Rydym yn rhannu canfyddiadau allweddol o’n hastudiaeth annibynnol ar presenoldeb elusennau’r DU yng Nghymru ac effaith COVID-19
Mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru yn cynnwys amrediad eang o fudiadau o wahanol feintiau, o’r grwpiau cymunedol lleiaf i elusennau rhyngwladol mawr. Mae hyn hefyd yn cynnwys y swyddfeydd hynny sydd gan elusennau’r DU yng Nghymru, yn enwedig ym meysydd iechyd, yr amgylchedd a gwrthdlodi. Mae Cymru, heb os, wedi elwa ar brofiad, ac adnoddau ariannol, yr elusennau mawr hyn.
Yn ystod pandemig y coronafeirws, bu’n rhaid i lawer o elusennau ddileu swyddi i ymdopi â’r swm drastig o incwm a gollwyd ganddynt. Yn ystod yr amser hwn, clywodd CGGC fod nifer o rolau allweddol yng Nghymru yn cael eu dileu gan elusennau’r DU. Roeddem eisiau comisiynu ychydig o waith ymchwil i weld i ba raddau roedd hyn yn digwydd, ynghyd â’r effaith ar y bobl mae’r elusennau’n eu cefnogi.
CANFYDDIADAU ALLWEDDOL
Gwnaethom ni gomisiynu Carys Mair Communications Cyfathrebu i wneud ymchwil annibynnol drwy siarad â staff arweiniol sy’n gweithio i elusennau’r DU yng Nghymru i asesu hyn. Gwnaeth yr holl ymatebwyr hyn yn ddienw.
Er i’r adroddiad nodi rhai achosion lle y mae hyn wedi digwydd, ni wnaeth nodi tueddiad cyffredinol, a darlun cymysg sydd gennym ar y cyfan. Cafwyd nifer o safbwyntiau o ran a oedd swyddfeydd Cymru yn cael eu parchu a faint oedd mudiadau’n ei ddeall am ddatganoli.
Gwnaeth yr adroddiad nodi nifer o negeseuon allweddol:
- Pan fydd mudiadau yn parchu ac yn deall datganoli, mae’r timau o’u mewn yn teimlo’n fwy diogel neu gysurus yn y rolau hyn.
- Mae nifer o rolau strategol wedi’u dileu a rhai o’r rolau wedi’u symud yn ôl i’r prif swyddfeydd, ac mae pryder ynghylch effaith hyn ar y timau.
- Gofidir y gallai rolau polisi ac eirioli sy’n ymwneud yn benodol â Chymru gael eu dileu.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi rhai awgrymiadau gan y cyfranogwyr unigol ar gyfer CGGC a Llywodraeth Cymru, y byddwn yn eu hystyried.
Daw hyn ochr yn ochr â’r cyfleoedd sy’n gwanhau’r effaith ddaearyddol ar elusennau. Gyda llai o angen am swyddfeydd a gwasanaethau wyneb yn wyneb, mae’n debygol y gallem ni weld elusennau sy’n darparu gwasanaethau mewn un ardal yn symud i ardaloedd eraill. Mae ffiniau cenedlaethol yn dod yn llai o rwystr, hyd yn oed wrth i’r ymraniad ym mholisïau cyhoeddus y pedair cenedl gynyddu.
CYDWEITHIO
Mae CGGC yn bodoli i gynorthwyo sector gwirfoddol Cymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd. Rydyn ni’n credu ein bod ni i gyd yn elwa – ac yn bwysicach na hynny, bod yr holl bobl sy’n dibynnu ar elusennau yng Nghymru yn elwa – pan fydd cydweithrediad rhwng pob rhan o’r sector gwirfoddol.
Mae’r Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) wedi gwneud ymchwil (Saesneg yn unig) ar y ffordd orau o wneud hyn yn Lloegr. Mae gan elusennau yng Nghymru sy’n gweithredu ledled y DU rôl hynod bwysig o ddwyn rhwydweithiau polisi ynghyd ac arwain ar rai cynigion cyllido partneriaeth. Trwy edrych ar y tueddiadau o ran cyfansoddiad y sector gwirfoddol yng Nghymru, mae CGGC yn gobeithio sbarduno pob rhan ohono at bartneriaethau.
CYSYLLTWCH Â NI
A yw’r erthygl hon wedi gwneud i chi feddwl am rywbeth? A ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â chasgliadau’r adroddiad? A oes gennych chi astudiaeth achos dda o bartneriaeth rhwng mudiadau mwy a llai o faint yng Nghymru, neu syniad am sut i sefydlu un? Os oes gennych chi unrhyw sylwadau, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at policy@wcva.cymru.