser i ddysgu rhagor am sut i gynnwys pobl ifanc mewn gwaith gwirfoddol a gweithredu cymdeithasol drwy fynychu’r modiwl e-ddysgu sydd ar gael gan Cymorth Trydydd Sector Cymru (TSSW) a darllen y ddalen wybodaeth

PARATOWCH…

  1. Ewch ati i greu amgylchedd cynhwysol i groesawu gwirfoddolwyr newydd, gan feddwl pwy sydd angen bod yn rhan o’r broses hon
  2. Dyluniwch becyn recriwtio gwirfoddolwyr a rôl-ddisgrifiadau a fydd yn atyniadol i wirfoddolwyr ifanc. Gofynnwch i rai pobl ifanc edrych ar y rhain cyn eu cyhoeddi, neu’n well fyth, a oes pobl ifanc a allai eu gwneud nhw.
  3. Cofrestrwch a lanlwytho eich cyfleoedd i gwirfoddoli-cymru.net
  4. Cysylltwch â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol (CGS) lleol i ddweud wrthynt eich bod yn barod (neu’n paratoi) i dderbyn gwirfoddolwyr newydd.

EWCH…

O’r 16eg Tachwedd, caiff pobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig eu hysbrydoli a’u hannog i chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio’u pŵer yn y ffordd orau er mwyn creu newid cadarnhaol.

Gobeithiwn y byddwch chi yno i’w croesawu nhw.

Yn defnyddio gwirfoddolwyr ifanc yn barod?

Os ydych chi eisoes yn darparu profiadau gwirfoddoli gwych i bobl ifanc, rhowch wybod i’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol; fe allant helpu i gryfhau eich gwaith a’ch helpu i ddatblygu eich cysylltiadau er mwyn ysbrydoli eraill. Mae’n bosibl y cewch wahoddiad i ymuno â’u Fforwm Rheolwyr Gwirfoddoli lleol os oes un i’w gael yn eich ardal.

I gael rhagor o wybodaeth

Gallwch ddysgu rhagor am yr ymgyrch #byddafhttps://www.iwill.org.uk/

Gallwch ddysgu rhagor am yr ŵyl #PŵerIeuenctid a’r digwyddiadau digidol a gynhelir yr wythnos honno – https://www.iwill.org.uk/poy-campaign-june

Mae rhagor o adnoddau ar wirfoddoli hefyd i’w cael ar Borth Dysgu a Datblygu TSSW – https://cefnogitrydyddsector.cymru/adnoddau/

Mae’r ymgyrch #byddaf wedi datblygu’r Siarter Pŵer Ieuenctid fel fframwaith er mwyn i’ch sefydliad rymuso rhagor o bobl ifanc i siapio penderfyniadau, ymroi i weithredu cymdeithasol a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y siarter yma

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy